Angen gwneud mwy i ddenu pobl ifanc i'r byd ralïo - Elfyn Evans

Mae Elfyn Evans wedi awgrymu bod 'na le i wneud ralïo yn fwy hygyrch ac agored i bobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i sicrhau fod digon o gyfleoedd i bobl ifanc fentro i'r byd rasio a ralïo, yn ôl y Cymro Elfyn Evans.
Wrth baratoi at ddechrau'r bencampwriaeth ym Monte Carlo yr wythnos nesaf, dywedodd nad ydi'r bencampwriaeth Brydeinig yn gwneud "be' alle nhw wneud i ddod â phobl yn eu blaenau".
Mi ddaeth y Cymro yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd gan golli o drwch blewyn i'r Ffrancwr Sebastian Ogier.
Yn ôl Motorsport UK, mae cynllun academi blwyddyn wedi ei lansio er mwyn denu a chefnogi gyrwyr ifanc.
Elfyn Evans yn colli allan ar ddod yn bencampwr byd
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2025
Ergyd i obeithion Elfyn Evans o ddod yn bencampwr byd ar ôl pyncjar
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2025
Wrth edrych yn ôl ar y tymor diweddaraf, dywedodd Elfyn fod ganddo gymysgedd o deimladau.
"Dydi o ddim y tro cyntaf i ni fod yn y sefyllfa yma, yn brwydro am y bencampwriaeth tan y rownd olaf ond yn anffodus ddim yn gallu cipio'i felly 'dan ni 'di arfer efo'r teimlad," meddai.
"Ond wrth gwrs does 'na ddim amser rhy hir nes y bydd y tymor nesaf yn dechrau ac mae reit hawdd mewn ffordd i symud 'mlaen."
Elfyn Evans yn "canolbwyntio ar wneud fy ngorau"
Mae 'na lai 'na deufis rhwng y tymor diwethaf yn gorffen a'r un eleni yn dechrau, ac yn ôl Evans, mae'r paratoadau wedi dechrau hyd yn oed ynghynt.
"'Dan ni bob tro yn cychwyn rhyw brofion ar y ceir yn yr amodau gaeafol cyn y Nadolig wedyn mewn ffordd 'dan ni ddim wir yn stopio," esboniodd.
"Ond mae 'na gyfle dros y Nadolig i droi ffwrdd a gwneud rhywbeth arall ond fel arfer mae 'na ddigonedd o bethau i 'neud rownd y tŷ sydd heb eu gwneud ers blwyddyn felly allai'm deud bo' fi 'di ymlacio."
Gan baratoi i deithio i Monte Carlo dros y penwythnos mae'n dweud ei fod yn obeithiol am dymor da: "Dwi o hyd yn trio bod yn hyderus, 'dan ni byth yn gwybod sut mae pethau am droi allan.
"Dwi just yn canolbwyntio ar wneud fy ngorau a dyna fo really."
Cyrraedd y lefel uchaf yn 'gamp enfawr'
Ag yntau wedi bod yn cystadlu ers dros ddegawd mi ddywedodd fod 'na le i wneud y gamp yn fwy hygyrch ac agored i bobl ifanc, yn enwedig yma yng Nghymru.
"Mae'n gamp enfawr i dorri trwodd. Efallai dydi'r bencampwriaeth Brydeinig ddim yn gwneud be' alle nhw, dwi'n teimlo, i ddod â phobl yn eu blaenau - ac wrth gwrs fel unrhyw fath o motorsport mae 'na wastad heriau cost i bobl sydd eisiau cychwyn.
"Dydi o ddim yn beth hawdd ond mae 'na gyfleoedd yna, regulations newydd yn dod, ond ar hyn o bryd ychydig iawn o bobl sy'n dod fyny'r ysgol i fod ar y lefel uchaf."
Yn ôl Motorsport UK, eu nod ydi sicrhau bod y gamp yn "ddiogel, yn deg ac yn hwyl".
"I'r rheiny sydd â diddordeb datblygu mae'n academi ralïo newydd yn cynnig rhaglen blwyddyn o ddatblygu a chefnogi."
Mae'r cynllun, medden nhw, yn "cefnogi gyrwyr talentog ifanc o 15 oed".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.