Newid iaith grŵp o'r Gymraeg i'r Saesneg 'ddim yn helpu'r iaith'

Ben KitchenerFfynhonnell y llun, Ben Kitchener
GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Os ti'n newid yr iaith chi'n siarad mewn grŵp o'r Gymraeg i'r Saesneg, ti'n cryfhau'r deinamig o newid y iaith leiafrifol i'r iaith mwyafrifol a dyw hynny dim yn helpu'r iaith."

Mae Ben Kitchener yn creu fideos am ei brofiadau fel dysgwr Cymraeg ar gyfer ei gyfrif Instagram, Sais Cymreig. Un o'r sefyllfaoedd mae e wedi'i rhannu mewn fideo sy' wedi cael cryn ymateb yw'r dewis iaith sy'n digwydd pan fo person di-Gymraeg yn ymuno gyda sgwrs ac mae'r siaradwyr yn troi o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Meddai: "Rhywbeth dwi wedi sylweddoli, hyd yn oed pan dwi gyda ffrindiau sy'n siarad Cymraeg, yw hyn - os dwi ishe siarad Cymraeg, mae bron pawb yn parhau yn y Gymraeg.

"Ond os dwi wedi blino a'n newid yr iaith yn ôl i'r Saesneg mae pawb arall yn newid.

"Mae hyn yn waeth mewn sefyllfaoedd grŵp. Mewn ystafell lle gall pawb ddeall Cymraeg, os yw un person yn siarad Saesneg, yna bydd iaith y grŵp cyfan yn newid i'r Saesneg hefyd.

"Oni bai bod rhesymau cryf iawn i'n hannog i ddefnyddio'r Gymraeg, yna ni fydd y mwyafrif yn gwneud hynny a bydd mwy a mwy o sgyrsiau'n newid wrth i'r cynnwys fynd yn fwyfwy Seisnig.

"Ac mae'n digwydd gyda phob iaith nawr - mae'n digwydd ledled y byd gyda effaith y byd digidol lle mae'r iaith a diwylliant Saesneg mor bwerus mae'n gallu newid arferion hyd yn oed mewn gwledydd fel Ffrainc."

Ymateb

Mae'r fideo wedi ennyn ymateb ar-lein gyda mwy na 50,000 o bobl yn ei wylio, rhywbeth sy' wedi syfrdanu Ben: "Mae'n anhygoel – mae'r cyfrif yn fach a do'n i ddim yn disgwyl i un o'r reels i gyrraedd 50,000 o bobl."

Mae Ben, sy'n dod o Sir Hertford yn wreiddiol, yn angerddol am bolisi iaith ac wedi dysgu Cymraeg er mwyn cyfrannu i'r maes: "Dw i'n credu taw dwyieithrwydd yw un o'r pethau gorau yn y byd. Ac yng Nghymru, rydym yn colli hynny.

"Y neges ar fy Instagram yw'r peth pwysicaf i fi achos os mae hyd yn oed un person yn newid arferion ynglŷn â'r iaith neu yn dysgu un peth am pam ni'n gwneud y pethau yma, dwi'n hapus."

Fel un o Loegr roedd Ben yn poeni i gychwyn am yr ymateb i'w fideos am siarad Cymraeg: "O'n i'n poeni am hyn pan yn symud i'r maes yma – dwi'n ymwybodol o ble dwi'n dod a'r profiadau dwi wedi cael.

"Ond dwi wedi cael ymateb mor bositif o'r gymuned Gymraeg. Dwi wedi clywed llawer o stereotypes am beth mae pobl sy'n siarad Cymraeg yn meddwl am bobl o Loegr sy'n dod i mewn, ond mae hyn yn syml iawn ac yn osgoi realiti.

"Os ti'n trio ymuno â'r gymuned mae pobl yn hapus."

Dadl Ben yw ei bod hi'n fantais bod e ddim yn Gymro ac felly mae'n gallu siarad am yr iaith Gymraeg o safbwynt newydd: "Dw i'n credu taw mantais fawr yw'r ffaith nad ydw i'n dod o Gymru achos 'mod i'n gweld y penderfyniadau, y datblygiadau, a'r dadleuon o safbwynt hollol wahanol – safbwynt sy' wedi cael ei ddylanwadu gan yr ymdrech i ymuno â'r gymuned Gymraeg a phrofi defnyddio'r Gymraeg mewn amgylchoedd gwahanol."

Ben yn derbyn ei dystysgrif am ddysgu CymraegFfynhonnell y llun, Ben Kitchener
Disgrifiad o’r llun,

Ben yn derbyn ei dystysgrif am ddysgu Cymraeg

Y gymuned

Dechreuodd Ben ddysgu'r iaith ddwy flynedd yn ôl ar ddiwedd ei gyfnod ym Mhrifysgol Bryste oherwydd ei ddiddordeb ym maes polisi iaith ac wedi iddo ddysgu Catalaneg, Sbaeneg a Rwsieg yn flaenorol.

Erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn dweud mai'r gymuned yw ei brif reswm dros ddysgu'r iaith: "Y peth dwi wedi mwynhau am ddysgu Cymraeg yw fod y Gymraeg wedi rhoi y pethau o'n i angen i ymuno â'r gymuned yng Nghaerdydd mewn ffordd go iawn.

"Mae'n teimlo fel dwi'n dod o hyd i rhywbeth arall yn y ddinas ac yn y gymuned yma.

"Dwi mor ddiolchgar i bawb ac wedi cyfarfod pobl newydd."

Dyw Ben ddim yn disgrifio ei hun fel siaradwr Cymraeg, serch hynny: "Dwi ddim yn identifyo fel Cymro. Dwi'n credu bod hynny'n bwysig er mwyn dangos dwi ddim wedi cael yr un profiadau â ffrindiau sy' wedi tyfu lan gyda'r Gymraeg.

"Dwi ddim wedi cael y profiad o golli fy iaith, er enghraifft.

"'Nes i benderfynu ymuno â chymuned o siaradwyr Cymraeg a dwi'n credu rhaid i fi bwysleisio dwi ddim wedi cael yr un fath o brofiadau ond dwi ishe dangos i bobl mae'n bwysig i ni ddysgu Cymraeg."

Ben KitchenerFfynhonnell y llun, Ben Kitchener

Rhagdybiau

Mae rhannu ei fideos am yr iaith Gymraeg a gweld yr ymateb wedi gwneud i Ben ddysgu am rai o'r rhagdybiau am siaradwyr Cymraeg hefyd, meddai: "Un peth 'nes i sylweddoli yw fod pobl yn Lloegr fel arfer ddim yn sylweddoli fod pobl sy'n siarad Cymraeg yn Gymraeg iaith gyntaf.

"Ni ddim yn gallu dychmygu hyn ond dydyn ni ddim yn meddwl fel hyn am bobl yn Sbaen, Ffrainc ac yn y blaen. Dydyn ni ddim yn disgwyl i bobl o'r gwledydd hynny i siarad Saesneg fel iaith gyntaf ond yng Nghymru ni yn."

Beth felly sy'n gwneud Ben mor angerddol am ddwyieithrwydd?

Meddai: "Fy nheulu fy hun. Roedd fy hen famgu yn dod o Bavaria ac yn siarad Almaeneg, roedd fy nhadcu yn siarad Almaeneg. Ond doedd fy nhad ddim yn dda gyda ieithoedd felly ni wedi colli'r iaith.

"Dwi wedi siarad gyda gymaint o bobl sy' wedi tyfu lan 'da dwy iaith. Ac maen anhygoel, mae'n rhoi sgiliau hollol wahanol i chi.

"Mae'n helpu gyda pethau fel sgiliau cognitive a dementia ac yn newid y ffordd chi'n cysylltu gyda'r byd hefyd.

"Felly ni'n gallu cael gwlad hollol ddwyieithog."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig