Gofal unedau brys y gogledd 'yn waeth na rhai o ysbytai tlota'r byd'

Jon Osborne
Disgrifiad o’r llun,

Mae amodau mewn ysbytai yn y trydydd byd yn well na mewn unedau brys yng ngogledd Cymru weithiau, yn ôl Jon Osborne

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-lawfeddyg ac ymgyrchydd yn dweud bod safon y gofal mewn unedau brys yn rhai o ysbytai gogledd Cymru yn waeth na'r hyn sy'n cael ei gynnig yn rhai o ysbytai tlota'r byd.

Yn ôl Jon Osborne o Gonwy, fu'n llawfeddyg gyda'r gwasanaeth iechyd, mae nifer o gleifion yn cael eu trin mewn coridorau heb urddas na pharch.

Mae'n arwain ymgyrch BEDS sy'n galw ar fwrdd iechyd y gogledd a Llywodraeth Cymru i gynyddu capasiti mewn ysbytai cymunedol er mwyn lleddfu'r pwysau sydd ar nifer o wardiau ysbytai'r gogledd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn derbyn nad ydy'r sefyllfa i rai cleifion yn dderbyniol ond bod gwaith sylweddol ar y gweill i wella profiadau mewn unedau brys.

Gavin Borrough
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gavin Borrough, roedd treulio 24 awr mewn uned frys yn teimlo "fel wythnos"

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai ym mwrdd iechyd y gogledd mae'r rhestrau aros hiraf mewn unedau brys gyda 18.4% o achosion yn aros mwy na 12 awr.

Bu'n rhaid i Gavin Borrough o Drawsfynydd aros yn hir am driniaeth ar ôl dioddef problemau gyda'i stumog ym mis Tachwedd 2025.

"O'dd o'n brofiad erchyll, achos ti'n eistedd ar gadair ac mae gen ti boenau mawr, ti'n meddwl bo' ti'n marw mewn ffordd, dyna pam ti yn A+E oherwydd bod ti'n sâl uffernol," meddai.

"Cael dy adael ar gadair a neb yn dweud beth oedd yn digwydd na faint ti'n disgwyl, dim reassurance mewn ffordd.

"Mae 24 awr yn teimlo fel wythnos".

Erbyn cael ei symud i ward, roedd Gavin Borrough wedi treulio 42 awr yn yr uned frys ac yn dweud bod sawl un arall mewn sefyllfa debyg.

"Oedd bob man yn cael ei ddefnyddio, fel oeddat ti'n mynd drwy'r drws oeddat ti'n gweld gwlâu ar y coridor, pobl yn eistedd mewn cadeiriau a phobl ym mhob man," ychwanegodd.

Ar ôl cwyno ar gyfryngau cymdeithasol cafodd Mr Borrough ei wahodd i gyfarfod gydag un o reolwyr y bwrdd iechyd i drafod ei bryderon, ond mae'n teimlo nad yw gwersi wedi eu dysgu.

"Mae 'na wahaniaeth yn y polisïau maen nhw'n gaddo a'r patient experience."

'Cleifion yn marw heb fod angen'

Mae Jon Osborne yn gyn-lawfeddyg yn Ysbyty Glan Clwyd ond mae o hefyd wedi gweithio mewn nifer o wledydd tramor fel meddyg.

Mae o'n ymgyrchydd brwd yn galw am welliannau i ofal brys yn y gogledd gan ddweud bod y sefyllfa ar hyn o bryd yn annerbyniol.

"Mae 'na drasiedïau efo cleifion yn marw heb fod angen neu'n datblygu anhwylderau ac yn cael eu cadw mewn amgylchiadau ofnadwy ar goridorau lle mae mynediad at doiledau'n anodd a dydyn nhw ddim yn cael eu gwarchod," meddai.

"Dwi 'di gweithio yn y trydydd byd ac weithiau mae'r sefyllfa yn well [yno] nag ydy o ar hyn o bryd mewn unedau brys yma yng ngogledd Cymru."

Mair Dowell
Disgrifiad o’r llun,

Mae clywed straeon am yr heriau mewn unedau brys yn "torri calon" y cyn-nyrs, Mair Dowell

Mae'r grŵp ymgyrchu BEDS yn galw ar y bwrdd iechyd i agor mwy o wlâu mewn ysbytai cymunedol er mwyn lleddfu pwysau ar y wardiau mewn ysbytai cyffredinol.

Maen nhw hefyd yn galw ar feddygon mwy profiadol i weithio yn yr unedau brys er mwyn gwneud y broses o adnabod cleifion sydd angen cymorth yn gynt ac yn haws.

Mae'r cyn-nyrs, Mair Dowell o Lanelwy hefyd yn galw am welliannau ac yn aelod o'r ymgyrch.

Mi weithiodd Ms Dowell yn Ysbyty Glan Clwyd o'r diwrnod agorodd y safle hyd at 2017 ac mae hi hefyd yn dweud mai prinder gwlâu yw un o'r heriau mwyaf i'r bwrdd iechyd.

"Mae 'na gymaint o bobl hŷn yn yr ardal yma ac yn dod i oed retirio, ond 'di o ddim jest hynny, mae 'na bobl eraill sydd eisiau mynd adref ond 'di'r gofal ddim yna yn y gymuned," meddai.

Ychwanegodd fod gweld y penawdau a straeon am y pryderon am ofal yn "torri ei chalon".

'Lles ein cleifion wrth wraidd popeth'

Ym mis Ionawr fe wnaeth Cyngor Conwy ddilyn Cyngor Sir Ddinbych drwy ddatgan argyfwng iechyd a galw am welliannau a dod â'r drefn o drin cleifion mewn coridorau i ben.

Wrth ymateb dywedodd Tehmeena Ajmal, Prif Swyddog Gweithredu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod gofal brys ac argyfwng yn "parhau'n flaenoriaeth" a'u bod yn cydnabod bod "gormod o gleifion yn aros yn hirach nag y dylent ac y gall hyn gael effaith sylweddol a gofidus ar unigolion a'u teuluoedd".

"Mae rhaglen wella sylweddol ar y gweill ar draws ein hadrannau achosion brys. Mae hyn yn cynnwys rhoi clinigwyr profiadol wrth y drws ffrynt er mwyn asesu a chyfeirio cleifion at y gwasanaeth mwyaf priodol cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd; gwella mynediad cynnar at dimau arbenigol; atgyfnerthu penderfyniadau clinigol uwch ac ehangu gofal yn nes at y cartref fel bod y rhai sydd â'r anghenion mwyaf dybryd yn mynd i'n hadrannau achosion brys yn unig."

Ychwanegodd bod y bwrdd iechyd wedi cyfarfod ag aelodau BEDS a Mr Borrough "i glywed am eu profiadau'n uniongyrchol" a'u bod yn "ddiolchgar iddynt am roi o'u hamser i rannu eu safbwyntiau gyda ni".

"Mae diogelwch, urddas a lles ein cleifion wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud. Er bod mwy i'w wneud, rydym yn gweithio'n galed, yn ddiwyd ac yn benderfynol, i gyflawni gwelliannau cynaliadwy."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw gofal mewn amgylcheddau heb eu dynodi neu rhai nad ydynt yn glinigol yn dderbyniol. Mae'n peryglu urddas, diogelwch a lles cleifion.

"Rydym wedi darparu dros £200m o gyllid ychwanegol eleni i helpu pobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod, i sicrhau eu bod yn derbyn y gofal cywir, yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.

"Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau yn seiliedig ar asesiad o anghenion y boblogaeth leol. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ar gapasiti gwelyau ysbyty neu gwelyau yn y gymuned, er mwyn ateb y galw yn lleol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.