Heddlu'r Gogledd yn ymuno â rhedwyr benywaidd i daclo aflonyddu

PC Hughes, SCCH Williams a SC AllportFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd PC Hughes, SCCH Williams a SC Allport â Môn Girls Run yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion heddlu am fod yn bresennol ar lwybrau rhedeg poblogaidd mewn ymdrech i helpu menywod a merched i deimlo'n ddiogel, meddai Heddlu'r Gogledd.

Cafodd Ymgyrch Cadence ei greu gan PC Catrin Hughes, sy'n gobeithio y bydd yn annog menywod i roi gwybod am unrhyw aflonyddu neu sarhad maen nhw'n ei brofi.

Mae data yn dangos bod 68% o fenywod a holwyd yn y DU wedi cael eu sarhau wrth iddyn nhw redeg.

Dywedodd Gwen Owen, sylfaenydd clwb rhedeg cymdeithasol Môn Girls Run, bod y fenter newydd yn "wych" ac "wir ei angen".

Môn Girls Run Ffynhonnell y llun, Gwen Owen
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni'n cael bipiau drwy'r amser, 'da ni'n cael dynion yn gweiddi allan o'u ceir - mae'n afiach," meddai Gwen (gwaelod ar y dde)

Mae Môn Girls Run yn cynnal rhediadau grŵp 5km (3 milltir) ym Mangor, Porthaethwy, Caergybi, Wrecsam, Llangefni a Chonwy.

"'Da ni'n cael bipiau drwy'r amser, 'da ni'n cael dynion yn gweiddi allan o'u ceir - mae'n afiach," meddai Gwen, 28 o Ynys Môn.

Dywedodd y bu'n rhaid i'r grŵp stopio un tro ar ôl i ddynion mewn car arafu i weiddi geiriau sarhaus atyn nhw.

Dywedodd Gwen, sy'n athrawes, fod dyn wedi gweiddi arnyn nhw o'i gar i "fynd yn gyflymach" mewn digwyddiad arall ar ôl iddo nôl pitsa o siop tecawe.

PC HughesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae PC Hughes, sy'n rhedwr brwd ei hun, yn dweud ei bod hi'n bwysig bod menywod yn teimlo'n ddiogel

Fe wnaeth arolwg o 498 o fenywod yn y DU gan Brifysgol Manceinion yn 2024 ganfod bod 68% wedi cael eu sarhau wrth redeg.

Dywedodd bron i un o bob pump (19%) eu bod wedi cael eu dilyn tra'n rhedeg, a 13% wedi profi mathau eraill o ymddygiad sarhaus, gan gynnwys gan ddynion mewn cerbydau.

Dywedodd PC Hughes, a ddechreuodd y fenter newydd ac sydd wedi bod yn swyddog gyda Heddlu'r Gogledd ers 2022, fod llawer o fenywod yn mwynhau rhedeg ond nad oedden nhw wastad yn teimlo'n ddiogel.

Operation CadenceFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ymgyrch Cadence yn cynnal patrolau mewn mannau poblogaidd i daclo aflonyddu

"Fel swyddog heddlu a rhywun sy'n rhedeg yn aml, rwy'n deall pa mor bwysig yw teimlo'n ddiogel wrth redeg," meddai.

"Mae Ymgyrch Cadence am adeiladu perthnasoedd, rhedeg ochr yn ochr â'r gymuned, gwrando ar bryderon a hyrwyddo mesurau diogelwch syml."

Ychwanegodd: "Fel rhan o'r ymgyrch, byddwn yn cynnal patrolau, gan gynnwys rhedeg mewn dillad plaen mewn ardaloedd lle mae'r nifer fwyaf o redwyr.

"Y bwriad ydy codi ymwybyddiaeth o aflonyddu ac ymddygiad amheus ac annog pobl i roi gwybod amdano fel y gallwn ni, fel yr heddlu, gymryd camau a mynd i'r afael ag ef."

Dywedodd Gwen ei bod wedi gweld rhai sylwadau negyddol am yr ymgyrch ar-lein, ond dywedodd nad yw'r bobl hynny "yn sylweddoli pa mor bwysig 'di o a pha mor ofnus ydi hi i fenywod sydd allan yn rhedeg".

Môn Girls Run Ffynhonnell y llun, Gwen Owen
Disgrifiad o’r llun,

Gwen Owen (gwaelod ar y dde) a rhai o ferched Môn Girls Run

Dywedodd pennaeth y gwasanaeth plismona lleol, y Prif Uwcharolygydd Jackie Downes: "Mae gan bob menyw yr hawl i deimlo'n ddiogel pan fydd hi'n mynd allan i redeg, i wneud ymarfer corff neu i fwynhau ei chymuned.

"Mae'r fenter hon yn anfon neges glir na fydd aflonyddu a chasineb tuag at fenywod yn cael eu goddef, ac y bydd lleisiau menywod yn cael eu clywed a'u gweithredu arnynt.

"Drwy annog rhedwyr benywaidd i roi gwybod am eu profiadau, rydym yn cryfhau ein gallu i adnabod troseddwyr, ymyrryd yn gynnar ac amddiffyn y rhai sydd mewn perygl.

"Mae'r gwaith yma yn cefnogi ein blaenoriaeth o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar fenywod, cymryd adroddiadau o ddifrif a dwyn troseddwyr i gyfrif."

Heddlu'r Gogledd yw'r unig lu yng Nghymru sy'n gweithredu'r fenter hon ar hyn o bryd, ond mae'r pedwar llu yn cefnogi Own the Night - ymgyrch arall sydd â'r nod o wneud rhedeg yn fwy diogel i fenywod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.