Pêl-droediwr ifanc i gael cynrychioli Cymru ar ôl tro pedol dinasyddiaeth

Enzo RomanoFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd pêl-droediwr ifanc yn cael chwarae dros Gymru ar ôl i'w gais am ddinasyddiaeth gael ei dderbyn gan y Swyddfa Gartref.

Daw'r penderfyniad wedi i ail gais Enzo Romano gael ei wrthod ddechrau mis Chwefror.

Yn sgil tystiolaeth newydd bydd Enzo bellach yn gymwys i gynrychioli Cymru ar lefel tîm y dynion yn y dyfodol.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, ei bod wrth ei bodd bod Enzo wedi cael dinasyddiaeth Brydeinig, gan ddisgrifio'r canlyniad fel "newyddion gwych i Enzo, ei deulu a phêl-droed Cymru".

Enzo RomanoFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Cafodd Enzo Romano ei eni yng Nghaerdydd yn 2009 i rieni o'r Eidal a Sbaen, ac mae wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru dros y blynyddoedd.

Pan oedd yn wyth oed fe arwyddodd i academi Barcelona cyn symud i Sbaen gyda'i deulu, ac mae ar hyn o bryd yn chwarae i Villasar de Dalt yn y Liga Elit yn Sbaen.

Er iddo dderbyn cynigion i gynrychioli Sbaen a'r Eidal ar lefel ieuenctid, mae Enzo wedi dweud yn flaenorol ei fod yn benderfynol o chwarae dros Gymru.

Wrth i Enzo gyrraedd 16 oed, mae rheolau FIFA yn golygu bod angen pasbort neu ddinasyddiaeth Brydeinig arno i chwarae dros Gymru mewn gemau cystadleuol sy'n cael eu cynnal dramor.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, roedd y penderfyniad gwreiddiol yn seiliedig ar Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981, sy'n mynnu bod o leiaf un rhiant yn ddinesydd Prydeinig neu wedi ymgartrefu'n barhaol yn y DU.

Roedd tad Enzo, Antonio Romano, wedi byw a gweithio yng Nghymru am ddegawd, ac roedd yn credu bod ganddo statws preswylydd parhaol.

Daeth y Swyddfa Gartref i'r casgliad nad oedd tad Enzo wedi cyrraedd y trothwy cyflog angenrheidiol am bum mlynedd yn olynol ar y pryd i brofi statws preswylydd parhaol.

Enzo RomanoFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Cafodd yr achos ei ailagor ddechrau mis Chwefror yn sgil tystiolaeth newydd gan y teulu.

Derbyniodd Antonio Romano llythyr yr wythnos hon gan y Swyddfa Gartref yn cadarnhau bod Enzo bellach yn "bodloni'r gofynion" a bod ei gais am ddinasyddiaeth bellach "mewn sefyllfa i gael ei gymeradwyo".

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cael cais am sylw.

Dywedodd Antonio Romano fod y teulu "mor hapus", gan ychwanegu: "Ar ôl dwy flynedd o frwydro, gyda'r gefnogaeth anhygoel gan bawb, mae'n hollol wych. Rydym yn gweld gwên ar wyneb ein mab, a dyna'r peth pwysicaf."

Wrth ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, fod y newyddion yn "wych" a diolchodd i bawb am sicrhau llwyddiant y cais.

Mewn datganiad, dywedodd Jo Stevens ei bod wedi bod yn gweithio gydag Enzo, ei deulu a'i gyfreithiwr ers haf diwethaf gan obeithio y byddai'r penderfyniad yn cael ei wyrdroi.

Ychwanegodd fod dinasyddiaeth Brydeinig Enzo yn golygu, "ar ôl bod yn rhan annatod o bêl-droed Cymru" yn cynrychioli Cymru ar lefel iau ac ieuenctid, "y bydd bellach yn gymwys i gynrychioli ei wlad enedigol yn nhîm y dynion".