Carcharu tad a mam 'o uffern' am esgeuluso eu merch fu farw

Mae Alan a Bernita Davies wedi cael eu carcharu am wyth mlynedd yr un
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai cynnwys yn y stori isod beri gofid
Mae tad a mam o'r gogledd wedi cael eu carcharu, wedi i'w merch farw ar ôl cael ei hesgeuluso ganddyn nhw.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Steffie Davies, 32, wedi cael ei darganfod yn farw gan barafeddygon a gafodd eu galw i'w chartref yn Wrecsam ym mis Mai 2023.
Roedd ei rhieni, Alan a Bernita Davies - y ddau yn 60 oed - wedi cyfaddef achosi neu ganiatáu marwolaeth eu merch.
Cafodd y ddau eu dedfrydu ddydd Iau i wyth mlynedd yr un yn y carchar.
'Fel sgerbwd' gyda briwiau
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Steffie Davies yn ferch oedd yn caru anifeiliaid, ond roedd yn dioddef o orbryder, ac anaml oedd hi'n gadael y tŷ.
Dros y blynyddoedd, roedd hi'n ferch iach, heb fawr o broblemau meddygol.
Pan gafodd hi ei darganfod yn farw yn ei chartref, clywodd y llys ei bod "fel sgerbwd" gyda briwiau ar ei chorff.
Roedd hi hefyd mewn cyflwr lle na fyddai modd iddi fwyta nac yfed heb gymorth.
Clywodd y llys fod parafeddygon wedi ei darganfod mewn cyflwr ofnadwy.
Roedd ganddi wallt budr a heintiau ar ei chorff, gydag un briw yn 8cm mewn dyfnder.
Roedd y gwely y cafwyd hyd iddi ynddo yn wlyb.
Dywedodd un parafeddyg nad oedden nhw erioed wedi gweld claf mor ifanc mewn cyflwr mor wael.
Ychwanegodd y barnwr Mrs Ustus Mary Stacey fod y lluniau o Steffie yn "rhy ofidus" i'w dangos yn y llys.
"Ni fydd y rhai ohonom sydd wedi'u gweld byth yn gallu eu hanghofio," meddai.

Dywedodd y barnwr mai ychydig a wyddai pobl am 10 mlynedd olaf bywyd Steffie
Clywodd y llys fod mam Steffie, Bernita wedi galw 999 i roi gwybod am farwolaeth ei merch tua 08:30 ar 26 Mai 2023.
Roedd modd clywed Bernita yn crio yn yr alwad, lle dywedodd fod ei merch yn "oer" ac "fel sgerbwd".
Dywedodd y barnwr fod Steffie mewn poen difrifol cyn iddi farw, ac mae'n debyg ei bod wedi marw "ers sawl diwrnod" cyn i barafeddygon ei darganfod.
Roedd cyflwr y corff yn golygu nad oedd modd dweud ers faint oedd hi wedi marw.
Ychwanegodd y barnwr mai ychydig a wyddai pobl am 10 mlynedd olaf bywyd Steffie.
Roedd y llun diwethaf ohoni yn 2015 mewn priodas, ac roedd cymydog wedi ei gweld diwethaf yn 2017.
'Gallai fod wedi gwneud cymaint gyda'i bywyd'
Disgrifiodd un cymydog Bernita Davies fel "mam o uffern", gan ddweud bod modd ei chlywed yn gweiddi a rhegi ar ei phlant.
Dywedodd y barnwr fod Alan a Bernita wedi byw eu bywydau fel yr arfer, gan gadw'r ardd a gweddill y tŷ yn daclus, ond fod ystafell Steffie yn dra gwahanol.
Mewn datganiad, dywedodd chwaer Steffie ei bod wedi dangos potensial yn y coleg, lle roedd hi wedi astudio i ofalu am anifeiliaid, ond fod ei gorbryder wedi gwaethygu wrth iddi fynd yn hŷn a'i bod hi'n ei chael hi'n anodd gadael y tŷ.
Dywedodd perthynas arall i Steffie, na chafodd ei henwi yn y llys: "Gyda'r gefnogaeth a'r anogaeth gywir gan ei mam a'i thad, gallai fod wedi gwneud cymaint gyda'i bywyd."
Wrth eu dedfrydu ddydd Iau, roedd Bernita Davies yn ddiemosiwn yn gwrando ar sylwadau'r barnwr, gydag Alan Davies yn rhoi ei ben lawr ar sawl achlysur.
Cafodd y ddau eu dedfrydu i wyth mlynedd yr un dan glo, a bydd yn rhaid iddyn nhw dreulio dwy ran o dair o'r ddedfryd yn y carchar cyn cael eu rhyddhau ar drwydded.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.