Llywodraeth Cymru wedi eu 'bychanu' gan San Steffan ar ddatganoli

Alun Davies AS
Disgrifiad o’r llun,

"Nid yw'n deg bod Cymru'n cael ei thrin fel y mae," meddai Alun Davies AS

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi eu "bychanu" gan safbwynt eu cydweithwyr yn San Steffan ar ddatganoli, yn ôl AS o'r blaid Lafur.

Dywedodd Alun Davies "nad yw'n deg bod Cymru'n cael ei thrin fel y mae" yn ystod dadl yn y Senedd a ddatgelodd densiynau o fewn y blaid.

Mae'n yn dilyn llythyr gan aelodau meinciau cefn Llafur at Lywodraeth y DU, yn beirniadu cynllun i adfywio canol trefi oherwydd nad yw'n cynnwys y Senedd.

Yn siarad gyda BBC Cymru ddydd Iau dywedodd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens nad yw hi am ymddiheuro am y mater.

Plaid Cymru wnaeth gyflwyno'r ddadl, gydag arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth yn cyhuddo Keir Starmer o "ddiffyg cyflawniad llwyr i Gymru".

Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai aelodau Llafur Cymru'n teimlo bod y blaid yn Brydeinig wedi mynd dros ben y Senedd gyda chynllun canol trefi

Dywedodd Mr Davies ei fod eisiau "cydraddoldeb i'n gwlad o fewn y Deyrnas Unedig".

"Nid yw'n deg bod Cymru'n cael ei thrin fel y mae, ac nid yw'n deg bod gweinidogion Cymru'n cael eu bychanu – a gwelsom hynny'r prynhawn yma – yn gorfod rhedeg i ddal i fyny oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n cael ei ddweud o Lundain," meddai.

"Nid yw'n deg bod angen i weinidogion Cymru geisio egluro bod cyllid rheilffyrdd yn deg pan yn amlwg dyw nhw ddim, bod [fformiwla] Barnett yn deg pan yn amlwg dyw e ddim.

"Nid yw hynny'n deg."

Mae fformiwla Barnett yn cael ei ddefnyddio gan Drysorlys y DU i osod cyllid ar gyfer y gwledydd datganoledig.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylid ei newid oherwydd nad yw'n diwallu anghenion Cymru.

Roedd Mr Davies yn un o 11 o ASau Llafur o'r meinciau cefn a lofnododd y llythyr yn ymosod ar y ffordd y mae cyllid ar gyfer cynllun canol trefi, o'r enw Pride in Place, yn mynd yn uniongyrchol o Lywodraeth y DU i gynghorau lleol.

Mae'n defnyddio cyfraith sy'n rhoi pwerau i Lywodraeth y DU wario arian mewn ardaloedd sydd fel arfer yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth Jenny Rathbone lofnodi'r llythyr hefyd, gan ddweud fod y polisi'n "gosod un ardal ddifreintiedig yn erbyn un arall" a bod yr arian wedi'i gymryd o gyllid i Lywodraeth Cymru.

"Felly, dyna pam mae hyn mor ddinistriol ac mae'n ymwneud yn llwyr â materion beunyddiol y bobl rwy'n eu cynrychioli," meddai.

Llywodraeth y DU yn 'osgoi datganoli'

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn y gorffennol y bydd Pride in Place yn gadael i awdurdodau lleol benderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer eu hardaloedd a bod y cyllid "ar ben y cyllid [mwyaf erioed] rydyn ni eisoes wedi'i roi i Gymru".

Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Llywodraeth y DU yn "osgoi datganoli yn gyfan gwbl gyda'i chyllid Pride in Place".

Dywedodd yr AS James Evans o'r Ceidwadwyr Cymreig fod dadleuon ynghylch y setliad datganoli "nid yn unig yn flinedig, maen nhw'n tynnu ein sylw oddi wrth yr heriau difrifol y mae pobl Cymru yn eu hwynebu".

Clywodd y ddadl am ganlyniadau gwael i Lafur mewn arolygon barn cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Fe wnaeth y cyn-weinidog Lee Waters, a lofnododd y llythyr hefyd, gyhuddo'r Torïaid o fod "yn erbyn datganoli", gan ychwanegu ei fod yn "gywilydd mawr a'u bod wedi colli cyfle, ac mae'r arolygon barn yn dangos eu bod nhw'n mynd i dalu'r pris amdano - fel yr ydym ni yn ôl pob tebyg".

Wrth ymateb i'r ddadl, fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies ailadrodd galwadau Llywodraeth Cymru i ddatganoli pwerau dros Ystâd y Goron a'r system gyfiawnder.

"Cryfder ein record fel Llywodraeth Lafur Cymru ac fel plaid Lafur yng Nghymru yw ein bod yn sefyll dros ddatganoli ac yn cyflawni dros bobl Cymru," meddai.

Jo StevensFfynhonnell y llun, Reuters

Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens nad yw hi am ymddiheuro am y cynlluniau Pride in Place.

"Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt, a'r hyn maen nhw'n ei haeddu, er mwyn gwneud gwelliannau i'w bywydau dydd-i-ddydd," meddai.

"Os ydych chi'n agor eich drws yn y bore ac mae'r lloches bws wedi torri, neu os nad oes gennych chi ddigon o finiau yng nghanol eich tref - mae pobl eisiau'r pethau hyn gael eu trwsio.

"Dyna beth maen nhw ei eisiau. Dyna beth yw eu blaenoriaethau. Ac mae arian yn mynd i bob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn gwneud y mathau hynny o bethau.

"Dydw i ddim am ymddiheuro am hynny, oherwydd fy swydd i yw sicrhau ein bod ni'n cael mwy yng Nghymru, nid llai, a dydw i ddim am wrthod arian."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.