Ymwelwyr iechyd i streicio i 'gael y tâl ni'n haeddu'

ymwelwyr iechyd yn streicio fore Llun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dwsinau o ymwelwyr iechyd yn bresennol yn y brotest fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dros 100 o weithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dechrau ar gyfnod o weithredu diwydiannol yn dilyn anghytuno parhaus am eu band cyflog.

Ddydd Llun bydd rhan fwyaf o ymwelwyr iechyd y bwrdd yn dechrau streicio am gyfnod o bedair wythnos wrth iddyn nhw fynnu nad yw eu cyflogwr yn talu'r cyflog cywir iddynt - yn seiliedig ar eu cymwysterau.

Yn ôl undeb Unite, mae ymwelwyr iechyd yr ardal yn cael tâl band 6 yn hytrach na band 7.

Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau fand yn golygu bod gweithwyr ar eu colled o rhwng £8,000 a £9,000 y flwyddyn.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dweud eu bod nhw'n "ymwybodol fod newidiadau wedi'u gwneud i ofynion addysg ar gyfer ymwelwyr iechyd o ganlyniad i benderfyniadau a gymerwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth" a'u bod nhw "wedi ymrwymo i weithio drwy effaith y newidiadau hyn fel rhan o'r trafodaethau gydag undebau llafur".

protestwyr

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd mae ymwelwyr iechyd, nyrsys iechyd y cyhoedd a bydwragedd yn cynnig cyngor arbenigol a chefnogaeth i deuluoedd a phlant.

Maen nhw'n cefnogi iechyd a lles plant o'r cyfnod cyn geni hyd at bum mlwydd oed drwy gynnig gwybodaeth a chyngor i rieni.

Mae ymwelwyr iechyd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gan ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol mewn nyrsio iechyd cyhoeddus cymunedol i ddod yn nyrsys arbenigol.

Mae'r hyfforddiant gyfwerth â gradd meistr ac yn ôl Unite mae hynny'n golygu y dylai'r swydd gael ei hystyried yn un band 7 ac felly dylid talu cyflog uwch i'r gweithwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Sharon Graham: "Mae hwn yn gynllwyn gwarthus gan fwrdd iechyd - maen nhw'n ceisio osgoi talu'r arian y mae staff yn ei haeddu.

"Mae hwn yn wahaniaeth cyflog sylweddol sydd wedi gadael ein haelodau â chyflog isel.

"Nid oes ganddynt lawer o ddewis ond mynd ar streic a bydd ganddynt gefnogaeth lawn Unite yn yr anghydfod hwn."

Elina Watkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymwelwyr iechyd eisiau derbyn y tâl y maen nhw'n eu haeddu, meddai Elina Watkins

Mewn cyfweliad gyda BBC ar safle'r brotest fore Llun, dywedodd Elina Watkins o Bontypridd - sy'n ymwelydd iechyd ers rhai blynyddoedd - nad oedden nhw eisiau gorfod streicio.

"Ni eisiau cael y tâl ni'n haeddu a bod y bobl sy'n dod tu ôl i ni yn cael eu talu'n iawn hefyd," meddai.

"Ni ddim eisiau bod allan ar streic, ni eisiau 'neud yn siŵr bod y teuluoedd ni'n gofalu amdanyn nhw yn iawn."

Ychwanegodd Bethan John, sy'n ymwelydd iechyd ers 10 mlynedd: "Mae lot o deuluoedd yn dibynnu yn fawr iawn arnom ni, ni yna i helpu ac i wrando.

"Ni wedi 'neud lot o hyfforddiant i gyrraedd ble y'n ni a dyle'r bwrdd iechyd wrando arnom ni nawr."

Llun ymwelydd iechyd gyda rhiant a phlentynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymwelwyr iechyd yn cefnogi teuluoedd gyda phlant rhwng 0-5 oed

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Mae'r bwrdd iechyd wedi bod mewn trafodaethau gydag Unite a staff ymwelwyr iechyd ers i gwynion ffurfiol gael eu cyflwyno ym mis Chwefror 2024.

"Roedd yna gais i ddiweddaru disgrifiad swydd ymwelydd iechyd Band 6 i adlewyrchu dyletswyddau'r rôl, ac i ailasesu'r swydd.

"Cafodd disgrifiad o'r swydd ei ailasesu a chytunwyd mai swydd Band 6 yw hi.

"Mae'r bwrdd iechyd yn ymwybodol, dros y blynyddoedd diwethaf, fod newidiadau wedi'u gwneud i ofynion addysg ar gyfer ymwelwyr iechyd o ganlyniad i benderfyniadau a gymerwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i weithio drwy'r newidiadau hyn fel rhan o drafodaethau cenedlaethol gydag undebau llafur.

"Rydym yn parchu hawliau cydweithwyr i gymryd camau gweithredu diwydiannol a byddwn yn gweithio gyda thimau i leihau'r aflonyddwch i deuluoedd ar draws ein cymunedau yn ôl yr angen."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod gan "GIG Cymru strwythur partneriaeth gymdeithasol cryf ac rydym yn annog y ddwy ochr i geisio cael datrysiad drwy ddefnyddio'r broses ffurfiol berthnasol".

Staff yn wynebu 'pwysau cynyddol'

Dywedodd Peter Fox AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd bod "ymwelwyr iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi teuluoedd a phlant ifanc ar draws ein cymunedau".

"Os nad yw staff yn cael eu talu'n briodol am y cymwysterau a'r cyfrifoldebau sydd ganddyn nhw, mae hynny'n amlwg yn annheg," meddai.

"Rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg weithio ar frys gyda staff ac undebau llafur i ddatrys yr anghydfod hwn a sicrhau bod gweithwyr rheng flaen yn cael eu trin yn deg."

Dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan AS: "Mae staff y GIG yn wynebu pwysau cynyddol oherwydd llwythi gwaith anghynaladwy, sydd ond yn gwaethygu'r heriau i'r rhai sydd eisoes yn mynd y filltir ychwanegol - yn aml heb dâl priodol.

"Rydym yn annog y bwrdd iechyd i ymgysylltu'n adeiladol i fynd i'r afael â'r pryderon cyflog hyn, fel y gall gwasanaethau ailddechrau cyn gynted â phosibl."

Ychwanegodd y byddai llywodreath Plaid Cymru yn cyflwyno "cynllun gweithlu cenedlaethol y GIG, sy'n canolbwyntio ar adfer cynaliadwyedd ar ôl 27 mlynedd o gamreolaeth Llafur".

Dywedodd Aelod Senedd Cymru Reform UK dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, James Evans AS fod "neb eisiau gweld streic".

"Mae pawb sy'n gweithio ar y rheng flaen yn ein GIG yn haeddu ein parch a'r cyflog a gafodd ei addo iddyn nhw," meddai.

"Pe bai Llywodraeth Lafur Cymru, sy'n cael ei gefnogi gan Blaid Cymru, yn torri swyddi amrywiaeth dibwynt yn y GIG, nonsens Sero Net a biwrocratiaeth chwyddedig rheolwyr canol, yna byddai ganddi fwy o arian i dalu ein gweithwyr iechyd gwerthfawr."

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd, Ian Chandler bod ymwelwyr iechyd yn chwarae rhan hanfodol "wrth gefnogi mamau newydd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod".

"Dylen nhw gael eu gwobrwyo'n briodol am eu sgiliau a'u profiad," meddai a "gyda morâl staff mor isel" mae'n hanfodol bod y bwrdd iechyd yn "talu eu holl weithwyr yn deg".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.