Rhybudd bod Cymru'n 'buddsoddi mewn salwch, nid iechyd'

Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn eistedd ar garreg ger afon, yn gwisgo crys glas a throwsus du.Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Derek Walker ei benodi yn Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn 2022 - yr ail berson i ymgymryd â'r rôl

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru'n "buddsoddi mewn salwch, nid iechyd", mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi rhybuddio.

Mae Derek Walker yn galw am newid radical yn y ffordd mae cyllidebau yn cael eu gwario ym maes iechyd, gan ganolbwyntio'n fwy ar atal salwch yn y lle cyntaf.

Mae dros £10bn y flwyddyn yn cael ei wario ar y GIG yng Nghymru bob blwyddyn - tua hanner cyllideb Llywodraeth Cymru.

Ond yn ôl y comisiynydd, does dim digon yn cael ei wario ar atal achosion salwch.

Mae'n dweud bod ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod pob £1 sy'n cael ei wario ar atal salwch yn dod â £14 yn ôl.

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru bod "atal yn cynnig gwerth anhygoel am arian", a bod strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu hynny.

Dywedodd Mr Walker fod cyfrifoldeb ar bob corff cyhoeddus i atal salwch - nid dim ond y byrddau iechyd.

Ychwanegodd fod anghydraddoldebau yn gwaethygu yng Nghymru, gan awgrymu bod mynd i'r afael â hynny yn allweddol os am leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

"Mae buddsoddi yn y pethau sy'n atal ansawdd bywyd gwael i'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn lleihau derbyniadau ysbyty y gellir eu hosgoi ac yn rhyddhau gwelyau a chlinigwyr," meddai.

"Ond eto rydym yn condemio'r GIG i ymladd argyfyngau ag un llaw y tu ôl i'w gefn.

"Mae cymunedau cysylltiedig, aer glân, gwaith teg, bwyd iach hygyrch, a mynediad at fannau gwyrdd yn ein cadw'n iach, tra bod gofal iechyd yn trin dim ond cyfran fach o'r hyn sy'n effeithio ar ein hiechyd, ond eto'n cymryd hanner ein cyllideb."

"Bydd cenedlaethau'n ein barnu os na fyddwn yn gweithredu nawr ar achosion systemig anghydraddoldeb."

Yn ei Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol mae'r comisiynydd yn nodi sawl blaenoriaeth arall, gan gynnwys Cyflog Byw Gwirioneddol, cynllun i wrthdroi gordewdra o fewn 10 mlynedd a phrydau ysgol am ddim i bob plentyn hyd at 16 oed.

'Atal salwch yn hanfodol'

Yn ymateb i adroddiad y comisiynydd, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver: "Mae atal salwch yn hanfodol ar gyfer Cymru iachach a GIG cynaliadwy.

"Mae'r dystiolaeth yn glir – mae atal yn cynnig gwerth anhygoel am arian ac mae strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu pwysigrwydd atal i drawsnewid iechyd pobl Cymru.

"Mae'n rhaid i ni adnewyddu ein hymdrechion atal a pharhau i leihau cyfraddau ysmygu ac efelychu'r cynnydd hyd yma ym maes rheoli tybaco ar draws meysydd eraill – fel bwyta'n iach ac ymarfer corff."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.