'Bydden i ddim yma'r Nadolig hwn heb roddion gwaed'

Hannah a'i theulu'n gwenu mewn siwmperi NadoligFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teulu Hannah'n gobeithio roedd y gwaethaf drostodd tan i'w chanser ddychwelyd

  • Cyhoeddwyd

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog pobl i roi "y rhodd eithaf - rhodd bywyd" y gaeaf hwn.

Mae angen mwy na 21,000 o roddion gwaed yng Nghymru wrth i nifer y cleifion ysbyty gynyddu dros y gaeaf.

Helpodd rhoddwyr gwaed a phlatennau i achub bywyd merch yn ei harddegau o Rydaman ddwywaith, ac mae ei theulu bellach yn galw am fwy o bobl i roi gwaed.

Dim ond tair oed oedd Hannah Poole pan gafodd ddiagnosis o Lewcemia Lymffoblastig Acíwt yn 2013.

Ar ôl misoedd o gemotherapi fe ddychwelodd y canser bum mlynedd yn ddiweddarach.

Hannah yn gwenu mewn siwmper Nadolig a het Sion CornFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah, 15, yn edrych ymlaen at dreulio'r Nadolig gartref

Er mwyn goroesi, roedd angen nifer o drallwysiadau o gelloedd gwaed coch a phlatennau ar Hannah i'w chadw'n ddigon cryf ar gyfer triniaeth.

Erbyn hyn mae'n 15 oed ac wedi gwella'n llwyr, gan edrych ymlaen at dreulio'r Nadolig gartref.

Yn ôl mam Hannah, Katrina Poole, roedd y rhoddion gwaed yn allweddol iddi wella.

"Ambell waith os oedd lefelau gwaed Hannah'n rhy isel byddai rhaid iddyn nhw roi stop i'r treatment.

"Mae e fel breuddwyd gas i weld dy blentyn di sydd angen cael treatment a wedyn mae e ar stop. A ti'n becso fel mae'n mynd i wella.

"Mae'n galed gweld dy blentyn di'n sâl. Maen nhw mor fach, oedd hi ffaelu anadlu, oedd popeth yn waith caled, oedd popeth yn 'nafu.

"Wedyn 'oedd y nyrsys yn dod mewn â'r trolis gyda'r gwaed. Mae'n cymryd awr a hanner i'r gwaed mynd trwyddo ond wedyn ti'n gweld hi'n newid. Ti'n gweld hi'n mynd o fod yn wan ac eithaf cysglyd i fod llawn egni."

'Rhoddion wedi achub fy mywyd'

Dywedodd Hannah ei bod yn edrych ymlaen at fod gyda'i theulu y Nadolig yma.

"Heb y rhoddion bydden i ddim yma nawr yn treulio amser gyda fy nheulu, sy'n eithaf hwyl.

"Os eich bod chi'n gallu rhoi gwaed, gwnewch e. Achos byddech chi'n helpu llwyth o deuluoedd a chi'n cael bisgien ar y diwedd."

Adam mewn crys-t glas yn eistedd ar gadair ysbyty yn rhoi gwaed, gyda'i fys bawd I fynyFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae tad Hannah wedi rhoi gwaed dros 230 o weithiau

Daeth ei thad, Adam, yn rhoddwr platennau ar ôl diagnosis cyntaf Hannah ac ers hynny mae wedi rhoi mwy na 230 o roddion.

Nadolig diwethaf, derbyniodd Adam neges destun gan Wasanaeth Gwaed Cymru yn dweud wrtho fod ei rodd wedi'i defnyddio.

"Mae'n bwysig i fi. Dwi'n teimlo fel dwi'n gwneud rhywbeth achos pryd ti yn yr ysbyty does dim byd ti'n gallu gwneud."

Ychwanegodd: "Dwi'n mynd i 'neud y gwaed bob mis. I fynd o Rydaman i Lantrisant mae'n 50 milltir bob ffordd. Ond dwi'n hapus i wneud e."

Session rhoi gwaed ym Mharc y Scarlets, LlanelliFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd 3% o'r boblogaeth sy'n rhoi gwaed

Yn ôl Gwasanaeth Gwaed Cymru mae angen casglu 350 o roddion bob dydd i ateb y galw ar draws 19 ysbyty yng Nghymru.

Mae tua 70% o roddion yn helpu cleifion â chanser ac anhwylderau gwaed, ond dim ond 3% o bobl cymwys sy'n rhoi.

Dim ond saith diwrnod y mae platennau, sy'n hanfodol i gleifion canser, yn para, sy'n golygu bod yr angen yn gyson.

Yn ôl Andrew Harries, Pennaeth Cyfathrebu Gwasanaeth Gwaed Cymru mae angen 21,000 o roddion gwaed dros y gaeaf.

"Fel gallwch chi ddychmygu mae salwch yn fwy cyffredin yr adeg hon o'r flwyddyn felly mae'n anoddach cael pobl drwy'r drysau.

"Mae 3% o'r boblogaeth ar hyn o bryd yn rhoi gwaed felly rydym yn gwneud ein gorau i yrru'r nifer hwnnw'n agosach at 4-5%. Yn ffodus, mae ysbytai ledled Cymru wedi cael cyflenwadau da eleni diolch i'r gefnogaeth wych gan bobl."

Pynciau cysylltiedig