Etholiad Cymru yn allweddol i ddyfodol Starmer - AS Llafur

Mae Syr Keir Starmer dan bwysau cynyddol gan ASau Llafur
- Cyhoeddwyd
Mae AS Llafur o Gymru wedi dweud y gallai etholiad Senedd Cymru fod yn allweddol i ddyfodol Keir Starmer fel prif weinidog, yn dilyn ymddiswyddiad ei brif gynorthwyydd.
Ymddiswyddodd Morgan McSweeney fel pennaeth staff Syr Keir ddydd Sul, gan ddweud ei fod yn cymryd "cyfrifoldeb llawn" am ei gynghori i benodi Peter Mandelson yn llysgennad yr Unol Daleithiau y llynedd.
Dywedodd yr AS Llafur o Gymru, Ruth Jones, fod prif weinidog y DU wedi cael ei "glwyfo" gan y sgandal, ond nad oedd yn gwybod a fyddai hynny'n "angheuol" i'w arweinyddiaeth.
Yn ogystal, dywedodd gweinidog yn Llywodraeth y DU, na chafodd ei enwi, wrth y BBC fod ymddiswyddiad Mr McSweeney "ddim yn ddigon ac yn rhy hwyr".
Ychwanegodd y gweinidog fod barn y prif weinidog "mor wael".
Dim disgwyl i Morgan alw am ei ymddiswyddiad
Yn y cyfamser, mae ffynhonnell o Lafur Cymru wedi dweud nad yw'n rhagweld ar y funud y bydd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan yn galw am ymddiswyddiad Syr Keir.
Mae arweinydd y blaid Lafur yn yr Alban, Anas Sarwar, wedi galw am ei ymddiswyddiad ddydd Llun.
Mae ffynhonnell arall o Lafur Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn disgwyl i Ms Morgan gadw i ffwrdd o'r ddadl am fod gan Syr Keir gefnogaeth gref o fewn y grŵp Llafur yn y Senedd.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi rhoi ei chefnogaeth i Starmer, gan ddweud ei fod yn "ddyn da" a ddaeth i mewn i wleidyddiaeth "am y rhesymau cywir".
Dywedodd Ms Stevens, prif gynrychiolydd Cymru yn Llywodraeth y DU, bod Starmer yn "adnewyddu ein gwlad ac mae wedi adfer ei henw da ar draws y byd".

Ymddiswyddodd Morgan McSweeney fel pennaeth staff Keir Starmer ddydd Sul
Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd yr AS Ruth Jones fod angen barnu Keir Starmer ar sail canlyniadau'r etholiadau fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf, gan gynnwys etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai.
Dywedodd yr AS Llafur dros Orllewin Casnewydd ac Islwyn mai ymddiswyddiad Morgan McSweeney oedd y "peth iawn i'w wneud".
Ychwanegodd Ms Jones fod llawer o ASau wedi gweld McSweeney fel "y grym y tu ôl i'r orsedd", gan ychwanegu ei fod yn cael ei ystyried yn "rhwystr i ASau cyffredin oedd am godi materion gyda'r prif weinidog".
Sefyllfa yn Rhif 10 yn 'llanast'
Gyda llai na thri mis tan etholiad y Senedd, dywedodd Ms Jones fod gan y Blaid Lafur "stori dda i'w hadrodd" yng Nghymru ond bod angen i Syr Keir "ymgysylltu mwy" â'r wlad.
Ychwanegodd fod y prif weinidog wedi cael ei weld fel un "diflas", ond mai dyna oedd wedi helpu'r blaid i ennill grym.
Yn y cyfamser, dywedodd y gweinidog dienw fod y sefyllfa yn Rhif 10 yn "llanast", a'u bod yn "ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf".
Dywedodd llefarydd ar ran y prif weinidog ddydd Llun nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymddiswyddo.
Daw hynny wedi iddo gael ei feirniadu am benodi'r Arglwydd Mandelson yn llysgennad yr Unol Daleithiau, er gwaethaf ei berthynas â'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.
Mae disgwyl i Syr Keir annerch ASau Llafur yn breifat brynhawn Llun yng nghyfarfod wythnosol y Blaid Lafur yn San Steffan.
'Angen i Starmer fynd': Aelod Seneddol Llafur Cymreig
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Grŵp Llafur yn dileu llun o Farage ac Epstein 'a gafodd ei greu gan AI'
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Eluned Morgan yn gwrthod cefnogi Syr Keir Starmer
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
Un arall sy'n dweud nad yw'n galw am ymddiswyddiad Syr Keir yw Aelod Senedd Cymru dros Flaenau Gwent, Alun Davies, ddywedodd ar raglen Post Prynhawn na fyddai cael gwared arno yn ddatrysiad.
"Ydy, mae pethu yn ddifrifol ar hyn o bryd - mae hynny'n glir i bawb a dwi'n meddwl hefyd fod pawb yn derbyn fod camgymeriad wrth benodi Peter Mandelson," meddai.
"Ond dwi'n credu fod problemau yn San Steffan yn mynd tu hwnt i hynny ac yn fwy difrifol na hynny.
"Byddai cael gwared ar Syr Keir Starmer ddim yn datrys y problemau polisïau a'r problemau gwleidyddol sydd gyda ni.
"Felly licien i weld mwy o newid gwleidyddol yn y ffordd yr ydyn ni yn llywodraethu, yn lle jest newid y prif weinidog."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.