GIG Cymru 'bron wedi dymchwel' yn ystod y pandemig

Nyrsys mewn mygydauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Ymdrech rhyfeddol" staff sydd i ddiolch y ffaith na chafodd y gaasnaeth ei orlethu

GanOwain ClarkeGohebydd iechydaCemlyn DaviesGohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Bu bron i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac ar draws y DU, "ddymchwel" yn ystod pandemig Covid-19 oherwydd diffyg paratoi a'r ffaith bod y system dan gymaint o straen o flaen llaw.

Dyna un o brif ganfyddiadau adroddiad diweddaraf Ymchwiliad Covid y DU, sy'n dweud fod y system wedi ymdopi yn y pendraw, ond "dim ond o drwch blewyn".

Yn ôl cadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, "ymdrech rhyfeddol" staff sydd i ddiolch y ffaith na chafodd y gwasanaeth ei orlethu yn y pendraw.

Ond e'r gwaetha'r ymdrechion hynny, mae'r adroddiad yn nodi cyfres o bryderon ynglŷn ag effaith "ddinistriol" y pandemig ar y gwasanaeth iechyd a'r gofal a gafodd cleifion.

Dynes mewn mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 13,000 o lythyrau yn rhoi cyfarwyddyd i bobl fregus yng Nghymru i gysgodi, eu gyrru i'r cyfeiriadau anghywir

Yn benodol mae'r adroddiad yn nodi na chafodd rhai cleifion eu derbyn i'r ysbyty er bod angen, oherwydd y straen a'r ambiwlansys ac unedau brys.

Ni chafodd rhai eu derbyn i unedau gofal dwys er bod angen, oherwydd bod y rheiny wedi gorlenwi, er gwaethaf ymdrechion mawr i gynyddu capasiti.

Mae'n dweud hefyd fod miloedd lawer o gleifion oedd yn aros am driniaethau wedi dioddef oherwydd y penderfyniad i ohirio triniaethau nad oedd yn rhai brys, a bod rhai wedi dirywio cymaint nad oedd modd eu trin nhw wedyn.

Mae hefyd yn awgrymu fod Cymru wedi bod yn araf yn delio â'r twf aruthrol mewn cleifion ar restrau aros.

Mae'r adroddiad yn nodi hefyd bod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar les ac iechyd meddwl staff, fu'n gorfod gweithio "dan bwysau annioddefol" mewn system oedd mor fregus i ddechrau.

Mae'n dweud fod ymdrechion i atal Covid rhag lledaenu, yn y cyfnod cynnar, wedi methu oherwydd diffyg cydnabyddiaeth bod y feirws yn lledaenu trwy'r awyr.

Dywed hefyd bod cyfyngiadau ar ymweld wedi cael "effaith andwyol" ar deuluoedd, ac mae pryderon am wahaniaethau ar draws y DU o ran gwasanaethau i gefnogi cleifion â Covid hir.

Ysbyty maes Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 60 o gleifion gafodd eu trin mewn ysbytai maes, er bod £136m wedi cael ei wario arnyn nhw

Mae'r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau penodol am yr ymateb yng Nghymru, sy'n cynnwys meddyg ymgynghorol blaenllaw yn sôn bod dim mygydau ar gael yn ei adran ar ddechrau'r pandemig, a bod ef a'i gydweithwyr wedi cael eu taro'n wael o ganlyniad.

Cafodd 13,000 o'r 91,000 o lythyrau yn rhoi cyfarwyddyd i bobl fregus yng Nghymru i gysgodi, eu gyrru i'r cyfeiriadau anghywir.

Roedd Prif Feddyg Cymru ar y pryd, Syr Frank Atherton, yn cydnabod nad oedd digon o gapasiti mewn ysbytai o flaen llaw i ymateb, gan nodi bod ceisio rhedeg system mor "effeithlon" yn golygu nad oedd y system wedi paratoi'n ddigonol.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod arafwch yng Nghymru o ran llacio cyfyngiadau ar ymweld â mamau beichiog.

Dim ond 60 o gleifion gafodd eu trin mewn ysbytai maes, er bod £136m wedi cael ei wario arnyn nhw, ond nid yw'r ymchwiliad yn beirniadu'r egwyddor o'u sefydlu.

Dywed hefyd fod heriau mawr wedi wynebu gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru oherwydd salwch ac absenoldeb staff, a bod gohirio rhai rhaglenni sgrinio canser wedi achosi niwed i rai.

O ran iechyd a lles staff, clywodd yr ymchwiliad am staff yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda oedd wedi gorfod dychwelyd i'w ceir i fwyta neu am baned, gan nad oedd llefydd eraill ar gael iddyn nhw gael seibiant.

YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn awgrymu fod Cymru wedi bod yn araf yn delio â'r twf aruthrol mewn cleifion ar restrau aros

Mae'r ystadegau iechyd diweddaraf yn dangos fod y gwasanaeth iechyd yn dal i gael trafferth ymdopi â rhestrau aros a dyfodd yn aruthrol yn ystod y pandemig.

Clywodd yr ymchwiliad hefyd fod Cymru a Gogledd Iwerddon "yn amlwg yn ei chael hi'n anodd iawn delio â hyn".

Mae'r ffigyrau diweddaraf a gafodd eu rhyddhau ddydd Iau yn dangos bod 713,048 o driniaethau eto i'w cwblhau yng Nghymru, ond mae hynny bron i 28,000 yn llai na'r mis blaenorol.

Clywodd yr ymchwiliad hefyd nad oed data ar gael ynglŷn â faint, a'r math o gleifion gafodd driniaeth breifat wedi'i dalu gan y gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig.

Mae'r ymchwiliad yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y DU sef bod angen cynyddu capasiti mewn gofal brys ac argyfwng, a chryfhau a chysoni canllawiau i atal a rheoli heintiau.

Mae hefyd angen gwella prosesau cofnodi data ynglŷn ag unigolion sydd â risg penodol o gael ei heintio, a chynyddu cymorth iechyd a lles i weithwyr iechyd er mwyn cryfhau'r gweithlu a chadw staff.

Yn ymateb i'r adroddiad dyweddd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan: "Rhoddodd y pandemig bwysau sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru a ledled y DU.

"Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol a gafodd hyn ar gleifion, staff, y gweithlu ehangach a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan Covid-19.

"Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymwneud â'r ymchwiliad mewn modd agored ac adeiladol, fel y gwnaethom mewn perthynas â'r ddau adroddiad cyntaf."

'Strwythurau'n or-fiwrocrataidd'

Dywedodd AS Reform, James Evans bod y cyhoedd "wedi eu methu" yn ystod y pandemig gan lywodraeth Lafur Cymru.

"Mae'n glir bod strwythurau GIG oedd yn or-fiwrocrataidd, a methiant wrth rannu data wedi golygu bod Llywodraeth Cymru'n araf yn rhoi gwybod i bobl fregus ac yna hefyd, cafodd dros 10,000 o lythyron eu hanfon i'n cyfeiriad anghywir."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.