Clwb rhedeg i rieni a phlant yn 'fendith' i famau newydd

Roedd gallu mynd i'r clwb gyda'i mab yn fantais enfawr i Helen Griffiths
- Cyhoeddwyd
Mae mam ifanc wedi dweud bod ymuno â chlwb rhedeg i rieni newydd a'u plant wedi bod yn "fendith".
Mae Helen Griffiths o Gwmbrân yn un o'r nifer o rieni sy'n cwrdd bob wythnos i redeg 5km ym Mharc Pont-y-pŵl, gyda'u plant mewn pramiau arbenigol.
Nod clwb Free Wheelers yw i oresgyn dau o'r rhwystrau at fod yn actif sy'n dod gyda bod yn riant - prinder amser a chostau gofal plant.
Mae ymchwil diweddar wedi awgrymu mai tua chwarter o fenywod sy'n teimlo bod cyfleoedd i fod yn actif ar ôl cael babi, er bod dros hanner yn awyddus i wneud ymarfer corff.
Gyda chymorth grant o £1,500 mae arweinydd Free Wheelers yn dweud ei bod eisiau rhoi cyfle i rieni "ddod at ei gilydd bob wythnos" ac i "ofalu am eu hunain".
'Wedi gwella fy meddwl yn fwy nag unrhyw beth'
Eglurodd Helen sut y mae bod yn riant newydd yn brofiad "unig" ar adegau.
"Fel rhieni newydd 'dych chi ar ben eich hun am y rhan fwyaf o'r diwrnod.
"'Dyn ni 'di strugglo gyda gofal plant - roedd fy mab mor fychan yn y dechrau nid oedd modd ei adael gyda neb arall am fwy nag ychydig oriau, os hynny, oherwydd mod i'n ei fwydo.
"Roedd yn rhaid i mi aros gydag e drwy'r amser fwy neu lai, ac felly roedd gallu dod ag e i'r clwb yn fendith."

Mae Megan (dde) yn dweud bod rhedeg wedi ei helpu i wella'n feddyliol, ac i "adennill" ei hunaniaeth
Gyda chefnogaeth o £1,500 gan y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae'r clwb wedi gallu buddsoddi mewn rhagor o offer, a darparu hyfforddiant swyddogol i'r arweinydd.
Dywedodd aelod arall, Megan Davies o'r Fenni, ei bod hi "methu credu pan glywais i am y clwb - am ddim, a'r bygis am ddim hefyd".
"O'r diwedd o'n i'n teimlo fel bod modd i mi gael amser i fy hun.
"Achos mae rhieni'n colli hynny wrth gael plentyn" meddai.
Dechreuodd Megan, sy'n 31 oed, redeg cyn iddi gael ei babi:
"Roedd gen i bob bwriad o ailgydio yn fy rhedeg ar ôl i ni gael y babi, ond yn anffodus, cafodd fy mhartner ddamwain, a chael anaf i'w gefn yn fuan ar ôl y geni.
"Doeddwn i ddim yn gallu gadael y babi ar ben ei hun gyda fy mhartner am gyfnodau hir, ac roedd angen i mi fod yno drwy'r amser fwy neu lai."
Er bod Megan wedi dychwelyd i'w gwaith erbyn hyn, mae hi'n dal i redeg gyda'r ffrindiau y mae hi wedi'u gwneud yn y clwb.

Y peth pwysicaf i Helen yw gosod esiampl i'w mab, a dangos sut i gadw at arferion da
Ychwanegodd Helen bod y clwb yn croesawu unrhyw un i ymuno.
"Does yr un ohono ni'n berffaith yn y clwb - nid super-mums ydyn ni am ein bod ni'n mynd i redeg.
"Dwi'n credu fod 'na bwysau ar famau ifanc i gael popeth yn 'gywir'... dydyn ni ddim, ond mae hyn wedi bod yn help i ni.
"Er mod i'n ffodus mewn llawer o ffyrdd ac mae gen i rwydwaith o gymorth o fy nghwmpas, trodd popeth ar ei ben pan gefais fy mab, ac roeddwn i'n teimlo'n ansefydlog iawn.
"Mae wedi gwella fy meddwl yn fwy nag unrhyw beth" meddai.
'Nai nefar gael mwy o blant,' wedi salwch beichiogrwydd difrifol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mam 'byth yn meddwl' y byddai'n dathlu pen-blwydd ei baban cynamserol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2025
Yn ôl ymchwil gan The Active Pregnancy Foundation UK, dolen allanol, dim ond 27% o fenywod oedd wedi cael babi'n ddiweddar oedd yn teimlo bod cyfleoedd ar gael iddyn nhw fod yn actif, er bod dros hanner y menywod yn nodi y bydden nhw'n awyddus.
Roedd yr adroddiad yn archwilio beichiogrwydd fel rhwystr i fod yn actif am fod lefelau ymarfer corff menywod beichiog a rhai sydd wedi cael plant yn ddiweddar yn parhau i fod yn isel.
Dim ond 35% oedd â'r hyder i ymgymryd â gweithgareddau corfforol, gyda llawer yn teimlo'n euog am beidio bod yn actif.
Yn sgîl yr arian grant i'r clwb, mae'r Free Wheelers wedi gallu prynu rhagor o bramiau ac offer, a thalu am hyfforddiant.
Dywedodd yr arweinydd, Alex Jones: "Dwi'n ofnadwy o angerddol am geisio cael pawb o wahanol alluoedd i redeg, a cheisio gwneud hynny'n hawdd ac am ddim.
"Mae'n gyfle i ni ddod at ein gilydd bob wythnos, a gofalu am ein hunain.
"Dwi mor falch o'r gymuned 'dyn ni wedi ei sefydlu" eglurodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.