Nigel Farage wedi galw Cymry yn 'siaradwyr estron'

Dywedodd llefarydd ar ran Nigel Farage na ddylid trin y fideo fel datganiad gwleidyddol
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Reform UK Nigel Farage yn cael ei feirniadu gan wrthwynebwyr gwleidyddol ar ôl disgrifio pobl Cymru fel "siaradwyr estron (foreign)" mewn neges fideo y cafodd ei dalu amdani.
Daw saith wythnos cyn etholiad y Senedd, lle mae Reform yn cystadlu i arwain llywodraeth nesaf Cymru.
Yn y fideo, a gafodd ei ddarganfod gan bapur newydd y Guardian, mae Mr Farage yn recordio cyfarchiad priodas yn dweud ei fod yn hynod siomedig i beidio â gallu mynychu'r digwyddiad lle'r oedd "hanner" y gwesteion yn Gymry.
Yna mae'n gofyn "pwy a ŵyr beth fyddai wedi digwydd gyda'r holl siaradwyr estron hynny yno?"
Cafodd ei eiriau eu condemnio gan Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd llefarydd ar ran Reform na ddylid trin y fideo fel datganiad gwleidyddol.
Reform yn blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
Targedau'r Gymraeg yn 'bwysig ac yn helpu'r iaith' - ysgrifennydd
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
Nigel Farage ddim am sefyll yn Etholiad Senedd Cymru 2026
- Cyhoeddwyd14 Mai 2025
Mae defnyddwyr gwasanaeth fideos Cameo yn ysgrifennu "awgrym" byr ar gyfer eu person enwog dewisol, sydd wedyn yn codi ffi am glip sydd fel arfer yn para llai na munud.
Yn ôl The Guardian, cafodd y clip ei recordio ym mis Gorffennaf 2025.
Dywedodd llefarydd ar ran Mr Farage: "Mae Cameo yn neges bersonol fer y mae aelodau'r cyhoedd yn gofyn amdani ac ni ddylid ei thrin fel datganiad gwleidyddol na gweithgaredd ymgyrchu."

Mae James Evans wedi mynnu bod Reform yn "parchu'r iaith"
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd James Evans, sy'n aelod Reform yn Senedd Cymru, mai mater i Nigel Farage oedd y fideo.
Ond ychwanegodd ei bod hi'n "bwysig iawn" i Reform weld y Gymraeg yn "tyfu ledled Cymru" ac "ein bod yn parchu'r iaith" gan sicrhau cyfleoedd i blant ei dysgu "os ydyn nhw'n dewis gwneud".
"Ond gadewch i mi fod yn glir iawn, mae Cymru yn genedl ddwyieithog. Rydym yn siarad Saesneg a Chymraeg, a pha bynnag iaith rydych chi'n ei siarad, dylech chi deimlo'n gartrefol yn ein gwlad."
'Cywilyddus'
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Dyma ni'n ei chael hi'n glir iawn - dirmyg Farage at bobl Cymru a'r iaith Gymraeg".
Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru bod y fideo yn "cadarnhau'r hyn rydyn ni i gyd yn ei wybod" am Nigel Farage, "nid yw'n malio am, nac yn parchu, Cymru na'n hiaith".
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, fod y sylwadau'n "gywilyddus" ac yn dangos "anwybodaeth watwarus".
Mae arolygon barn diweddar yn awgrymu bod Plaid Cymru a Reform yn cystadlu i fod y blaid fwyaf yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai, wrth i Lafur frwydro i ddal gafael ar rym ym Mae Caerdydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.