Teuluoedd sy'n mabwysiadu angen cymorth 'gydol oes' i ddelio â thrawma

Plentyn arwelyFfynhonnell y llun, Getty Images
GanSara Dafydd
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Dylai teuluoedd sy'n mabwysiadu plant gael cymorth "gydol eu hoes" yn ôl menyw sy'n dweud bod "trawma sylweddol" ei merch yn cael effaith ar y teulu.

Fe wnaeth Anna, nid ei henw iawn, fabwysiadu ei merch 15 mlynedd yn ôl, ac mae hithau bellach yn ei harddegau.

Mae Anna'n dweud bod yr hyn mae ei merch wedi ei brofi yn gwneud pethau'n "eithriadol o anodd iddi hi, ac i ni fel teulu".

Daw sylwadau Anna, sy'n byw yng ngogledd Cymru, wedi adroddiad gan y BBC y llynedd wnaeth ganfod bod sawl rhiant sy'n mabwysiadu yn ei gweld hi'n anodd cefnogi plant â thrawma.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi buddsoddi £13m yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ers 2019, gan ychwanegu bod "cydweithio" rhwng gwasanaethau yn allweddol.

Dangosodd yr ymchwiliad bod 1,000 o blant a gafodd eu mabwysiadu yn y DU wedi dychwelyd i'r system gofal yn y pum mlynedd diwethaf.

Mae Anna'n dweud ei bod yn "trio'n daer" i osgoi sefyllfa lle mae'r berthynas rhyngddi hi a'i merch yn torri lawr, ond ei bod yn deall sut mae hynny'n gallu digwydd heb gefnogaeth.

Dros flynyddoedd diweddar mae ei bywyd dyddiol wedi bod yn "anodd", meddai, gyda'r mabwysiadu yn effeithio'i hiechyd, ei gyrfa a'i pherthynas gyda thad mabwysiedig ei merch.

Mae merch Anna wedi cael sawl diagnosis gan gynnwys trawma cyn-ferbal [pre-verbal trauma] ac anhwylder hunaniaeth ddatgysylltiol [dissociation disorder], sy'n amlygu fel personoliaethau lluosog, yn ogystal ag awtistiaeth.

'Trawma a cholled yn rhan o'i bywyd'

"Ni'n cael rhai adegau hyfryd" meddai Anna, ond ychwanegodd bod "trawma a cholled" yn rhan fawr o fywyd ei merch.

"Mae'n eithriadol o anodd iddi hi, ac i ni fel teulu."

Dywedodd Anna ei bod wedi gorfod brwydro i gael cefnogaeth a'n aml yn teimlo ei bod yn cael ei "beio" am ei sefyllfa.

"Beth dwi'n gweld yw bod pobl broffesiynol yn edrych arna i a'n cwestiynu ydw i'n rhiant digon da?

"Ni'n llythrennol yn cadw'n pennau uwchben y dŵr. Ni'n cael ein diystyru, ac mae pobl yn dweud bod rhaid i ni gario 'mlaen gyda'r sefyllfa."

Mewn ymateb i sylwadau Anna fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr er nad ydyn nhw'n gallu trafod achosion unigol, maen nhw'n "flin i glywed" am ei phrofiad.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda rhieni a gwarchodwyr i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth maen nhw ei hangen."

Dywedodd awdurdod lleol Anna eu bod wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â rhieni a'u bod yn cydweithio â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru lle mae asesiadau o'r angen a'r gefnogaeth yn cael eu rhannu.

Anodd gwybod gwir faint y broblem

Mae rhwng 250 a 300 o blant yn cael eu mabwysiadu bob blwyddyn yng Nghymru.

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC, ni wnaeth rhai awdurdodau lleol ddarparu ffigyrau a dywedodd rhai nad oedden nhw'n casglu'r data.

Roedd 14 o'r 22 cyngor wedi rhoi ffigyrau ar nifer yr achosion o fabwysiadu yn torri i lawr cyn i'r plentyn gyrraedd y teulu, gan nodi 22 o achosion.

Dim ond saith cyngor wnaeth ddarparu ffigyrau ar yr achosion o fabwysiadu'n torri lawr ar ôl i'r plentyn gyrraedd y teulu ac felly'n gorfod mynd yn ôl i'r system gofal - sef cyfanswm o 16 ers 2020.

Mae achosion o deuluoedd mabwysiedig yn chwalu wedi aros yn isel yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf, yn ôl Gwasanaeth Mabwysiadu Cymru.

Fe wnaeth adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru dynnu sylw at arferion da o fewn rhanbarth y gogledd, ond fe ddywedodd nad oedd rhai teuluoedd yn derbyn y cymorth arbenigol yr oedden nhw angen unwaith roedd plentyn yn eu gofal.

Ychwanegodd fod angen mwy o arbenigwyr gan gynnwys seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol.

Mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru eu bod yn "cydnabod yr heriau a amlygwyd" ac yn "parhau i weithio gyda chyrff ariannu i wella gwasanaethau er mwyn ymateb i deuluoedd ar yr adeg y mae angen arnynt".

Glesni Evans yn gwisgo crys patrymog llwyd, gwallt hir melyn, yn gwenu.Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Glesni Evans mae mwy o gefnogaeth i gael yn Lloegr na Chymru

Mae Glesni Evans o Abergwaun yn weithiwr cymdeithasol sy'n rhedeg elusen i helpu teuluoedd mabwysiedig.

Dywedodd bod plant mabwysiedig yn "aml" wedi profi trawma yn ystod eu bywydau cynnar, ac nad yw hynny'n diflannu ar ôl cael eu mabwysiadu.

"Amser mae'r gorchymyn mabwysiadu yn cael ei roi mewn lle yn aml bydd y tîm mabwysiadu yn lleihau'r cymorth", meddai.

"Mae hynny'n broblem oherwydd dyw bywyd y plentyn ddim yn newid achos maen nhw'n byw gyda theulu cariadus, mae'r plentyn dal gyda thrawma."

Ychwanegodd bod mwy o gefnogaeth i gael yn Lloegr na Chymru.

"Yn aml mae therapi ar gael i deuluoedd [yn Lloegr]. Mae angen therapi specialist ar deuluoedd oherwydd y trawma mae'r plant yma'n cario.

"Ond dyw e hefyd ddim just i wneud â'r teuluoedd, mae'n bwysig bod doctoriaid ac ysgolion yn deall yr effaith mae trawma'n cael ar blant sy'n cael eu mabwysiadu gydol eu hoes."

Mabon Huws yn gwisgo crys gwyrddFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mabon Huws o swyddfa'r Comisiynydd Plant mae "dyletswydd moesol" i gefnogi rhieni

Yn ôl Mabon Huws o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, mae'r adran cymorth a chyngor wedi cael "adroddiadau tebyg" i brofiadau Anna.

"Mae'r Comisiynydd yn credu bod 'na ran i'w chwarae gan y wlad ac er bod dyletswyddau rhianta corfforaethol yn dod i ben ar ôl i blentyn gael eu mabwysiadu mae yna ddyletswydd moesol ar y wlad i ddarparu cymorth."

"Mae'n bwysig bod y teuluoedd yma ddim yn gorfod llywio'r heriau ar eu pen eu hun."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "gwerthfawrogi ymrwymiad teuluoedd mabwysiedig" ac "wedi buddsoddi dros £13m yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol" ers 2019. Ychwanegon nhw fod "cefnogaeth arbenigol ar waith".

Ers i BBC Cymru siarad gydag Anna, mae ei merch wedi bod yn mynychu cwrs therapi arbenigol.

Er ei fod wedi helpu'n fawr, ond mae Anna'n poeni am yr hyn sy'n digwydd ar ôl i'r therapi ddod i ben.

Dywedodd Anna ei bod hi'n gwybod nad oes "ateb syml" ond bod y llywodraeth yn "ddyledus" i'r plant a phobl ifanc dan sylw, i gydnabod eu bod nhw'n dod o "gefndiroedd anodd iawn, iawn".

"Maen nhw'n cael eu tynnu o brofiadau trawmatig iawn a bydd angen cymorth a chefnogaeth gydol oes arnyn nhw. Ni ddylai'r straen i gyd fod ar y rhieni."

Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?

Yn ôl Plaid Cymru "dylid gwella cefnogaeth ar ôl mabwysiadu i sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diwallu a bod teuluoedd yn cael gwell cefnogaeth", tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod angen gwella'r gefnogaeth i ddelio gyda thrawma "fel nad yw plant sy'n agored i niwed yn cael eu siomi eto".

Mae Reform yn dweud bod "rhaid i lywodraeth nesaf Cymru weithio gyda theuluoedd" i wella cefnogaeth.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol mai'r "peth lleiaf gall y wladwriaeth wneud yw sefyll gyda rhieni gyda chefnogaeth gyson ac arbenigol", tra bod y Blaid Werdd yn addo sicrhau bod plant o fewn y system gofal yn cael blaenoriaeth wrth gael mynediad i wasanaethau.