Hoffech chi brynu Ynys Gifftan a ffermdy Fictoraidd am £350,000?

Mae'r ynys sydd ar werth yn barod wedi denu tipyn o sylw yn ôl yr asiantau tai
- Cyhoeddwyd
Mae yna ynys gyfan ar werth yn y gogledd am ychydig yn fwy na phris cyfartalog tai yn y DU, ond bydd angen i chi ddisgwyl am lanw isel os ydych chi am gerdded yn ôl i'r tir mawr.
Mae Ynys Gifftan yn ynys breifat yng ngheg afon Dwyryd yng Ngwynedd ac yn agos i Bortmeirion.
Mae'r ynys yn cynnwys 17 erw o dir a ffermdy Fictoraidd a oedd yn weithredol tan y 1970au - ond mae bellach angen tipyn o waith adnewyddu yn ôl yr asiant Carter Jonas ym Mangor.
Mae tystiolaeth archif yn dangos bod pobl a oedd yn arfer byw ar yr ynys yn yr 20fed ganrif yn arfer tynnu eu hesgidiau er mwyn cerdded yn ôl ac ymlaen o'r tir mawr mewn llanw isel.

Mae'r ynys yn cynnwys 17 erw o dir a ffermdy Fictoraidd
Mae'r pris wedi cael ei osod ar-lein fel £350,000 sydd ychydig yn uwch na phris cyfartalog tai yn y DU, sef £300,000.
Fe gafodd Ynys Gifftan ei rhoi i gyndeidiau'r perchennog, yr Arglwydd Harlech fel rhodd gan y Frenhines Anne yn ystod y 18fed ganrif, yn ôl y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
Mae'n debyg mai dyna yw tarddiad yr enw 'Gifftan', sef rhodd gan Anne.
Pan mae'r llanw'n uchel mae modd mynd yn ôl ac ymlaen o'r tir mawr mewn cwch, ond pan mae'r llanw'n isel mae modd cerdded drwy'r tywod gwlyb.
Dywedodd y syrfëwr Elis Jones: "Dydw i ddim yn credu ein bod ni erioed wedi gwerthu ynys o'r blaen.
"Mae llawer o ddiddordeb wedi bod. Mae'n sicr yn wahanol."

Mae angen tipyn o waith adnewyddu ar y ffermdy - fe gafodd y llun yma ei dynnu yn 2018
Mae'r cwmni gwerthu yn rhybuddio pawb sydd am ymweld â'r ynys i "fod yn ofalus" ac "i fod yn wyliadwrus bob amser er mwyn eu diogelwch personol eu hunain".
Ymhlith y risgiau posib, medden nhw, mae'r "llwybr i gyrraedd yr ynys, y tir a'r amodau llanw".
Ond dywedodd Hugh O'Donnell, o Carter Jonas, fod yr ynys yn "gyfle gwirioneddol unigryw i brynwr sy'n gwerthfawrogi ei lleoliad a'i photensial eithriadol".
"Ni'n disgwyl diddordeb gan brynwyr sy'n chwilio am brosiect a ffordd o fyw llawn cyffro a hynny ar un o dirweddau arfordirol harddaf Cymru, neu rywun sy'n chwilio am eu loches breifat," ychwanegodd.

Mae modd gweld Portmeirion o'r ynys
Ar wefan gwerthu tai Rightmove mae'r ynys yn cael ei disgrifio fel eiddo sydd wedi'i lleoli mewn tirwedd eang gyda golygfeydd panoramig o'r arfordir a'r mynyddoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ychwanegon nhw fod rhannau o'r tir wedi gordyfu ac y byddai rywfaint o waith i dacluso'r tir yn helpu'r ynys i gyrraedd ei photensial.
Mae'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn cynghori unrhyw un sy'n dymuno ymweld â'r ynys i wirio amseroedd y llanw.
Ychwanegon nhw mai dim ond ar droed mae cyrraedd yr ynys deirawr cynt a wedi llanw isel.
"Mae'r ynys wedi'i thorri i ffwrdd yn llwyr ac yn amhosib i'w chyrraedd yn ystod llanw uchel heb gwch."
Ond mae'r canllaw ar-lein yn dweud mai "dim ond pum munud y mae'n ei gymryd i gerdded y 400 metr i'r ynys".
Mae hefyd yn rhybuddio am lwybrau'r afon sy'n llifo rhwng Ynys Gifftan a'r tir mawr.
"Os byddwch chi'n cyrraedd y rhain a'u bod yn rhy ddwfn i'w croesi, er mwyn eich diogelwch mae'n rhaid i chi droi yn ôl," medd y rhybudd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.