'Systemau iechyd ac addysg Cymru'n tanberfformio o gymharu â Lloegr'

Nododd yr IFS fod amseroedd aros cyfartalog ar gyfer triniaethau dewisol yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2025 yn ddwbl y lefel cyn y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae systemau iechyd ac addysg Cymru yn tanberfformio o gymharu â Lloegr, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn gwariant, yn ôl melin drafod amlwg.
Dywedodd adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS), er gwaethaf y gostyngiadau diweddar, fod rhestrau aros yn parhau i fod yn llawer uwch nag yr oeddent cyn pandemig Covid-19 ac mae absenoldebau o'r ysgol yn parhau i fod 50% yn uwch nag yn 2019.
Ond dywedodd IFS fod cynlluniau ariannu gan Lywodraeth y DU yn golygu y bydd pwy bynnag sy'n ennill etholiad y Senedd yn ei chael hi'n anodd cynnal, heb sôn am wella, gwasanaethau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i "weithio'n agos gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wella gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen ar adeg pan fo costau'n codi".
Yr achosion 'ddim yn hollol glir'
Mae gwelliannau wedi bod mewn archwiliadau ers 2024 ac mae'r amseroedd aros hiraf yn y GIG "yn dod i lawr", meddai'r IFS.
Dywedodd David Phillips o'r IFS nad oedd achosion y perfformiad gwael o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru "yn hollol glir" a bod angen mwy o waith i roi diagnosis o'r rhesymau.
Dywedodd fod lefelau cyllid "yn ymddangos yn annhebygol o fod yn ffactor mawr, o ystyried bod gwariant yng Nghymru yn uwch nag ardaloedd cymharol yn Lloegr" a bod lefelau uchel o amddifadedd "ddim ond yn debygol o esbonio rhan ohono yn unig hefyd".
"Yn hytrach, mae'n debygol y bydd polisïau a'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn chwarae rhan.
"Mae amseroedd aros ysbyty cyfartalog yn 40% yn hirach yng Nghymru nag yn Lloegr, gan leihau nifer y cleifion sy'n medru cael eu derbyn a'u trin.
"I ysgolion, efallai y bydd atebolrwydd am berfformiad gwael yn wannach – gyda llai o ddata ar gael i athrawon a rhieni."
Pa faterion sy'n poeni pleidleiswyr Cymru cyn etholiad y Senedd?
- Cyhoeddwyd2 Mawrth
Ymwelwyr iechyd i streicio i 'gael y tâl ni'n haeddu'
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
Celfyddydau'n arbed miliynau i'r GIG trwy wella iechyd a lles - ymchwil
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
Mae absenoldebau cyffredinol a pharhaus o'r ysgol yn parhau i fod yn llawer uwch nag yr oedden nhw cyn y pandemig, meddai'r IFS.
Dyfynnodd yr IFS ffigurau o 2024-25, pan yr oedd 9% o ddisgyblion yng Nghymru yn absennol, i fyny o lai na 6% yn 2019.
Fe wnaeth perfformiad ym mhrofion PISA rhyngwladol cymharol ar gyfer plant 15 oed ostwng yn fwy yng Nghymru nag yn Lloegr ar ôl y pandemig - gyda'r ffigurau diwethaf wedi'u cyhoeddi yn 2023.
Nododd yr IFS fod amseroedd aros cyfartalog ar gyfer triniaethau dewisol yng Nghymru yn 19 wythnos ym mis Rhagfyr 2025.
Roedd hynny ddwbl y lefel cyn y pandemig, sef 10.7 wythnos ac yn uwch na'r ffigwr cyfatebol o 13.4 wythnos.

Fe wnaeth perfformiad ym mhrofion PISA rhyngwladol cymharol ar gyfer plant 15 oed ostwng yn fwy yng Nghymru nag yn Lloegr ar ôl y pandemig
Roedd amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda 53% o gleifion yn aros llai na phedair awr ym mis Rhagfyr 2025, o gymharu â tharged o 95%.
Ond dywedodd fod gwariant iechyd wedi cynyddu 17% y pen mewn termau real ers 2019-20, a bod gwariant fesul disgybl wedi cynyddu 14% - yn debyg neu'n uwch na'r rhai a welwyd yn Lloegr dros yr un cyfnod.
Yn ôl yr IFS bydd llywodraeth nesaf Cymru "yn ei chael hi'n anodd cynnal, heb sôn am wella, gwasanaethau oherwydd arafwch yn nhwf cyllid ac effaith penderfyniadau cyllidebu diweddar".
Mae disgwyl i wariant ar iechyd a gofal cymdeithasol ostwng 2% mewn termau real yn y flwyddyn ariannol 2026-27 gan ddechrau ym mis Ebrill.
Mae'r IFS yn dweud y bydd angen i weinidogion Cymru ychwanegu at hyn yn ôl pob tebyg.
Pe bai am gyfateb i'r gwariant iechyd sy'n cael ei gynllunio yn Lloegr yn y ddwy flynedd ganlynol, byddai gwasanaethau eraill yn wynebu toriadau o tua 5% y flwyddyn, o ystyried y rhagolygon cyfredol o gyllid Llywodraeth y DU.
'Rhestr aros y GIG wedi gostwng'
Dywedodd NAHT Cymru, undeb penaethiaid ysgol, y gall canlyniadau PISA fod yn ddefnyddiol ond na ddylid eu gor-ddehongli, gan awgrymu ei fod yn gymhariaeth "syml" sy'n gallu "peidio â dal y cyfoeth o ddysgu plant".
Ychwanegodd Laura Doel o'r sefydliad y bydd arweinwyr ysgolion "yn arbennig o awyddus i ddeall i ble mae'r gwariant cynyddol ar addysg a nodwyd gan yr IFS wedi mynd - oherwydd dydy o ddim wedi cyrraedd y rheng flaen."
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar: "Yn amlwg nid problem ariannu yw hon, mae'n broblem polisi".
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS, fod yr adroddiad yn dangos nad yw safonau yn y GIG ac mewn ysgolion yng Nghymru "ddigon da", ac y byddai llywodraeth Plaid yn cyflwyno "Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd, sefydlu canolfannau llawfeddygol ac ehangu mynediad at driniaeth".
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod yr adroddiad yn awgrymu bod Cymru'n "llusgo tu ôl i weddill y DU" o ran rhestrau aros y GIG a chanlyniadau addysg, er gwaethaf lefelau uwch o wariant, gan feio "camreolaeth" Llafur Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Werdd Cymru fod pobl ifanc, rhieni a chleifion yn "haeddu gwell", gan ychwanegu ei bod "yn glir erbyn hyn na fydd Llafur yn gallu mynd i'r afael â chyflwr gwasanaethau cyhoeddus".
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru maent yn "parhau i weithio'n agos gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wella gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen ar adeg pan fo costau'n codi".
"Mae rhestr aros y GIG wedi gostwng ac mae'r amseroedd aros hiraf yn dod i lawr.
"Rydym wedi gosod disgwyliadau clir i bob bwrdd iechyd i leihau amseroedd aros hir mewn adrannau brys a chwblhau trosglwyddiadau ambiwlans o fewn 45 munud.
"Mae ein system addysg yn symud i'r cyfeiriad cywir - diolch i'r gefnogaeth ychwanegol yr ydym yn ei ddarparu i ysgolion a gwaith caled staff ysgolion.
"Mae ein canlyniadau TGAU a Lefel A diweddaraf yn dangos gwelliannau mewn cyrhaeddiad ers 2024.
"I ddysgwyr iau, rydym yn gweld cynnydd o ran darllen a rhifedd mewn asesiadau personol," ychwanegodd y llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.