Yr Americanwr sy'n adrodd cerddi Dafydd ap Gwilym

Samuel ger bedd Dafydd ap Gwilym yn Ystrad Fflur
- Cyhoeddwyd
Bydd siaradwr Cymraeg o Boston, Massachusetts yn darllen cerddi Cymraeg o'r Oesoedd Canol yn Harvard Art Museums ar 20 Mawrth.
Mae Samuel Puopolo yn fyfyriwr doethuriaeth yn adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard.
Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu traethawd hir ar ganu beirdd y canol oesoedd i Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru rhwng 1258 a 1282.
Mae Samuel wedi hel ei achau i Ddolbenmaen ond er y cysylltiad Cymreig, ei gariad at sŵn yr iaith sydd wedi ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg.
Dysgu Cymraeg
"Mae'r rhan fwyaf o fy nghyn-deidiau yn dod o'r Eidal, felly gwan yw fy hunaniaeth Gymraeg ond fe wnes i ddechrau dysgu Cymraeg dros Duolingo ac fe ddechreuodd glicio," eglurai Samuel.
"Es i Gymru am y tro cyntaf yn 2023 a mynychu cwrs haf yn y brifysgol yn Aberystwyth. Es i Gaerdydd, Aberdaugleddau ac yna i'r Eisteddfod ym Moduan.
"Wnes i wirioni ar y bobl, ar sŵn yr iaith ac ar y diwylliant. Roedd pawb yn siarad Cymraeg yn Aberystwyth felly fe wnes i ddysgu'n gyflym drwy fyw bywyd yn Gymraeg am gyfnod."
Yn ôl Samuel mae cael y cyfle i sgwrsio ac ymarfer ei Gymraeg yn America'n heriol, ond mae gwrando ar Y Podlediad Dysgu Cymraeg ar BBC Sounds, darllen nofelau, a gwylio reels Cymraeg ar Instagram "yn help mawr."

Samuel yn llyfrgell Prifysgol Harvard gyda chasgliad o lyfrau ar farddoniaeth Gymraeg o'r Oesoedd Canol
Angerdd at farddoniaeth yr Oesoedd Canol
Er ei fod yn dyheu am daith arall i Gymru er mwyn ymarfer sgwrsio'n Gymraeg bob dydd, prin iawn yw'r siaradwyr Cymraeg yng Nghymru all ddeud eu bod nhw'n deall Cymraeg yr Oesoedd Canol.
Felly ai Cymraeg yr Oesoedd Canol neu Gymraeg heddiw sydd rwyddaf i Samuel?
"Mae darllen Y Mabinogion yn gallu bod yn haws i mi na darllen nofelau Cymraeg heddiw," eglurai Samuel.
"Ond dwi'n falch i mi ddysgu Cymraeg 'Modern' yn gyntaf. Dwi'n 'nabod rhai pobl sydd wedi astudio Cymraeg 'Canol' cyn cael eu cyflwyno i Gymraeg 'Modern'!"
Pam dewis gwneud doethuriaeth ar farddoniaeth Gymraeg ganol-oeseol?
"Ces i fy ngradd gyntaf yn y Clasuron, dwi'n licio Lladin a Groeg. Mae pob traddodiad yn tarddu ohonynt, ond wnes i sylwi fod y traddodiad Cymraeg hefyd yn unigryw. Mae'r gynghanedd yn swnio mor wych i'r glust.
"Hefyd does dim wastad stori mewn cerddi canol-oesol yn Gymraeg, y sŵn sy'n bwysig.
"Mae'n anodd i mi gyfieithu'r cerddi i fy rhieni neu 'nghariad achos y sŵn sy'n bwysig, nid y stori, dyna pam mae'n bleser eu darllen allan yn uchel."
Ac mae'n edrych ymlaen i gynulleidfa ddi-Gymraeg fwynhau sain y gynghanedd yn ystod ei ddarlleniadau yn Harvard Arts Museum ar 20 Mawrth.

Samuel yn darlithio yng Ngwlad Pwyl
Mae'r digwyddiad yn rhan o arddangosfa Celtic Art Across the Ages sydd yn yr amgueddfa tan yr haf. Nod yr arddangosfa yw archwilio pwy oedd y Celtiaid drwy gasgliad o 300 o wrthrychau.
Bydd Samuel yn darllen un o'r cerddi hynaf yn y Gymraeg sef rhannau o'r Gododdin gan Aneirin, Henaint o ganu Llywarch Hen, Marwnad Llywelyn ap Gruffudd gan Gruffudd ab yr Ynad Coch, Y Gwynt gan Dafydd ap Gwilym a Marwnad Siôn Eos gan Dafydd ab Edmwnd.
Felly pa mor boblogaidd yw astudio cerddi Cymraeg o'r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Harvard?
"Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n astudio yn yr Adran Astudiaethau Celtaidd yn canolbwyntio ar y Wyddeleg ond mae'n rhaid i bawb ddysgu Cymraeg Canol.
"Dyw'r darlithwyr ddim yn siaradwyr Cymraeg felly roedd yn wych cael yr Athro Jerry Hunter yn Harvard am gyfnod. Roedd hynny yn help mawr wrth i mi ddysgu siarad Cymraeg. Aethon ni am swper i diner jest i siarad."
Mae Samuel yn gobeithio rhoi darlleniad arall o'i hoff gerddi Cymraeg diweddar ym mis Gorffennaf.
"Dwi wrth fy modd gyda barddoniaeth Twm Morys a Mererid Hopwood," meddai.
Felly ydy symud i Gymru i allu sgwrsio'n Gymraeg bob dydd yn ddymuniad i Samuel?
"Hoffwn i ddysgu mewn prifysgol yn unrhyw le lle mae swydd i mi, boed yng Nghymru, yn yr Unol Dalieithiau neu le bynnag, ond mae gan y Gymraeg le pwysig iawn yn fy nghalon. Mae mor hyfryd."

Samuel a'i gariad Maria tua allan i fynedfa Prifysgol Harvard
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
