Eluned Morgan yn awgrymu 'prynu brechlyn ffliw fel anrheg Nadolig'

Eluned MorganFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

"Beth am brynu brechlyn yn anrheg Nadolig?" meddai'r prif weinidog

  • Cyhoeddwyd

Mae'r prif weinidog wedi annog y cyhoedd i gael eu brechu rhag y ffliw er mwyn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd, wrth i achosion gynyddu yng Nghymru.

Awgrymodd Eluned Morgan y gallai pobl "brynu brechlyn fel anrheg Nadolig i'r rhai sydd ddim yn gymwys i gael brechlyn am ddim".

"Bydd Cymru'n wynebu cynnydd sylweddol mewn achosion o ffliw dros y gaeaf," rhybuddiodd y prif weinidog yn y Senedd ddydd Gwener.

Ychwanegodd ei bod yn "dda bod 800,000 o bobl eisoes wedi cael eu brechu", a bod hynny'n fwy na llynedd.

Masgiau mewn ysbytai

Mae nifer yr achosion o'r ffliw ac afiechydon anadlol eraill yn ysbytai Cymru wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Rhybuddiodd y prif weinidog fod achosion o feirws RSV ymhlith plant o dan bump oed wedi cynyddu'n sylweddol hefyd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod rhaid i "bob claf, ymwelydd ac aelod o staff wisgo masgiau wyneb yn eu hardaloedd asesu, adrannau brys a'u hardaloedd aros oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion o ffliw yn y gymuned ac ar safleoedd ein hysbytai".

Bydd masgiau ar gael wrth y brif fynedfa.

Mae'r bwrdd iechyd yn dweud y bydd gwisgo masgiau yn helpu i leihau'r risg o drosglwyddo'r ffliw a feirysau eraill i gleifion eraill sy'n agored i niwed.

Nyrs yn rhoi brechlyn i glaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn annog pawb cymwys i fanteisio ar y cynnig o frechlyn

Dywedodd llefarydd ar ran bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, eu bod nhw wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o salwch gaeaf a firysau anadlu yn yr ysbytai hefyd.

"Rydym wedi cymryd camau gofalus i ddiogelu ein cleifion, ein staff a'n cymunedau ehangach drwy ofyn i holl staff yr ysbyty ac ymwelwyr wisgo masgiau mewn ardaloedd clinigol.

"Rydym hefyd yn cyfyngu ar ymweliadau mewn ardaloedd o'n hysbytai lle mae achosion o heintiau'n bresennol.

"Byddwn yn adolygu'r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf ac, os bydd angen, yn addasu ein cyfyngiadau yn unol â hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn "bwysig iawn bod pawb sy'n gymwys yn manteisio ar eu cynnig o frechlyn ffliw am ddim y gaeaf hwn – dyma'r ffordd orau o'ch diogelu eich hun, ac eraill, rhag y ffliw".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol