Grŵp Llafur yn dileu llun o Farage ac Epstein 'a gafodd ei greu gan AI'

Bu farw Jeffrey Epstein yn y carchar yn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae cyfrif cyfryngau cymdeithasol lleol gan y Blaid Lafur yn dweud eu bod wedi tynnu delwedd a gafodd ei chyhoeddi ganddynt o Jeffrey Epstein a Nigel Farage, ar ôl iddyn nhw sylweddoli ei bod wedi'i chreu gan ddeallusrwydd artiffisial (AI).
Cyhoeddodd Plaid Lafur Wrecsam y ddelwedd, a oedd wedi'i rhannu'n eang ar X, yn dangos Epstein gyda'i fraich o amgylch arweinydd Reform UK brynhawn Mawrth.
Dywedodd Nigel Farage nad yw erioed wedi cwrdd â Jeffrey Epstein.
Dywedodd Llafur Cymru fod y cyfrif, sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, wedi dileu'r llun "pan sylweddolon nhw ei fod wedi'i gynhyrchu gan AI".
'Camwybodaeth ffiaidd'
Dywedodd Reform UK Cymru: "Dyma'r math o gamwybodaeth ffiaidd a thaflu baw a ddylai fod islaw plaid wleidyddol lywodraethol fawr."
Cyhoeddodd Plaid Lafur Wrecsam y llun gan geisio cysylltu arweinydd Reform ag Epstein, a fu farw yn y carchar yn 2019 wrth aros am achos llys am gyhuddiadau o fasnachu rhyw.
Cafodd euogfarn am geisio puteindra gan blentyn 14 oed ddegawd ynghynt.

Dywedodd Nigel Farage nad yw erioed wedi cwrdd â Jeffrey Epstein
Ar ôl i'r BBC ofyn i Lafur Cymru o ble cafodd Plaid Lafur Wrecsam y ddelwedd, diflannodd y llun.
Mae BBC Cymru yn deall bod y blaid yng Nghaerdydd wedi gofyn i'r unigolion sy'n gweinyddu'r cyfrif i ddileu'r ddelwedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Cafodd y llun ei bostio o gyfrif sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, a redir gan aelodau lleol.
"Cafodd y post ei dynnu i lawr pan sylweddolon nhw ei bod yn ddelwedd a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial."
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: "Oni bai bod camau gweithredu cyflym yn cael eu cymryd ar y mater hwn, bydd y Blaid Lafur yn anfon neges bod rhannu sarhad peryglus yn dderbyniol mewn gwleidyddiaeth."
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth, dywedodd Nigel Farage: "Wnes i erioed gyfarfod ag Epstein a wnes i ddim mynd i'r ynys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror

- Cyhoeddwyd28 Ionawr
