'Arwyddocaol' cael cwrs meistr fferylliaeth newydd yn y gogledd

Mae'r cwrs fferylliaeth newydd yn gwrs meistr pedair blynedd
- Cyhoeddwyd
Cafodd rhaglen fferylliaeth newydd Prifysgol Bangor ei lansio yn swyddogol ddydd Mawrth.
Mae'r cwrs newydd yn nodi carreg filltir arall yn natblygiad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
Mae'r cwrs newydd wedi cael cefnogaeth sylweddol gan gyrff eraill, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dywedodd Arfon Bebb o Brifysgol Bangor ei fod yn gobeithio y bydd y cwrs newydd yn ffordd o "ehangu ar y gweithlu lleol yng ngogledd Cymru".
'Aros yng ngogledd Cymru'
Mae'r rhaglen meistr fferylliaeth newydd yn gam arall ymlaen i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, a gafodd ei sefydlu yn 2024.
Fe wnaeth y myfyrwyr cyntaf ddechrau astudio'r cwrs meistr pedair blynedd newydd fis Hydref 2025.
Yn eu plith mae Celia Viney, sy'n 26 oed ac yn byw yn lleol.
"Roeddwn i'n hoff iawn o theatr a'r math yna o bethau, ac yna es i mewn i nyrsio deintyddol lle nes i ddarganfod fferylliaeth.
"Mi oedd gen i ddiddordeb, a phenderfynais wneud cais i ddod i Fangor.
"Mae wedi bod yn brofiad da hyd yn hyn - edrych mwy ar fferylliaeth a dysgu pethau nad oeddech chi wir yn sylweddoli eu bod nhw'n rhan ohono hefyd.
"Mae gen i ferch ddyflwydd a hanner oed, felly dyna oedd y peth gwych am Fangor - roedd yn golygu nad oedd yn rhaid i mi adael popeth ac roedd modd i mi aros yma.
"Felly ia, yn bendant byddwn ni'n aros yng ngogledd Cymru ac yn gweithio yma yn y dyfodol."

Mae Cadi (chwith) a Celia yn rhan o'r criw cyntaf o fyfyrwyr i astudio'r cwrs newydd
Mae Cadi Williams, 18, hefyd yn un o'r myfyrwyr cyntaf, ac wedi penderfynu aros yn lleol i astudio.
Roedd hi'n dweud ei bod yn bwysig iddi allu aros yn lleol a defnyddio'r Gymraeg.
"Mae'n rili pwysig i mi allu defnyddio fo yn y lle gwaith ac roedd y cyfle i wneud yr astudiaethau - hynny oedd y selling point rili.
"Yn y semester sydd newydd fod roedden ni'n datblygu ein sgiliau gwyddoniaeth... ym mis Mawrth mi fyddan ni'n mynd allan ar placement am wythnos.
"Mae Bangor wedi bod yn rili cefnogol i ni. Maen nhw'n gofyn barn ni ar bob dim."

Cafodd y cwrs newydd ei lansio yn swyddogol ddydd Mawrth
Yn ôl y brifysgol, mae'r cwrs wedi ei gynllunio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o fferyllwyr, ac mae'n "hwb mawr i wasanaethau lleol".
Mae'r cwrs fferylliaeth MPharm yn gwrs meistr pedair blynedd sy'n cynnwys hyd at 11 wythnos o gyfle i fyfyrwyr astudio ar leoliad.
Dywedodd Arfon Bebb, ymarferydd academaidd clinigol yn yr ysgol fferylliaeth, mai ei obaith ydi y bydd y cwrs newydd yn gymorth i "ehangu ar y gweithlu lleol yng ngogledd Cymru".
Dywedodd: "Y prif beth ydi bo' ni'n gallu cynnig a darparu cwrs sy'n fwy lleol i fyfyrwyr yng ngogledd Cymru.
"Mae 'na yn sicr brinder o fferyllwyr, fel ym mhob maes gofal iechyd yn yr ardal, ac mae lot o hyn i wneud efo natur pobl - wrth fynd i goleg bod nhw'n aros lle maen nhw'n astudio."

Mae Arfon Bebb yn dweud mai'r gobaith ydi cynyddu nifer y myfyrwyr ar y cwrs bob blwyddyn
Ychwanegodd: "Yn y cohort cyntaf mae gennym ni tua 30 o fyfyrwyr, yn gymysgedd o rhai lleol a rhai o dros Brydain i gyd.
"Flwyddyn nesaf, y gobaith ydi ehangu i 50 o fyfyrwyr yn cychwyn, a'r gobaith yn y tymor hir ydi fydd pob blwyddyn efo tua 100 o fyfyrwyr yn cychwyn.
"Mae ffocws mawr rŵan ar y claf a bod myfyrwyr yn dysgu sut i ymarfer fel fferyllydd o'r cychwyn cyntaf, ac yn wraidd i'r holl broses ydi bod myfyrwyr yn cael dros y cwrs pedair blynedd, bod nhw'n trio cael ryw 12 i 13 wythnos ar leoliad, boed mewn fferyllfa gymunedol, ysbyty neu feddygfeydd."
Cydweithio gyda'r bwrdd iechyd
Fel rhan o'r cwrs newydd mae llawer o gydweithio wedi bod gyda sawl corff, a'r bwrdd iechyd lleol yn rhan fawr.
Dywedodd Lois Lloyd, prif fferyllydd Bwrdd Iechyd Besti Cadwaladr: "'Da ni yma heddiw i ddathlu carreg filltir bod rhaglen fferylliaeth gogledd Cymru yn dechrau, a gweld y myfyrwyr yna ar eu taith yn y gogledd.
"Dipyn o beth arwyddocaol i fod yn onest, hwn ydi'r drydedd brifysgol fferylliaeth yng Nghymru, ac y peth pwysig i ni ydi'r cydweithio rhwng y bwrdd iechyd a'r brifysgol."

"Dydi bob dim ddim yn cael ei ddysgu yn y dosbarth tu ôl i ddesg" - Lois Lloyd
Pwysleisiodd fod y cwrs newydd yn rhoi ffocws mawr ar y claf, ac yn sicrhau mwy o brofiad ar leoliad i fyfyrwyr.
"Dydi bob dim ddim yn cael ei ddysgu yn y dosbarth tu ôl i ddesg," meddai.
"Maen nhw'n dod allan, gweithio gyda fferyllwyr... maen nhw'n cael dysgu y rôl o sut mae pethau yn gweithio, gallu rhoi tystiolaeth o sut maen nhw'n dysgu wrth fynd ymlaen a bod o ddim jest ar bapur o fewn y brifysgol.
"Mae'n gyffrous iawn i'n staff ni o fewn y bwrdd iechyd hefyd, bo' nhw'n cael bod yn rhan o'r cwrs mewn ffordd."
Ychwanegodd ei bod yn wych gweld y weledigaeth bod "fferyllwyr yn dod yma i ogledd Cymru ac wedyn yn gweithio ella o fewn gogledd Cymru yn ystod eu gyrfa".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd17 Medi 2024

- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2023
