Targedau'r Gymraeg yn 'bwysig ac yn helpu'r iaith' - ysgrifennydd

- Cyhoeddwyd
Mae targedau yn "bwysig" i gyflawni uchelgais y llywodraeth gyda pholisïau ar yr iaith Gymraeg, meddai Mark Drakeford.
Roedd yn ateb cwestiynau yn siambr y Senedd am y tro olaf fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, cyn diddymiad y Senedd ar ddiwedd y mis hwn ar gyfer yr etholiad ar 7 Mai.
Mae plaid Reform wedi dweud eu bod "eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu" ond y "byddem yn disodli targedau mympwyol gydag uchelgais go iawn".
Cafodd hynny ei feirniadu gan Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr ddydd Mercher.
Mae gan strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ddau brif darged:
Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050;
Canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013-15) i o leiaf 20% erbyn 2050.
Angen 'newid sylweddol' i addysg i gyrraedd targedau'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
Rhaid gweithredu'n 'ofalus' ar ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror
Pan ofynnwyd i arweinydd Reform yn y DU, Nigel Farage, wrth lansio eu maniffesto yr wythnos ddiwethaf, a fyddai ei blaid yn cael gwared ar swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, atebodd, "gadewch i'r iaith Gymraeg ffynnu. Dydw i ddim yn gweld bod angen targedau na chwangos arni".
Ddydd Mercher yn siambr y Senedd, dywedodd y Ceidwadwr Tom Giffard: "Gwyddom fod pwysigrwydd adeiladu a thyfu'r iaith yng Nghymru yn dod drwy lunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac yna atebolrwydd... i sicrhau bod y targedau hynny wedyn yn cael eu cyrraedd."
Ychwanegodd mai'r "tebygolrwydd yw y byddai llywodraeth Reform yn y pen draw yn arwain at ostyngiad cyson yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru".
Gan gyfeirio at eiriau Farage, dywedodd "yn amlwg, nid yw'n ymwybodol bod y ddau gyfrifiad diwethaf wedi dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru".
Nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001, 2011 a 2021 oedd 582,400, 562,000 a 538,300 yn y drefn honno.

Atebodd Nigel Farage a Dan Thomas gwestiwn am yr iaith Gymraeg wrth lansio eu maniffesto at etholiad y Senedd
Atebodd Drakeford: "Plaid genedlaetholgar Seisnig yw Reform, wedi'i phersonoli yn ei harweinydd, Mr Farage, nad yw byth yn dod i Gymru heb roi ei droed yn ei geg dros unrhyw beth sy'n ymwneud ag anian Cymru, ac yn enwedig yr iaith Gymraeg."
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru wrth y BBC: "Mae Nigel Farage yn ymgyrchydd angerddol dros Gymru.
"Yn y cyfamser, mae Llafur yn ceisio cadw Starmer i ffwrdd o Gymru, ac ni ddaeth Kemi Badenoch hyd yn oed i Gymru ar gyfer lansio maniffesto ei phlaid ei hun.
"Mae Reform eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn mynd o nerth i nerth."
'Adeiladu consensws'
Dywedodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru mai "un o'r pethau dwi'n falch... yr ydym ni wedi gallu ei wneud yn y Senedd hon ydy adeiladu consensws o ran yr iaith Gymraeg".
"Fel clywsom ni yn yr ateb i gwestiwn Tom Giffard yn gynharach, mae'n glir bod yna o leiaf ddau Aelod o'r Senedd bresennol hon ac efallai mwy yn y Senedd nesaf yn mynd i fod yn erbyn y Gymraeg.
"Gaf i ofyn pa mor bwysig ydych chi'n credu y mae'r ffaith bod gennym ni dargedau wedi bod o ran sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa gryfach o ran yr iaith?
"Ydych chi'n credu y byddem ni'n gweld cam yn ôl o ran y Gymraeg pe byddai'r targedau hynny yn diflannu?"
Atebodd Drakeford, a benodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ym Medi 2024: "Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi creu consensws tu ôl i'r iaith Gymraeg yn adlewyrchu beth mae pobl sy'n byw yng Nghymru eisiau i ni wneud.
"Mae hwnna wedi newid dros yr amser dwi wedi bod yn rhan o'r ddadl. Pan oeddwn i'n tyfu lan yng Nghaerfyrddin, roedd ffrae bron bob dydd am yr iaith Gymraeg, a doedd hynny ddim yn helpu neb.
"Nawr, yn y siambr hon, rydyn ni bron i gyd yn cefnogi'r iaith Gymraeg ac mae hwnna'n rhan o gryfder yr iaith yng Nghymru heddiw.
"Mae targedau'n bwysig i hynny, wrth gwrs. Maent yn ein helpu ni gyda'r uchelgais sydd gyda ni.
"Mae'r targedau sydd gyda ni yn rhai rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw ar draws y siambr. Dwi eisiau gweld hwnna'n parhau at y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.