Enzo Romano 'mor hapus' i fod yn gymwys i gynrychioli Cymru

Enzo RomanoFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Enzo Romano wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru dros y blynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae tad pêl-droediwr ifanc wedi diolch i'r cyhoedd am eu "cefnogaeth anhygoel", ar ôl cael gwybod y bydd ei fab yn gymwys i chwarae dros Gymru.

Daeth y penderfyniad wedi i ail gais Enzo Romano am ddinasyddiaeth Brydeinig gael ei wrthod ddechrau mis Chwefror - rhywbeth sydd ei angen i gynrychioli'r tîm cenedlaethol o dan reolau Fifa.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd yn 2009 i rieni o'r Eidal a Sbaen, ac mae wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru a Barcelona dros y blynyddoedd.

Mae'r BBC ar ddeall ei fod wedi cael gwybod bod ei gais am ddinasyddiaeth bellach "mewn sefyllfa i gael ei gymeradwyo", gan baratoi'r ffordd iddo gynrychioli Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Gartref nad yw'n gwneud sylwadau ar achosion unigol.

Mae Enzo wedi dweud ei fod yn "teimlo mor hapus i gynrychioli fy ngwlad eto".

Enzo RomanoFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Dywedodd Enzo nad oedd yn meddwl fod ganddo gyfle gan ei fod eisoes wedi cael ei wrthod ddwywaith, ond fod ganddo "obaith tu mewn i mi" i chwarae dros ei wlad.

"Mae'n foment gyffrous iawn, rydyn ni mor hapus am yr hyn sy'n digwydd," meddai Antonio - tad Enzo - wrth BBC Cymru.

"Pan wnes i ddeall fod hyn yn wirioneddol bwysig - nid yn unig i bêl-droed ond i Enzo - meddyliais: 'Fi'n mynd i ymladd tan y diwedd'.

"Ar ôl dwy flynedd o frwydro, gyda'r gefnogaeth anhygoel a gawsom gan bawb, mae'n hollol wych.

"Rydyn ni'n gweld gwên ar wyneb ein mab, felly dyna'r peth pwysicaf," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi cael ei synnu gan y cariad a gafon nhw gan bobl Cymru, gan ddweud mai "bachgen 16 oed, nid rhywun enwog" ydy Enzo.

"Dydy'r ffaith fy mod wedi symud i Barcelona ddim yn golygu nad ydw i'n Gymro," meddai'r pêl-droediwr.

"Y peth cyntaf sy'n dod i'm meddwl bob tro yw'r ddraig ar fy mrest.

"Byddaf yn trio gwneud fy ngorau i aros ar gopa'r mynydd - yn nhîm yr oedolion," ychwanegodd Enzo.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.