Cwpl yn 'ofni cysgu' rhag ofn i greigiau ddisgyn ar eu cartref

Ross a Jill
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ross a Jill Darbyshire yn pryderu am ddiogelwch eu cartref ar ôl i graciau ymddangos yn y graig

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl yn Sir Ddinbych yn dweud eu bod yn ofni mynd i gysgu rhag ofn i ochr y bryn y tu ôl i'w bwthyn ddymchwel arnyn nhw.

Dywedodd Ross a Jill Darbyshire o Rhewl ger Llangollen eu bod wedi clywed sŵn mawr ar 28 Ionawr, cyn sylwi ar graciau yn y graig lechi serth y tu ôl i'r tŷ.

Maen nhw'n credu y gallai daeargryn bychan a gafodd ei gofnodi yng Ngwynedd y noson honno fod wedi achosi'r llethr i symud.

Maen nhw'n ofni y gallai cannoedd o dunelli o graig ddisgyn ar unrhyw adeg, gan adael eu cartref yn anniogel.

Dywedodd Ross, 75: "Dydy o ddim yn gwestiwn o os y daw i lawr ai peidio - mae'n dod i lawr."

Dywedodd y cwpl eu bod wedi cael gwybod, gan fod y broblem ar eu tir eu hunain, nad yw'n fater y gall y cyngor helpu gyda hi.

Bwthyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwpl yn dweud bod y tŷ bellach yn anniogel oherwydd y symudiad yn y llethr

Prynodd y cwpl y bwthyn 600 mlwydd oed ger olion melin 10 mlynedd yn ôl, a gwneud gwaith adnewyddu sylweddol ar yr adeilad dwy ystafell a'r tir o'i amgylch.

Ond maen nhw bellach yn ofni y bydd yn rhaid iddyn nhw ildio'r eiddo gan ei fod wedi dod yn anniogel.

Maen nhw wedi ymgynghori ag adeiladwyr lleol am atgyfnerthu'r llethr, ond mae'r bwlch rhwng wal y tŷ a'r graig yn llai na dwy droedfedd (0.6m) o led ar y mwyaf, gan wneud y gwaith yn anodd.

Dywedodd Ross fod darnau miniog o lechi sy'n pwyntio allan yn erbyn wal y tŷ "fel dannedd draig".

Carreg
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerrig eisoes yn disgyn i lawr o amgylch yr eiddo

Dywedodd y cwpl fod cerrig bychain yn disgyn yn rheolaidd ar ôl taro'r to, cyn syrthio i'r llawr wrth ymyl y bwthyn.

Dywedodd Jill, 68, fod y sefyllfa wedi ei gwneud hi'n anodd cysgu gan ei bod yn gallu clywed y cerrig llai yn gwneud sŵn "ping ping ping", a'r rhai mwy yn taro'n drwm.

Fe wnaeth Arolwg Daearegol Prydain gofnodi daeargryn 0.9 o gryfder yng Nghwm Nantlle, Gwynedd, ar 28 Ionawr, gydag adroddiadau am sŵn crynu mor bell â Llangollen.

Ar ôl clywed y glec fawr y tu allan, dywedodd Jill: "Fe wnaethon ni eistedd i fyny tan tua 02:30 y bore a meddwl, 'tybed oedd hi'n ddiogel mynd yn ôl i'r gwely?'"

Mae'r cwpl yn credu bod y daeargryn wedi achosi i'r llethr symud a chracio'n sydyn, ac yn ofni mai mater o amser yw hi cyn iddo symud eto.

Bwthyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ross a Jill nad oes modd gwerthu'r bwthyn yn Rhewl ar hyn o bryd

Maen nhw'n poeni y gallai glaw trwm pellach neu dirlithriad arwain at drychineb.

Dywedodd Ross mai waliau'r tŷ yw'r unig beth sy'n atal y graig rhag symud ymhellach, ac y gallai wedyn ddod dros y to.

Dywedodd ei fod wedi bod eisiau byw yn yr ardal ers beicio i Langollen gyda ffrindiau yn ei ieuenctid o'i gartref yn Sir Stafford.

Disgrifiodd weld y bwthyn ar werth fel "cariad ar yr olwg gyntaf".

Ond dywedodd ei fod bellach wedi derbyn na allan nhw fyw yno mwyach, er nad yw'n hoffi hynny.

Dywedodd y cwpl eu bod yn "lwcus" fod ganddyn nhw eiddo dramor pe bai'n rhaid iddyn nhw symud allan ar fyr rybudd.

Ychwanegon nhw na fyddai modd gwerthu'r bwthyn yn Rhewl nes bod y wal a'r hen argae ansefydlog gerllaw yn cael eu hatgyfnerthu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig