Rhestrau aros y gwasanaeth iechyd wedi lleihau'n sylweddol

Mae'r rhestrau aros bellach ar eu lefel isaf ers mis Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos y lleihad misol mwyaf yn rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, gyda'r niferoedd bellach wedi gostwng am yr wythfed mis yn olynol.
Gyda 713,048 o driniaethau eto i'w cwblhau fis Rhagfyr 2025, mae hynny bron i 28,000 yn llai na'r mis blaenorol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £120m i dargedu'n benodol cyfanswm y bobl sy'n aros.
Ond mae'r niferoedd yn codi mewn mannau eraill.
Er enghraifft, mae nifer y cleifion sy'n aros yn hirach na'r amseroedd targed ar gyfer diagnosteg a therapïau wedi codi i'r uchaf ers 2024.
Yn yr un modd, mae'r perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod mewn gofal canser wedi gostwng i 57%, ymhellach o'r nod 75%.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles: "Mae'r set hon o ffigurau, sy'n torri sawl record, yn dangos pa mor galed mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio.
"Mae byrddau iechyd yn cynnal mwy o apwyntiadau cleifion allanol, a hynny gyda'r nos ac ar benwythnosau, yn ogystal â chyflawni mwy o lawdriniaethau gan gynnwys llawdriniaethau cataract - ffyrdd newydd o weithio, i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld a'u trin yn gynt."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS: "Nid yw hyn yn ddigon da."
Ychwanegodd bod "gweledigaeth uchelgeisiol Plaid Cymru i adnewyddu'r gwasanaeth iechyd yn cynnwys cynllun i fynd i'r afael â rhestrau aros Llafur, wedi'i chynllunio gyda chlinigwyr ac arbenigwyr iechyd - gan sefydlu hybiau llawdriniaeth ar draws Cymru er mwyn i bobl derbyn triniaeth fwy cyflym, cynyddu capasiti gwelyau, recriwtio meddygon teulu er mwyn lleddfu gofynion y dyfodol ar yr ôl-groniad rhestrau aros, ac i foderneiddio'r GIG."
Dywedodd llefarydd Reform UK, James Evans AS, bod yr ystadegau "ofnadwy hyn yn ganlyniad i 27 mlynedd o fethiant Plaid Cymru a Llafur".
Ychwanegodd y byddai Reform yn "lleihau strwythurau biwrocrataidd GIG Cymru i ryddhau mwy o gyllid ar gyfer gofal sylfaenol a gofal cam-i-lawr, gan flaenoriaethu integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol i ryddhau gwelyau yn ein hysbytai".
Dywedodd Peter Fox o'r Ceidwadwyr fod "ein GIG wedi torri" ac "mewn rhai ardaloedd, mae'r sefyllfa'n gwaethygu".
"Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun credadwy i drwsio ein GIG. Byddwn yn datgan argyfwng iechyd, yn cynyddu nifer y gwelyau yn ein hysbytai ac yn creu Cronfa Triniaethau Canser fel y gall meddygon ddefnyddio'r triniaethau mwyaf arloesol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth

- Cyhoeddwyd2 Mawrth

- Cyhoeddwyd19 Ionawr
