Elfyn Evans yn ennill Rali Sweden ac yn arwain pencampwriaeth y byd

Dywedodd Elfyn Evans ar ôl y rali ei fod yn "hapus hefo'r amser yn y diwedd ac yn hapus hefo'r canlyniad"
- Cyhoeddwyd
Mae Elfyn Evans wedi ennill Rali Sweden am y trydydd tro, ac yn arwain Pencampwriaeth Rali'r Byd o 13 pwynt ar ôl dwy rownd.
Fe enillodd Evans a'i bartner, Scott Martin, y rali o 14.3 eiliad yn yr eira.
Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i Evans ennill Rali Sweden, ac ef oedd yn arwain am y rhan fwyaf o'r ras eleni - a gafodd ei chynnal dros bedwar diwrnod, 18 o gymalau a thua 300 o gilometrau.
"Dwi'n eithaf hapus ac yn teimlo rhyddhad rŵan," meddai Elfyn Evans, 37.
Roedd Evans o fewn trwch blewyn i gael ei goroni'n bencampwr rali'r byd am y tro cyntaf y llynedd, cyn iddo orffen yn chweched yn ras olaf y tymor - Rali Saudi Arabia.
Mae'n gobeithio am fwy o lwc eleni.
"Roedd hi'n anodd gyda'r holl reoli teiars, ond dwi'n hapus hefo'r amser yn y diwedd ac yn hapus hefo'r canlyniad," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd15 Ionawr
