Jini Owen Hughes - y Gymraes o Lŷn â record goliau anhygoel

Mae Jini Owen Hughes wedi sgorio 51 gôl mewn 46 gêm
- Cyhoeddwyd
Mae un o chwaraewyr Clwb Pêl-droed Pwllheli yn dathlu cyrraedd carreg filltir, ar ôl sgorio 50 o goliau mewn dim ond 46 o gemau.
Dywedodd Jini Owen Hughes, sydd o Fryn-mawr yn ardal Botwnnog, ei bod hi'n "falch iawn" o'i chyrhaeddiad mewn cyn lleied o gemau.
Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Jini, sy'n 19 oed: "Dwi'n ca'l cymaint o hwyl yn chwara' i Bwllheli, dwi'm really'n meddwl am y golia'!"
Ar ôl chwarae i nifer o glybiau yn ei hieuenctid, mae Jini yn hapus o fod yn ôl yn "chwarae'n lleol" eto ym Mhen Llŷn, meddai.

Chwaraeodd Jini ei gêm gyntaf ar lefel oedolion yn nhymor 2023/24
Esboniodd Jini iddi chwarae pêl-droed ers ei bod yn "bedwar i pum mlwydd oed, yn chwarae i Nefyn hefo'r 'ogia".
Yna aeth ymlaen ymlaen i Borthmadog, cyn mynd i Academi Merched Caernarfon.
Dywedodd iddi gael croeso cynnes wrth chwarae i Bwllheli yn erbyn Caernarfon yn ddiweddar - er iddi sgorio hatric yn erbyn ei hen dîm!
"O'dd hyfforddwr G'narfon yn trainio fi pan o'n i'n ifanc ac oedd o'n deimlad neis mynd yn ôl i chwara' yno," meddai.

Er i Bwllheli ddod i'r brig yn y gynghrair yn y ddau dymor diwethaf, dywedodd Jini bod y garfan "heb 'neud mor dda llynedd" wedi i safon y timau eraill godi.
"Ma'n dipyn o siom achos sgenno' ni ddim hyfforddwr yn nhîm Pwllheli, felly dyna pam da' ni methu mynd i fyny i tier two, gan fod angen hyfforddwr hefo leisans.
"Da' ni gyd fel tîm yn helpu'n gilydd fo trainings a ballu. Dwi'n meddwl ma' 'di neud ni'n agosach fyth, gan fo ni'n helpu'n gilydd."

Mae Jini wedi bod yn chwarae pêl-droed ers ei bod hi'n ifanc iawn
Bu Jini allan yn y Swistir dros yr haf yn gwylio merched Cymru gyda'i chyfnither, a dywedodd fod y tîm cenedlaethol yn ysbrydoliaeth iddi.
"O'dd o'n brofiad really da - mynd allan yna i sbïo arnyn nhw."
Yn edrych ymlaen, ychwanegodd Jini bod gêm galed ar y gorwel y penwythnos yma yn erbyn Llangefni - tîm sydd ar frig y gynghrair ar hyn o bryd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd23 Ionawr

- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2025
