Cartref yn Sir Gâr sydd wedi denu y sylw mwyaf eleni, medd Zoopla

- Cyhoeddwyd
Cartref tair ystafell wely ger Pencader sydd wedi denu y mwyaf o sylw yn y DU eleni yn ôl data gan y wefan gwerthu tai, Zoopla.
Mae'r tŷ yn sefyll ar ben ei hun ar gyrion y pentref a dywed y cwmni bod y ffaith iddo gael y mwyaf o views yn adlewyrchu, o bosib, yr awydd i fyw yng nghefn gwlad.
Pris y tŷ yw £220,000 - sydd tua £30,000 yn is na phris cyfartalog tai yn y DU. Mae ganddo ddwy ystafell ymolchi, cegin ffermdy a golygfeydd o'r wlad.
Dywedodd yr asiant, John Francis, ei fod "yn ddelfrydol ar gyfer tyfu llysiau neu gadw ieir" ac yn agos at y pentref.
- Ffynhonnell y llun, Zoopla/John Francis

Disgrifiad o’r llun, Dywedodd yr asiant sy'n gwerthu'r tŷ ei fod mewn lle delfrydol yng nghefn gwlad ond hefyd yn agos at y pentref
1 o 4
Mae gan y tŷ baneli solar a gardd weddol fawr.
Ym Mhencader mae tua 500 o dai, siop, ysgol gynradd a siop sglodion.
Rhyw naw milltir i ffwrdd mae tref Caerfyrddin ac mae arfordir Ceredigion tua 12 milltir o'r tŷ.
Mae gwefan Zoopla yn galluogi pobl i edrych ar dai a fflatiau, sydd ar werth neu i'w rhentu, ymhob rhan o'r DU.
Mae eu hadolygiad blynyddol ar gyfer 2025 yn awgrymu bod yn well gan bobl bellach fyw mewn man tawel nag yn y ddinas.
Y termau a gafodd eu chwilio amdanyn nhw fwyaf oedd 'garej' ac 'annexe' - y llynedd 'rhyddfraint' (freehold) oedd ar y brig.

Mae Siôn a Leah wedi cael sioc bod tŷ ym Mhencader wedi denu gymaint o sylw
Mae nifer o bobl leol wedi cael sioc gyda'r sylw.
Yn ôl Siôn Thomas "s'dim lot i ddenu pobl i'r ardal so ma' hwnna yn sioc mawr ond mae e yn le neis i fyw".
"Mae e'n cael lot o rep gwael ond mae lot o lefydd neis rownd i gerdded a siopau lleol ac ysgol a phopeth sydd eisiau yn y pentref," meddai.
Ychwanegodd Leah, sy'n 18 ac o Bencader: "Bydde ti byth yn meddwl bydde Pencader gyda'r tŷ mwyaf viewed achos mae e'n fach. S'dim lot i 'neud 'ma."
Ond "mae Pencader yn le neis i fyw", ychwanegodd.
"Mae e'n dawel, ti'n dod i adnabod pawb, pobl neis i gael yna" ond "s'dim lot o bobl yn gwybod am Bencader.
"Ti'n gweud wrth bobl bo ti'n byw 'na a s'dim cliw 'da pobl le 'ma fe. So ie, bach yn shocked."
Angen rhewi rhenti dros y gaeaf medd Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
Cyngor Gwynedd i godi premiwm treth 150% ar dai gwag
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2025
'Argyfwng tai Cymru'n dwysáu' yn ôl elusen dai flaenllaw
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2025
Unwaith eto eleni tai teras â thair ystafell wely oedd y math o eiddo roedd y galw mwyaf amdano.
Dywedodd Zoopla bod y math hwnnw o dŷ yn parhau i fod yn boblogaidd gan ei fod yn fforddiadwy ac yn addas ar gyfer teuluoedd.
Yr ail dŷ mwyaf poblogaidd, yn ôl data Zoopla, oedd cartref £1.8m yn yr Alban.
Mae hwnnw'n cynnwys chwe ystafell wely, pwll nofio, sawna, ystafell stêm, campfa a chae chwaraeon.
Yn ôl cyfryngau cymdeithasol Zoopla, mae'r eiddo mwyaf poblogaidd eleni hefyd yng Nghymru sef tŷ teras Doris o Gavin & Stacey yn Y Barri.
Pris y tŷ oedd £220,000 ac mae ganddo ddwy ystafell wely a dwy ystafell ymolchi.
Cafodd ei brynu gan "ffan enfawr" o'r rhaglen, Lisa Molloy, sy'n bwriadu ei rentu fel llety gwyliau.
Tŷ yng Nghonwy ar frig rhestr Rightmove
Mae gwefan gwerthu tai arall, Rightmove, wedi dweud mai cartref yng Nghymru sydd wedi denu'r mwyaf o sylw eleni gyda nhw hefyd.
Adeilad rhestredig Gradd II, dolen allanol yng Nghonwy sydd wedi dod i frig y rhestr.
"Yn dyddio'n ôl i 1441 ac wedi'i drawsnewid yn llwyr rhwng 2014 a 2015, mae'r cartref pedair ystafell wely rhyfeddol hwn yn cyfuno treftadaeth hanesyddol â steil cyfoes yn berffaith."
Mae nifer yn cofio'r cartref hefyd am gael esgid enfawr yn yr ystafell ymolchi.
Ar un adeg roedd yn eiddo i ficer Conwy, John Brickdall (1569-1607) ac mae ei lythrennau cyntaf uwchben y drws.
Mae trawstiau'r to wedi'u dyddio i 1441, sydd ychydig ar ôl gwrthryfel Owain Glyndŵr.
Ar ôl cael ei ddefnyddio fel ficerdy, roedd yn dafarn, Tafarn y Llew Du, a hynny o'r 18fed ganrif hyd at 1935.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.


