Y gwasanaeth iechyd yn 'fwy bregus' nag erioed i ymateb i argyfwng

Dr Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

"Ma' effaith Covid yn dal gyda ni, ac mi fydd o am flynyddoedd," meddai Dr Llinos Roberts

GanOwain Clarke
Gohebydd iechyd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa fwy bregus nag erioed i ymateb i unrhyw argyfwng tebyg i Covid-19.

Dyna farn un o feddygon amlyca'r wlad, sy'n rhybuddio fod y straen o ddelio ag ôl-effeithiau'r pandemig - gan gynnwys twf aruthrol mewn rhestrau aros - yn golygu fod y gwasanaeth "yn gwegian".

Oherwydd hynny mae Dr Llinos Roberts, pennaeth clinigol yr ysgol feddygol yn Abertawe, yn cwestiynu gallu'r gwasanaeth i ymateb i argyfyngau yn y dyfodol.

Ond mae'n cydnabod fod yna rai gwersi wedi eu dysgu.

Daw ei sylwadau ar drothwy cyhoeddi trydydd adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU, fydd yn pwyso a mesur effaith y pandemig ar wasanaethau iechyd yn benodol, ar draws y pedair gwlad.

Dywedodd Dr Llinos Roberts: "Byddwn i'n dadlau fod y gwasanaeth iechyd yn fwy bregus nawr oherwydd effaith Covid - 'da ni dan fwy o straen nag oedden ni cyn y pandemig.

"Felly 'tase na greisis arall, fel y pandemig, fe fyddai'r holl system... yn cael trafferth mawr i ymdopi.

"Er ein bod ni wedi dysgu rhai gwersi pwysig iawn - bydde rhoi y gwersi hynny ar waith yn anodd iawn mewn system sy'n barod yn gwegian."

'Covid oedd y ceffyl blaen'

"Ma' effaith Covid yn dal gyda ni, ac mi fydd o am flynyddoedd - fel yr amseroedd aros mewn ysbytai," ychwanegodd Dr Roberts, oedd yn feddyg teulu yng ngorllewin Cymru yn ystod y pandemig.

"Mae lefelau problemau iechyd meddwl hefyd yn uchel iawn a does gen i ddim amheuaeth fod Covid wedi cyfrannu at hynny.

"Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd pobl yn dewis peidio dod i'n gweld ni [meddygon teulu] am bethau fydden nhw fel arfer wedi gwneud a chael diagnosis hwyrach na'r arfer oherwydd eu bod nhw bron a bod wedi'u hannog i beidio dod i'n gweld ni... oherwydd bod 'na argyfwng.

"Ond roedd pobl yn dal i ddatblygu canser, yn dal i gael trawiadau ar y galon a datblygu cyflyrau eraill.

"Ond oherwydd mai Covid oedd y ceffyl blaen roedd cyflyrau eraill yn cael eu hamddifadu."

Disgrifiad,

"Tase na greisis arall, fel y pandemig, fe fyddai'r holl system... yn cael trafferth mawr i ymdopi"

Ond mae'n dweud ei bod hi'n falch o'r ffordd y gwnaeth rhannau o'r gwasanaeth ymateb yn gyflym i rai heriau.

"Rwy'n cofio cael cyfarfod yn y surgery ar ddydd Gwener yn sôn am y pandemig a'r newidiadau byddai angen eu gwneud.

"Erbyn dydd Llun roedden ni wedi trawsnewid sut roedden ni'n cynnig gwasanaeth i'n cleifion ni.

"O fynd o surgeries lle'r oedd y 'stafelloedd aros yn llawn cleifion, yn sydyn wedyn roedden ni'n cynnig apwyntiadau dros y ffôn neu ar fideo - ond roedd hynny'n rhywbeth oedd rhaid i ni wneud.

"Rwy'n browd iawn o hynny."

Ôl-effaith y pandemig

Oherwydd bygythiad Covid fe benderfynodd Llywodraeth Cymru ohirio llawer iawn o driniaethau am gyfnodau sylweddol yn ystod y pandemig, a hynny i flaenoriaethu adnoddau ar gyfer yr argyfwng.

Ond o ganlyniad, gwelwyd twf aruthrol mewn rhestrau aros.

Tua dechrau'r pandemig, yn Ebrill 2020 roedd 442,905 o achosion ar restrau aros yng Nghymru.

Fe gododd hynny i uchafswm o 802,268 erbyn Tachwedd 2024.

Cynyddodd y niferoedd oedd wedi aros dwy flynedd neu ragor o 350 yn Ebrill 2020 i uchafswm o 70,417 ym Mawrth 2022.

Bellach mae rhestrau aros wedi gostwng i 740,954, a'r niferoedd sydd wedi aros dwy flynedd neu ragor wedi disgyn i 5,252.

Bydd y ffigyrau misol diweddaraf yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Iau.

Ond mae'r ddau ffigwr yn dal yn uwch o lawer na'r sefyllfa cyn Covid.

Angharad
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Athro Angharad Davies: "Mae angen i ni sicrhau fod gyda ni wasanaeth iechyd sy'n gallu ymdopi â chreisis"

Poeni am yr effaith ar staff ac am ddiffyg adnoddau yn fwy cyffredinol mae'r Athro Angharad Davies o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

"Mae'r sefyllfa o ran y gweithlu yn bryder mawr - mae prinder staff a llawer ohonyn nhw wedi wynebu anawsterau'r pandemig yn ogystal â [heriau] rhestrau aros," medd yr Athro Davies, sydd hefyd yn is-lywydd Coleg Brenhinol y Patholegwyr.

"Mae yna ymdeimlad eu bod nhw wedi ymlâdd a bod angen i ni greu gweithlu sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

"Mae angen i ni sicrhau fod gyda ni wasanaeth iechyd sy'n gallu ymdopi â chreisis [tebyg i'r pandemig].

"Nid yn unig pethau fel y gweithlu a gwelyau ond adnoddau yn aml dydyn ni ddim yn meddwl amdanyn nhw - fel patholeg, profion labordy, iechyd galwedigaethol, iechyd cyhoeddus ac adnoddau iechyd meddwl - oherwydd eu bod nhw i gyd yn andros o bwysig mewn pandemig."

'Dwi'n rheoli symptomau o hyd'

Poeni hefyd am iechyd a lles staff iechyd mae Yanto Evans o Gwmbrân.

Cyn y pandemig roedd yn ŵr ffit a heini tan iddo ddal Covid yn Ebrill 2020.

"Ar y pryd roeddwn i'n iachus iawn ac yn gweithio llawn amser - ro'n i'n hyfforddi ar gyfer triathlon.

"Ar ôl bod yn sâl, do'n ni ddim yn gallu gwneud unrhyw beth.

"Dwi dal heb adfer 100% - dwi'n rheoli symptomau o hyd.

"Dwi'n cael problemau cysgu, tinitws yn fy nghlustiau ac yn aml iawn rhaid i fi orwedd."

Erbyn hyn mae Yanto yn ymddiriedolwr elusen Long Covid Support - un o'r mudiadau sydd wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Covid y DU.

Yanto
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Yanto Evans ei fod "yn grac iawn â'r holl sefyllfa"

Mae'n dweud bod nifer helaeth o staff iechyd sy'n dal i ddioddef gyda Covid hir wedi cysylltu â'r elusen, ac mae'n poeni am ddiffyg cefnogaeth iddyn nhw.

"Dwi 'di siarad â llawer o bobl oedd yn gweithio i'r gwasanaeth ond dal ddim yn gallu gweithio, a rhai wedi dewis gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

"Cafodd dim digon i wneud i amddiffyn staff a does dal dim digon o amddiffyniadau mewn gwasanaeth iechyd sydd dan bwysau.

"Dwi'n grac iawn â'r holl sefyllfa."

Beth yw Modiwl 3 yr Ymchwiliad Covid?

Mae Ymchwiliad Covid y DU yn ystyried 10 modiwl i gyd.

Mae'r Ymchwiliad wedi cyhoeddi adroddiadau eisoes am barodrwydd llywodraethau cyn Covid, ac am benderfyniadau allweddol y llywodraethau yn ystod y pandemig.

Bydd adroddiad Modiwl 3 yn edrych yn benodol ar effaith y pandemig ar wasanaethau iechyd ar draws y pedair gwlad gan bwyso a mesur pynciau fel:, dolen allanol

  • Effaith y pandemig ar brofiadau cleifion;

  • Capasiti ysbytai ac unedau gofal dwys, yn cynnwys sefydlu ysbytai maes;

  • Effaith ar feddygon, nyrsys a staff iechyd eraill;

  • Ymdrechion i atal lledaeniad o fewn lleoliadau iechyd, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol (PPE) a rheolau i ymwelwyr;

  • Nodweddion, diagnosis a thriniaeth Covid hir.

'Gwersi pwysig'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd yr adroddiad, ac yn croesawu'r cyfle i ddysgu ohono.

"Bydd hwn yn adroddiad pwysig yn ymdrin ag effeithiau'r pandemig ar y gwasanaeth iechyd, a bydd yn cynnwys gwersi pwysig i'r gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru," meddai llefarydd

"Mae ein meddyliau'n dal i fod gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig, yn enwedig pawb a gollodd anwyliaid."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.