Elfyn Evans yn colli allan ar ddod yn bencampwr byd

- Cyhoeddwyd
Mae Elfyn Evans wedi colli allan ar gael ei goroni'n bencampwr ralio'r byd am y tro cyntaf ar ôl iddo orffen yn chweched yn Rali Saudi Arabia.
Sebastian Ogier enillodd y Bencampwriaeth ar ôl gorffen yn drydydd yn rali olaf y tymor dydd Sadwrn.
Roedd Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd cyn dechrau'r rali olaf - ond dri phwynt yn unig ar y blaen i Ogier.
Ond ar ôl gorffen 2 munud a 40 eiliad tu ôl i'r Ffrancwr dros yr 17 cymal yn Saudi Arabia, mae Evans yn gorffen y Bencampwriaeth yn ail.
Yn siarad ar ôl y cymal olaf, dywedodd Evans: "Yn amlwg mae o wedi bod yn ddigwyddiad anodd.
"Rydyn ni wedi gwneud be allwn ni, a dyna ni. Rydyn ni'n gystadleuwyr ar ddiwedd y dydd, rydyn ni bob amser eisiau gwneud yn well, rydyn ni bob amser eisiau mwy."
Dyma'r pumed tro i Evans, 36, orffen yn ail ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd.
'Ddaru ni drio ein gorau ond ddim i fod tro 'ma' - Elfyn Evans
Tabl Rali Saudi Arabia ar ôl y cymal olaf
1. Thierry Neuville (Gwlad Belg), Hyundai, 3 awr 21 munud 17.3 eiliad
2. Adrien Fourmaux (Ffrainc), Hyundai, +54.7 eiliad
3. Sebastien Ogier (Ffrainc), Toyota, +1mun 03.3 eiliad
4. Sami Pajari (Y Ffindir), Toyota, +1mun 51.7 eiliad
5. Takamoto Katsuta (Japan), Toyota, +1mun 59.9 eiliad
6. Elfyn Evans (Prydain), Toyota, +3mun 43.9 eiliad
7. Kalle Rovanpera (Y Ffindir), Toyota, +5mun 31.5 eiliad
8. Gregoire Munster (Lwcsembwrg), Ford, +7mun 07.2 eiliad
9. Josh McErlean (Iwerddon), Ford, +8mun 30.5 eiliad
10. Oliver Solberg (Sweden), Toyota, +10mun 00.46 eiliad
11. Ott Tanak (Estonia), Hyundai, +11mun 04.4 eiliad
12. Gus Greensmith (Prydain), Skoda, +10mun 47.3 eiliad
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.