Ansicrwydd os gallai pêl-droediwr o Gaerdydd gynrychioli Cymru

Enzo Romano mewn cit Cymru yn cicio pelFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Enzo Romano'n dweud ei fod wedi gwrthod cynigion gan Sbaen a'r Eidal gan ei fod yn benderfynol o gynrychioli Cymru

GanSteffan Leonard
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae breuddwyd pêl-droediwr ifanc o Gaerdydd o gynrychioli Cymru ar y lefel ryngwladol yn y fantol, ar ôl i'r Swyddfa Gartref wrthod ail gais ganddo am ddinasyddiaeth Brydeinig.

Cafodd Enzo Romano ei eni yng Nghaerdydd yn 2009 i rieni o'r Eidal a Sbaen ac mae wedi cynrychioli Cymru ar lefel ieuenctid, gan chwarae i academïau rhai o glybiau blaenllaw Ewrop gan gynnwys Barcelona.

Er iddo gael ei eni yng Nghymru, mae ansicrwydd bellach ynghylch a fydd Enzo yn gallu chwarae dros Gymru eto yn y dyfodol oherwydd statws ei ddinasyddiaeth.

Yr wythnos diwethaf, fe wrthododd y Swyddfa Gartref ail gais Enzo am ddinasyddiaeth Brydeinig, gan roi ei obeithion o chwarae i dîm cyntaf Cymru yn y fantol - o leiaf am y tro.

'Mor annheg'

Mae Enzo bellach yn byw yn Sbaen yn parhau i ddatblygu fel pêl-droediwr proffesiynol, ar ôl chwarae i sawl academi.

Dywedodd Enzo: "Dim ond am fy mod i wedi symud i Barcelona, dydy hynny ddim yn golygu nad ydw i'n Gymro.

"Y peth cyntaf sy'n dod i fy meddwl bob tro yw'r ddraig ar fy mrest, ac i mi, y ffaith nad ydyn nhw eisiau rhoi dinasyddiaeth i mi er mwyn cael pasbort - mae hynny mor annheg."

Ychwanegodd: "Mae meddwl na allaf i gynrychioli fy ngwlad wrth chwarae pêl-droed oherwydd y sefyllfa hon, yn brifo fi'n fawr iawn."

Wrth i Enzo gyrraedd 16 oed, mae rheolau FIFA yn golygu bod angen pasbort neu ddinasyddiaeth Brydeinig arno i chwarae dros Gymru mewn gemau cystadleuol sy'n cael eu cynnal dramor.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae'r penderfyniad wedi'i seilio ar Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981, sy'n mynnu bod o leiaf un rhiant yn ddinesydd Prydeinig neu wedi ymgartrefu'n barhaol yn y Deyrnas Unedig.

Roedd tad Enzo, Antonio Romano, wedi byw a gweithio yng Nghymru am ddegawd, ac roedd yn credu bod ganddo statws preswylydd parhaol.

Ond yn ôl penderfyniad y Swyddfa Gartref, nid oedd wedi cyrraedd y trothwy cyflog angenrheidiol am bum mlynedd yn olynol ar y pryd.

Nos Fawrth, cadarnhaodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod yr ail gais wedi'i wrthod, ond ychwanegodd fod yr achos bellach yn cael ei ailagor i ystyried os oes tystiolaeth newydd gan y teulu.

'Yn Gymro ar hyd ei oes'

Dywedodd Antonio Romano, "Mae'r sefyllfa yma'n rhyfedd iawn, ac os ydych chi'n darllen y gofynion, rydyn ni'n bodloni'r gofynion hynny.

"I ni fel rhieni, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n rhoi pasbort iddo, bydd e'n Gymro ar hyd ei oes."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn cynorthwyo Enzo a'i deulu drwy gydol y broses, ond yn ôl cyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith chwaraeon mae rheolau FIFA yn glir o ran cymhwystra rhyngwladol.

"Ma' rheolau FIFA yn eitha' llym ac ma' nhw'n dangos bod angen naill ai cael pasbort, neu rhaid dangos bod dinasyddiaeth gyda chi a bo' chi 'di byw mewn gwlad am bum mlynedd."

Er gwaethaf cynigion i chwarae i dimau ieuenctid Sbaen a'r Eidal, mae Enzo wedi dewis gwrthod y rhain gan ddweud ei fod yn benderfynol o gynrychioli Cymru.

Am y tro, mae Enzo Romano yn parhau i chwarae i Villassar de Dalt yn y Liga Elit yn Sbaen, ac er bod ei ddyfodol rhyngwladol yn ansicr, nid yw'r gobaith o wisgo crys Cymru unwaith eto wedi diflannu'n llwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.