Ystafell drochi newydd mewn adran frys am 'newid cymaint o fywydau'

Ar ôl profiadau anodd gyda'u mab awtistig Ellis, mae Robert a Gemma Cummings wedi codi arian i agor ystafell drochi yn yr adran frys i blant ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni bachgen awtistig yn dweud y bydd ystafell drochi newydd yn yr adran frys i blant yn eu hysbyty lleol yn "newid cymaint o fywydau".
Mae Robert a Gemma Cummings wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn codi arian i agor yr ystafell - fydd y gyntaf o'i math yng Nghymru - yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.
Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan eu profiadau "trallodus" gyda'u mab chwech oed, Ellis, a oedd yn cael trafferth gyda "gorlwytho sensori" wrth iddo ymweld â'r adran frys.
Mae Gemma yn gobeithio y bydd yr ystafell drochi yn galluogi plant i dderbyn gofal brys heb i rieni orfod wynebu'r "groesffordd" o benderfynu a ddylen nhw roi eu plant dan straen diangen.
Cafodd yr ystafell ei hagor yn swyddogol ddydd Iau.

Fe wnaeth yr ystafell drochi gostio £27,000 i'w gosod yn yr ysbyty
Cafodd Ellis ddiagnosis o awtistiaeth yn bedair oed ar ôl i'w feithrinfa sylwi nad oedd yn datblygu fel y plant arall.
Treuliodd y teulu nifer o flynyddoedd yn ymweld â'r adran frys i blant, oedd yn "heriol iawn" gan nad yw Ellis yn siarad.
Esboniodd Gemma bod ei mab yn arfer cael trafferth delio gyda'r golygfeydd, synau a'r arogleuon yn yr adran.
"Byddai hynny'n arwain aton ni'n mynd yn stressed ac yn ofidus gan ein bod ni'n ymwybodol o bawb o'n cwmpas, a hefyd y staff," meddai.
Ychwanegodd Robert fod gweld Ellis "mor ofidus" yn anodd iddyn nhw ac yn creu "rhwystr" i ymweld â'r adran frys.

Roedd Ellis yn cael trafferth delio gyda'r golygfeydd, synau a'r arogleuon yn yr adran frys
Daeth y syniad am yr ystafell ar ôl sgwrs a gafodd Robert gydag un o feddygon Ellis.
I ddechrau, y cynllun oedd cael ystafell sensori, ond ar ôl ymweld ag ystafell drochi Ysgol Greenfield, fe wnaethon nhw anelu'n uwch.
Mae ystafell drochi yn defnyddio technoleg i roi'r argraff eich bod chi mewn amgylchedd gwahanol, ac yn helpu plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i deimlo'n gyfforddus.
Daeth Ysbyty'r Tywysog Siarl o hyd i le yn yr adran frys i blant ar gyfer yr ystafell drochi, ond byddai'n costio £27,000 i'w gosod.
Fe wnaeth Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg ymrwymo i dalu hanner y gost, ond Robert a Gemma oedd yn gyfrifol am godi'r gweddill.
Cefnogaeth 'syfrdanol'
Ym mis Hydref 2024 fe lansion nhw dudalen codi arian gan ddisgwyl cefnogaeth gymedrol, ond dywedodd Gemma iddo "ffrwydro'n llwyr dros nos", gyda chymorth "anhygoel" gan y gymuned leol.
"O'dd e'n hollol mind-blowing," meddai Robert.
"Roedden ni wedi syfrdanu'n llwyr.
"Mae'n wych sut mae pawb wedi dod at ei gilydd, oherwydd heb y gymuned, ni fyddai hyn wedi'i gyflawni."

Mae'r ystafell yn cynnwys amrywiaeth o leoliadau, fel coedwig gydag eira, traeth, a byd tanddwr
Dywedodd Gemma fod Ellis wedi defnyddio'r ystafell newydd yn ystod ymweliad â'r adran frys yr wythnos ddiwethaf, a'i fod wedi trawsnewid eu profiad.
Yn hytrach na'r gofid "ofnadwy" o Ellis yn "taro'r waliau, cicio, sgrechian, pinsio", fe ymlaciodd a chaniatáu i'r staff ei helpu.
Dywedodd Gemma fod yr ystafell newydd wedi gwneud y broses yn dawelach i Ellis, ac "yn y pendraw roedd yn sefyllfa llawer gwell i bawb".
Ychwanegodd Robert eu bod wedi cael profiad positif arall gydag Ellis wrth iddyn nhw agor yr ystafell, wrth iddo dawelu'n gyflym a dod yn hapus yn y gofod trochi.
Sefydlu grŵp cymorth i fenywod ar ôl diagnosis awtistiaeth
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024
'Galar a rhyddhad' diagnosis awtistiaeth yn oedolyn
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2024
Dywedodd y cwpl mai'r brif nod yw cefnogi cymaint o blant â phosib sydd ag anghenion ychwanegol, a lleihau straen yn yr adran frys.
Mae Gemma yn gobeithio y bydd yr ystafell newydd yn caniatáu i blant gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, heb i rieni orfod "pwyso a mesur yr opsiynau" a bod yn bryderus.
"Dydyn ni ddim eisiau i bobl ohirio'r gofal sydd ei angen ar blentyn oherwydd eu bod nhw'n ofni y bydd y plant yn cael ei llethu'n llwyr," meddai.
"Bydd yr ystafell yn game changer."

Dywed Natasha Davies fod yr ystafell "yn gwneud yr ysbyty yn lle llawer llai brawychus i'r plant"
Dywedodd Natasha Davies, rheolwr yr adran fryd pediatrig, bod yr ystafell yn "anhygoel" ac y bydd yn cael "effaith enfawr" ar deuluoedd.
Mae Ms Davies, sydd wedi trin Ellis yn y gorffennol, yn dweud fod gofalu am blant ag anghenion ychwanegol wastad wedi bod yn anodd oherwydd diffyg adnoddau a mannau tawel mewn ysbytai.
Ychwanegodd y bydd yr ystafell newydd yn gwneud trin plant yn llawer haws i'r staff.
"Mae'n ddiddorol, yn hwyl, ac yn gwneud yr ysbyty yn lle llawer llai brawychus i'r plant," meddai.

Mae Abe Sampson yn gobeithio y bydd modd ehangu'r syniad i fwy o ysbytai lleol
Dywedodd Abe Sampson o Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg fod y tîm yn "falch iawn" o fod yn rhan o "brosiect arbennig iawn".
Esboniodd fod yr elusen yn cefnogi mentrau sydd y tu hwnt i'r hyn y byddai'r GIG fel arfer yn ei ddarparu.
"Rydyn ni'n gobeithio mai dim ond y dechrau yw'r ystafell yma, ac y byddwn ni'n gweld mwy o leoedd fel hyn ar draws ein hysbytai - ar draws Cwm Taf Morgannwg a thu hwnt," meddai.
"Mae wir yn gwneud gwahaniaeth mor anhygoel i gleifion fel Ellis."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2025

- Cyhoeddwyd5 Hydref 2024
