Foden: Cyngor Gwynedd yn 'cymryd gormod o amser' i ddal staff yn atebol

Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros bedair blynedd

GanDafydd Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd yn cymryd gormod o amser i ddal yn atebol staff a fethodd gyfleoedd i atal y pedoffeil Neil Foden, yn ôl y rhai sy'n cynrychioli ei oroeswyr.

Daw hyn wrth i raglen Newyddion S4C ddatgelu bod un o uwch reolwyr y cyngor - oedd yn gwybod am bryderon am y cyn-brifathro - yn dal i roi hyfforddiant ar ddiogelu plant, chwe mis ar ôl carcharu'r pedoffeil.

Daeth adroddiad fis Tachwedd i'r casgliad bod asiantaethau wedi colli dros 50 o gyfleoedd i atal cyn-bennaeth Ysgol Friars, Bangor, rhag camdrin merched ifanc yn rhywiol.

Mae Cyngor Gwynedd wedi mabwysiadu cynllun ymateb i droseddau Foden ac yn dweud na allan nhw rannu gwybodaeth am aelodau staff unigol.

Mae cais wedi'i wneud am ymateb gan yr uwch reolwr - oedd yn swyddog dynodedig dros ddiogelu - trwy ei gyflogwr Cyngor Gwynedd.

Mae adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant (AYP) a gafodd ei sefydlu ar ôl carcharu Foden yng Ngorffennaf 2024 yn casglu bod nifer o gyfleoedd i atal y pedoffeil wedi eu colli gan rai o swyddogion Cyngor Gwynedd.

Mewn un achos, roedd yr awdurdod lleol wedi derbyn rhybudd gan elusen amddiffyn plant yr NSPCC am ymddygiad "proffesiynol amhriodol" Foden.

Yn gwybod am bryderon yn dyddio yn ôl i 2019, yn ôl yr adroddiad AYP, dywedodd yr uwch reolwr diogelu bod rhybudd yr NSPCC yn ymwneud â "ffiniau proffesiynol yn hytrach na honiad o gamdriniaeth".

Dywedodd yr uwch reolwr nad oedd y mater yn cwrdd â'r diffiniad ar gyfer gweithredu o dan y prosesau oedd mewn grym ar y pryd, ond y gallai gwrdd â'r trothwy o dan brosesau newydd oedd i'w cyhoeddi yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Neil FodenFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei arestio ar 6 Medi 2023

Tair wythnos wedyn, derbyniodd Cyngor Gwynedd rybudd am Foden gan gorff arall, y Ganolfan Cyfeirio Ymosodiad Rhyw yn y gogledd, sy'n helpu dioddefwyr.

Roedd y rhybudd yn cyfeirio at berthynas "or-gyfarwydd" Foden gyda phlentyn.

Eto, barn yr uwch reolwr oedd nad oedd angen gweithredu o dan y prosesau oedd mewn grym ar y pryd.

Mae'r adroddiad AYP yn nodi bod y ddau achos uchod yn "gyfle a gollwyd", ynghyd â nifer o rai eraill.

Er hynny, mae Newyddion S4C yn deall bod y swyddog yma yn dal i roi hyfforddiant ar ddiogelu plant yn Ionawr 2025, chwe mis ar ôl carcharu Foden.

Fis Mai 2025, daeth i'r amlwg bod unigolion o Adran Plant Cyngor Gwynedd "i ffwrdd o'r gwaith", gyda'r cyngor yn dweud bod "trefniadau tymor byr" mewn lle.

Katherine Yates
Disgrifiad o’r llun,

"Does 'na ddim teimlad o frys," yn ôl Katherine Yates

Nawr, mae'r cyfreithiwr Katherine Yates, sy'n cynrychioli goroeswyr Neil Foden, yn dweud y dylai Cyngor Gwynedd fod wedi "gweithredu'n gyflymach".

"Gallen nhw fod wedi gwneud mwy yn gynharach," meddai.

"Roedd hi'n rhy gyfleus iddyn nhw ddweud 'Fe wnawn ni adael pethau, mae'r AYP yn cael ei baratoi felly fe arhoswn ni'.

"Dydy hynny ddim yn ddigon da. Gallen nhw fod wedi bod yn gweithredu tra roedd yr adroddiad yna'n cael ei baratoi.

"Y cyfan 'dan ni'n ei gael rŵan ydy oedi. Mae fy nghleientiaid i'n dweud wrtha i 'edrychwch, mi gafodd Foden ei arestio ym mis Medi 2023. Mae hi rŵan yn Fawrth 2026'.

"Does 'na ddim teimlad o frys. Dim teimlad o ddyletswydd i'r dioddefwyr a'u teuluoedd.

"Mae'n teimlo i mi y dylen nhw fod yn symud yn llawer cyflymach. Yn sicr, mae angen rhagor o dryloywder.

"Mae arna' i ofn bod hyn i gyd am atebolrwydd. Hyd nes bod rhywun wedi ei ddal yn atebol, does dim sicrwydd na all hyn ddigwydd eto."

Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod eu "trefniadau diogelu wedi newid a chryfhau erbyn hyn"

Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi ymgynghorwyr allanol i ddelio ag unrhyw broses ddisgyblu a chyflogaeth mewn perthynas ag achos Foden.

Ond yn ôl yr arbenigwr ar hawliau plant, Helen Mary Jones, mae angen i'r awdurdod lleol osod amserlen glir.

"Dwi'n credu beth gallen nhw wneud tu mewn i'r gyfraith fel y mae yw gosod amserlen fel bod teuluoedd, dioddefwyr a phobl Gwynedd yn gyffredinol yn gwybod pryd mae'r prosesau yma yn mynd i ddod i ben.

"Mae'n ddigon hawdd i bobl broffesiynol yn y maes ddeall bod y prosesau yma yn cymryd lot o amser.

"Os buaswn i'n fam i un o'r bobl ifanc sydd wedi dioddef, dwi ddim yn siŵr os buaswn i'n cael llawer o gysur allan o'r ffaith yna.

"Achos os ydym ni eisiau cael ffydd yn y ffaith bod diwylliant wedi newid, mae'n rhaid i bobl gael eu dal yn atebol."

Helen Mary Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid i bobl gael eu dal yn atebol," meddai Helen Mary Jones

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Amlygodd yr adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder nifer sylweddol o gyfleoedd a fethwyd gan Gyngor Gwynedd ac mae dysgu'r gwersi amlygwyd yn brif flaenoriaeth i'r cyngor.

"Mae camau pendant wedi eu cymryd er mwyn gweithredu newidiadau a gwneud popeth posib i sicrhau na fydd y methiannau hyn yn cael eu hailadrodd.

"Mae ein trefniadau diogelu wedi newid a chryfhau erbyn hyn a byddwn yn parhau i wella.

"O ran materion adnoddau dynol, fel pob cyflogwr, nid ydym yn gallu trafod na gwneud unrhyw sylw am faterion cyflogaeth unigolion ac ni fyddai'n briodol i unrhyw swyddog sydd ynghlwm â'r broses hon wneud sylw chwaith.

"Rydym yn cydnabod pryder pobl ynglŷn â'r materion hyn a hoffem roi sicrwydd i bobl Gwynedd ein bod yn dilyn pob cam priodol, cyfreithiol sy'n ddisgwyliedig ohonom fel cyflogwr ac mae hynny'n cael ei arwain gan arbenigwyr allanol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig