'Pryderus' mai ond traean o bobl risg uwch sydd wedi cael brechiad ffliw

- Cyhoeddwyd
Mae'n amhosib darogan ar hyn o bryd a fydd y tymor ffliw eleni yn fwy difrifol na'r arfer, yn ôl prif feddyg Llywodraeth Cymru.
Yn ôl yr Athro Isabel Oliver, mae cynnydd yng nghyfraddau ffliw yn golygu fod y feirws ar hyn o bryd yn lledaenu ar lefel "cymedrol" a hynny, meddai, "yn unol â'r hyn rydym ni yn ei ddisgwyl mewn gaeaf cyffredin".
Ond mae'n rhybuddio ei bod hi'n amhosibl rhagweld i ba raddau y bydd cyfraddau yn cynyddu ymhellach neu a fydd math gwahanol o ffliw yn ymddangos a chreu heriau ychwanegol yn ddiweddarach yn y tymor.
O ganlyniad mae'n annog pobl sy'n gymwys i gael brechiad am ddim ar y gwasanaeth iechyd i wneud hynny.
'Tipyn o le i wella'
Ond mae'r Prif Swyddog Meddygol yn "bryderus" mai dim ond tua un o bob tri pherson sydd â chyflyrau iechyd penodol sy'n cynyddu eu risg sydd wedi derbyn brechiad hyd yn hyn.
"Ar hyn o bryd mae ffliw yn cylchredeg ar lefelau y byddem yn eu disgrifio fel cymedrol - yn unol â'r hyn a fyddem yn ei ddisgwyl mewn gaeaf arferol," meddai.
"Fodd bynnag, mae'n bwysig cymryd camau oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod pa mor bell y bydd ffliw yn parhau i gynyddu ac rydym yn cadw golwg gofalus ar hynny.
"Rydym yn agos iawn at y Nadolig ac rwy'n siŵr nad oes neb am fod yn yr ysbyty gyda ffliw dros y Nadolig... felly mae'n wirioneddol bwysig i'r rhai sy'n gymwys i gael brechiad dderbyn y cynnig."

"Ar hyn o bryd mae ffliw yn cylchredeg ar lefelau y byddem yn eu disgrifio fel cymedrol - yn unol â'r hyn a fyddem yn ei ddisgwyl mewn gaeaf arferol," meddai'r Athro Isabel Oliver
Ychwanegodd: "Mae tua 860,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn brechiad - sy'n uwch na'r llynedd ond mae tipyn o le i wella.
"Yr hyn sy'n peri pryder i mi yw dim ond tua un o bob tri o bobl â chyflyrau iechyd penodol sydd wedi derbyn y cynnig - ac mae angen eu hatgoffa fod amser o hyd i gael brechiad."
Ond mae'r Athro Oliver yn dweud bod cyfraddau brechu yn uwch mewn grwpiau eraill.
Mae'n dweud fod dwy ran o dair o bobl 65+ oed wedi derbyn brechiad ynghyd â thua hanner staff iechyd a gofal - o gymharu â thua 36% yn ystod y tymor ffliw diwethaf.
Mae brechiadau ffliw ar gael am ddim i unigolion mewn grwpiau sy'n gymwys i'w derbyn ond gall eraill dalu i gael brechiad yn breifat.
Ond mae rhai wedi cwyno am brinder brechlynnau mewn rhai fferyllfeydd.
'Eithriadol o anodd'
Mae Susan o Wynedd yn dweud bod ei theulu wedi'i chael hi'n anodd iawn i drefnu apwyntiadau ar gyfer brechlyn ffliw preifat yn ystod y misoedd diwethaf.
"Nes i gael y brechlyn dechra' mis Medi a doedd o ddim yn broblem adeg hynny. Ond ers mis Hydref mae aelodau o'r teulu wedi bod yn trio cael apwyntiadau rŵan, ac mae o'n eithriadol o anodd, os o gwbl," meddai.
Dywedodd Susan fod y sefyllfa'n peri pryder mawr i deuluoedd, yn enwedig y rhai sy'n ceisio amddiffyn perthnasau hŷn.
"Mae'n poeni fi'n arw pan 'da ni fatha teulu methu cael apwyntiadau i gael jab priefat. Mae gynnon ni rieni oedrannus a dan ni'n trio cael y jab preifat yma rhag i ni gario unrhyw beth 'mlaen iddyn nhw.
"Ma nhw'n deud bod o fatha epidemic eto gaeaf yma efo'r ffliw, ac eto does neb yn gwneud dim byd i helpu ni gael mynediad at y flu jabs."
Mae Susan yn dweud y dylai'r gwasanaethau iechyd fod yn fwy agored am y sefyllfa.
"Mae gonestrwydd yn beth mawr. Sa'n well i bobl wybod yr ateb yn iawn yn hytrach na theimlo bod pobl yn deud celwyddau wrthyn nhw. Ac ma' pawb fel bod nhw'n beio'u gilydd a neb yn cymryd cyfrifoldeb," meddai.
'Dim prinder' brechlynnau
Er nad Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gyflenwad y brechlynnau, mae'r Athro Oliver yn dweud "nad yw hi'n ymwybodol o unrhyw broblemau ar yr ochr breifat" ac yn mynnu bod "dim prinder" o gwbl o ran stoc y gwasanaeth iechyd.
Fodd bynnag, mae'n cydnabod bod y tymor ffliw wedi arwain at bwysau ychwanegol ar y gwasanaeth oherwydd y cynnydd yn nifer y cleifion â ffliw sydd angen triniaeth yn yr ysbyty.
Yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr, dangosodd ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) fod 254 o bobl y dydd ar gyfartaledd yn ysbytai Cymru yn dioddef o'r ffliw - roedd hynny 40% yn uwch na'r wythnos flaenorol.
Cafodd y ffigyrau diweddaraf eu cyhoddi ddydd Mercher, yn dangos bod achosion yn parhau ar gynnydd, ond fod cyfraddau yn dechrau arafu.

Dywedodd Dr Eleri Davies bod y ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod "peth olau ar ddiwedd y twnnel"
Yn ôl Dr Eleri Davies, dirprwy gyfarwyddwr meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod "peth olau ar ddiwedd y twnnel".
"Y'n ni yn gweld tipyn bach o arafu yn y cynnydd, a rhai o'r mesuriadau ni'n edrych arno i lawr ychydig," meddai.
"Allwn ni ddim dweud ein bod ni wedi cyrraedd y pegwn eto - mae hwnna yn rhywbeth ni'n gorfod asesu i riw raddau ar ddiwedd y tymor.
"Ond falle bo' ni'n cyrraedd lefel ar hyn o bryd sy'n fwy gobeithiol."

Er y straen ychwanegol hwn, mae'r Athro Oliver yn dweud ei bod yn disgwyl i'r gwasanaeth iechyd ymdopi'r gaeaf hwn.
"Mae straen ar y system yn anorfod... ond mae gennym nifer o gynlluniau ar waith i wneud yn siŵr bod gennym y capasiti sydd ei angen i allu trin yr holl bobl sydd angen gofal mewn ysbyty," meddai.
Yn ogystal, mae'r Athro Oliver yn mynnu nad yw hi wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu fod y math o ffliw sy'n lledaenu eleni gymaint â hynny yn fwy peryglus na mathau yn y gorffennol.
"Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth [hyd yma] bod y math hwn yn gysylltiedig â chynnydd penodol mewn marwolaethau... ac nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu nad yw cyffuriau gwrth-feiral [triniaethau ffliw] yn effeithiol yn ei erbyn."
Pwy all gael brechiad ffliw?
Mae'r gwasanaeth iechyd yn cynnig brechlyn ffliw am ddim i bobl sydd ei angen fwyaf, gan gynnwys:
Unrhyw un sydd yn 65 oed neu'n hŷn
Rhai sydd â chyflyrau iechyd hir dymor penodol
Menywod beichiog
Preswylwyr cartref gofal
Gofalwyr i bobl hŷn neu anabl
Pobl sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd gwan
Gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2025
