Cynllun 'Bwndeli Babi' i famau newydd yn dechrau, ond nid i bawb

Mae'r pwysau ariannol ar deuluoedd yn gallu bod yn sylweddol ar ôl cael babi, yn ôl Elin Johnson o Ferthyr
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun sy'n rhoi bwndel o eitemau hanfodol i famau newydd yng Nghymru yn dechrau ddydd Llun.
Fe fydd y 'Bwndeli Babi' ar gael mewn ardaloedd sy'n cael cefnogaeth trwy gynllun 'Dechrau'n Deg' a bydd modd i fydwragedd gofrestru rhai teuluoedd tu allan i'r ardaloedd yma hefyd.
Fe fydd y bocs cyntaf yn cael ei gyflwyno i Mollie Young, darpar fam o Gasnewydd.
Ond mae un elusen a phleidiau gwleidyddol wedi galw am wneud mwy i gefnogi teuluoedd.
Clwb rhedeg i rieni a phlant yn 'fendith' i famau newydd
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
Pryderon ynglyn â dyfodol y cynllun sy'n rhoi llyfrau am ddim i fabanod
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
'Nai nefar gael mwy o blant,' wedi salwch beichiogrwydd difrifol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
Mae Elin Johnson o Ferthyr Tudful yn fam i Noa sy'n dri mis oed.
"Mae cael babi newydd yn dipyn o bwysau ariannol, yn amlwg mae popeth sy'n dod gyda nhw o ran nwyddau yn ddrud, hefyd mae pobl yn cael gostyngiad yn eu tal wrth fynd ar famolaeth felly mae'n dipyn o bwysau," meddai.
"Mae 'na ddywediad ei bod hi'n cymryd pentref i fagu plentyn, does dim pentref gyda rhai pobl, does dim cymuned o'u cwmpas nhw sy'n gallu helpu.
"Mewn cymuned ddifreintiedig mae gyrru yn gallu bod yn broblem i gyrraedd llefydd, felly mae unrhyw help ychwanegol yn mynd i helpu'r bobl yma."
Beth sydd yn y 'Bwndeli Babi'?
Dillad 0-6 mis
Blancedi
Bibs
Llieiniau mwslin
Thermomedr
Llyfr dwyieithog
Mat chwarae
Nid dim ond teuluoedd sy'n elwa. Mae'r bwndeli yn cael eu paratoi gan gwmnïau a mentrau cymdeithasol Cymreig.
Mae'r bibs, hetiau, tywelion babanod a phadiau bwydo yn y pecynnau yn cael eu cynhyrchu gan Elite Clothing, menter gymdeithasol yng Nglynebwy sy'n cyflogi pobl gydag anableddau neu bobl o dan anfantais.
Leanne Solis yw rheolwr cyflenwi'r cwmni: "Roedd gyda ni ddeg yn gweithio yma, ry' ni wedi gallu ychwanegu dau berson at y gweithlu.
"Mae gyda ni bobl ddechreuodd yma fel gwirfoddolwyr a'n rôl ni wedyn oedd rhoi hyfforddiant a sgiliau iddyn nhw a maes o law rhoi gyrfa iddyn nhw yn gweithio ar y peiriannau. Mae'r cynllun yn rhoi incwm parhaol i ni allu parhau i gyflogi pobl a thyfu hefyd."

Byddai Mabli Jones o Sefydliad Bevan yn hoffi gweld y cynllun yn cael ei ymestyn i bob rhan o Gymru
Tra'n croesawu'r bwndeli fel cam tuag at daclo lefelau uchel o dlodi plant, mae Sefydliad Bevan - sy'n edrych ar bolisi cyhoeddus yng Nghymru - eisiau iddyn nhw fod ar gael yn ehangach.
Dywedodd Mabli Jones pennaeth polisi tlodi Sefydliad Bevan: "Mae rhaglenni tebyg yn Yr Alban a'r Ffindir yn cael eu darparu i bob rhiant newydd.
"Felly be ni eisiau gweld gan Lywodraeth nesaf Cymru yw ymestyn y cynllun naill ai i bob teulu yn y wlad neu fan lleiaf i bob teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol achos ni'n credu byddai hynny'n ffordd llawer mwy cynhwysol o dargedu teuluoedd sydd angen cymorth."
Mae 'na gefnogaeth i'r bwndeli ymhlith rhieni Cylch Meithrin y Parc yng Nghaerdydd.
"Mae e'n syniad lyfli i bobl sydd ddim yn cael lot achos mae cael babi yn eithaf drud. Bydd e'n helpu lot o famau newydd," meddai Amy Riley.
"Dwi'n meddwl bod y syniad yn wych. Mae'n bwysig achos does dim llawer o amser i brynu pethau pan mae babi newydd gyda chi. Mae dillad ac ati yn ddrud iawn dyddiau hyn," ychwanegodd Dena Morris.

Mae Dena Morris o'r farn bod bwndeli o'r fath yn "wych" ar gyfer rhieni newydd
Yn ôl Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Cymru, mae'r bwndeli yn gymorth i deuluoedd ar adeg bwysig ond drud yn eu bywydau.
"Dewiswyd y cynnwys ar sail yr hyn a ddywedodd rhieni wrthym yn ystod y cynllun peilot cychwynnol.
"...Felly, rwy'n siŵr y bydd Mollie (Young) , a'r miloedd o rieni eraill a fydd yn cael bwndeli babi, wrth eu bodd â nhw."
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r oedi wrth gyflwyno'r bwndeli gan ddweud y byddai eu cynnig gofal plant nhw yn fwy hael.
Mae Reform yn dweud bod gan blant yng Nghymru siawns o bron i un mewn tri o fod mewn tlodi dan Lywodraeth Lafur.
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y bydden nhw'n cydnabod rôl mam-gu a thad-cu yng ngofal plant ac yn cynyddu mynediad i ofal plant am ddim tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod nhw o blaid gofal plant am ddim.
Mae'r Blaid Werdd yn dweud y dylai'r 'Bwndeli Babi' fod ar gael i bob teulu, fel sy'n digwydd yn yr Alban.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.