Tripledi o Geredigion eisiau helpu plant eraill sy'n colli rhiant

Mae'r tripledi wrth eu bodd yn perfformio fel rhan o'r grŵp Triano
- Cyhoeddwyd
Mae tripledi o Geredigion a gollodd eu tad eisiau cynnig cefnogaeth i blant eraill sy'n galaru.
Fe gollodd Charlotte, Emily a Jessica o Swyddffynnon ger Tregaron eu tad Mat dair blynedd yn ôl. Roedd yn 48 oed ac wedi bod yn sâl ers eu geni.
Mae'r merched, sydd bellach yn 13 oed ac yn aelodau o'r grŵp cerddorol Triano, yn gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth a gawson nhw gan eu hysgol a'r gymuned, ond maen nhw'n ymwybodol nad yw plant eraill sy'n galaru mor ffodus.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi darparu dros £13m i gefnogi anghenion emosiynol plant a phobl ifanc, ond mae'r arian yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn ola'r ysgol gynradd ac uwch.
Maen nhw felly'n dymuno sefydlu elusen neu grŵp i blant ifanc sydd wedi colli rhiant.

Cafodd Mat, yma gyda'i wraig Donna a'r merched, wybod bod ganddo ganser cam 4 yn 2012
"Ers o'n i'n ifanc roedd Dad yn mynd i'r ysbyty lot", meddai Charlotte. "Ro'n ni'n tair yn gwybod ers oedran ifanc bod 'na rywbeth ddim yn iawn."
"Pan o'n i tua 10 oed o'dd Dad yn treulio mwy o amser yn y gwely ac o'dd e'n dechre mynd yn fwy sâl a dyna pryd na'th e really bwrw ni bod rhywbeth ddim yn iawn."
Mae mam y tripledi Donna Smith-Jones yn cofio clywed y newyddion am salwch ei gŵr.
Dywedodd: "Fi'n cofio'n iawn y geiriau wedon nhw sef: 'We can't get rid of it – it's a matter of controlling it now'."
"Ro'n i'n eistedd 'na yn gwybod bo' ni newydd ffindio allan bo ni'n cael tripledi.
"O'dd e'n gyfnod anodd iawn. O'n i'n meddwl o'dd dyfodol i fod? O'dd Mat yn mynd i gwrdd â'r merched? Doedd dim sicrwydd o gwbl am hyn."
Yn y pendraw, dywedodd Donna ei bod yn falch bod Mat wedi cael byw am ddegawd wedi'r diagnosis.
"Fel na'th pethe weithio allan mae atgofion gyda'r merched nawr – atgofion fydd gyda nhw am weddill eu hoes."

Bu farw tad Jessica, Emily a Charlotte yn 2022
Mae'r merched wedi ystyried rhyddhau cân i godi arian ar gyfer elusennau canser, ond eu bwriad nawr yw ffurfio grŵp i fod o gymorth i blant sy'n galaru, "grŵp o bobl yna i siarad gyda nhw, gw'bod be' maen nhw wedi mynd trwyddo".
Dywedodd Charlotte: "Sdim pawb yn cael yr un profiad â ni.
"Sdim pawb efo grŵp o bobl fel cymorth so fydde fe'n neis os ni'n setio fyny elusen neu rywbeth i roi cymorth i'r plant 'na sydd heb gymorth adre'.
"Os o'n i yn creu elusen neu rhywbeth fel 'na bydde fe'n neis cael clybiau lle ni'n gallu siarad – dim y stwff trist a difrifol o hyd, ond just i fod yna fel cymorth os oes angen."

Triano a'u mam wedi perfformiad Gŵyl Dewi
I Jessica, mae'n bwysig i blant sy'n galaru gael rhywbeth arall yn eu bywydau i feddwl amdano.
"I ni cerddoriaeth oedd yn tynnu meddwl ni off Dad yn bod yn sâl a phethe", meddai.
"O'n ni'n cael gwersi cerdd gyda Miss Menna ein hathrawes ni a o'dd hi wastad yn 'neud ni'n hapus a tynnu meddwl ni off bod Dad yn sâl ac o'dd e'n gwneud diwrnodau ni'n well."
Gallu siarad yn agored am "unrhyw beth, dim wastad y pethe difrifol" oedd rhwybeth arall gwerthfawr, meddai Emily.
"Weithiau mae'n neis cael y cyfle i siarad gyda pobl sy' ddim yn 'nabod chi'n dda.
"Dyw pobl sydd ddim yn gwybod dim byd amdanoch chi ddim yn gallu barnu chi os ma' gyda chi rhywbeth ar eich meddwl chi."
Cefnogaeth Felindre yn 'amhrisiadwy'
Draw yn Rhondda Cynon Taf, mae pennaeth un ysgol gynradd wedi gweld effaith cefnogaeth Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, wrth i riant plentyn yn yr ysgol gael triniaeth.
Dywedodd Gavin Ashcroft o Ysgol Gymraeg Llwyncelyn ym Mhorth y byddai'n wych petai cefnogaeth o'r fath yn cael ei chynnig i bob ysgol.
"Mae Felindre wedi bod yn hollol wych. Maen nhw wedi rhoi cefnogaeth i ni fel staff, ond hefyd wedi bod yno i'r disgybl, ac mae hynny wedi bod yn amhrisiadwy," meddai.
"Roedd y sesiynau gyda'r dosbarth yn arbennig o bwysig, gan helpu'r plant i ddeall beth oedd yn digwydd mewn ffordd ofalus a sensitif."
Ychwanegodd: "Mae disgyblion o wahanol oedrannau'n ymateb mewn ffyrdd gwahanol iawn ac mae cael arbenigwyr Felindre i'n harwain ni drwy'r broses wedi gwneud gwahaniaeth mawr."
Dywedodd bod Felindre wedi eu helpu i sicrhau bod sgyrsiau'n "briodol, yn onest ac yn ofalgar".
'Buddsoddi mewn gwasanaethau profedigaeth'
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod effaith ddofn a pharhaol profedigaeth ar blant a phobl ifanc.
Dywedodd llefarydd bod y llywodraeth wedi "buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau profedigaeth", a bod eu strategaeth ar gyfer ysgolion "wedi'i llunio i gefnogi anghenion emosiynol pob dysgwr mewn modd priodol ac amserol".
"Rydyn ni wedi darparu mwy nag £13.6m i gefnogi anghenion emosiynol dysgwyr a gwasanaethau cwnsela yn ein hysgolion a'n cymunedau i blant blwyddyn chwech ac yn uwch.
"Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi canllawiau cenedlaethol sy'n disgrifio uchelgais cyffredin ar gyfer sut y gall Cymru gefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi colled."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2018

- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019
