Defnyddio offer heb eu sterileiddio mewn llawdriniaethau ysbyty

Cafodd yr offer eu defnyddio yn Ysbyty Brenhinol Gwent dros ddau ddiwrnod rhwng 25 a 26 Chwefror eleni
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro ar ôl i offer llawfeddygol - nad oedd wedi cael eu sterileiddio - gael eu defnyddio mewn llawdriniaethau ac archwiliadau meddygol.
Roedd yr achosion yn ymwneud â 21 o gleifion yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd dros ddau ddiwrnod rhwng 25 a 26 Chwefror eleni.
Mae hyn yn dilyn digwyddiad ar 24 Chwefror ble cafodd offer llawfeddygol eu diheintio ond chafon nhw ddim eu rhoi trwy'r cam sterileiddio olaf.
Yna, cafodd yr offer eu defnyddio mewn archwiliadau a llawdriniaethau meddygol, gan arwain at risg o drosglwyddo firysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed.
Cafodd y gwall ei ganfod trwy "wiriad arferol" ar 27 Chwefror a chysylltodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan â chleifion ar 16 Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod yn "cynnig ein hymddiheuriadau diffuant am y pryder y gallai'r sefyllfa hon ei achosi".
'Digwyddiad cyfyngedig iawn'
"Er bod y risg glinigol o ddod i gysylltiad â feirws sy'n cael ei gludo yn y gwaed yn isel iawn, rydym wedi trefnu profion a chefnogaeth ragofalus i roi sicrwydd llawn," meddai'r bwrdd iechyd.
Yn ôl y llefarydd, mae tîm arbenigol wedi cael ei sefydlu bellach, er mwyn ymchwilio i'r methiant.
"Lles ein cleifion ydy'r flaenoriaeth fwyaf i ni ac rydym yn cymryd pob cam angenrheidiol i ddeall sut y digwyddodd hyn ac i'w atal rhag digwydd eto."
Ychwanegodd y llefarydd eu bod eisiau rhoi sicrwydd i bob claf "mai digwyddiad cyfyngedig iawn oedd hwn" a'u bod wedi cysylltu'n uniongyrchol â'r rhai hynny y mae hyn yn effeithio arnyn nhw.
Dywedodd y llefarydd hefyd "nid oes achos pryder ehangach."

Cafodd y gwall ei ganfod trwy "wiriad arferol" ar 27 Chwefror a chysylltodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan â chleifion ar 16 Mawrth
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad diogelwch cleifion yn yr ysbyty.
"Rydym wedi cael sicrwydd bod y bwrdd iechyd yn cymryd pob mesur rhagofalus i atal digwyddiadau fel hyn rhag digwydd eto."
Dywedodd y corff statudol annibynnol sy'n cynrychioli pobl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, Llais, fod angen i bobl deimlo sicrwydd bod y prosesau sy'n cael eu cynllunio i amddiffyn eu diogelwch yn cael eu dilyn ac yn gweithio.
Ar ran Reform UK, dywedodd Laura Anne Jones AS fod y newyddion yn "bryderus iawn" a'i fod yn codi cwestiynau difrifol am brosesau a goruchwyliaeth o fewn GIG Cymru.
Disgrifiodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y methiannau fel rhai "dychrynllyd", gan ddweud y bydden nhw'n "gwneud ein GIG yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol" pe bai nhw'n llywodraethu.
Dywedodd Peter Fox AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod hyn yn doriad "difrifol" o ddyletswyddau gofal a chyfrifoldeb a galwodd am ymchwiliad llawn i'r mater.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi cael ceisiadau am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.