Urdd: Diwrnod cyntaf y cystadlu ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd

Heddlu arfog ar faes yr Urdd
Roedd yna fesurau diogelwch ychwanegol mewn grym wrth i filoedd gyrraedd maes Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-coed ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu.
Am y tro cyntaf erioed dywed y mudiad fod heddlu arfog wedi bod yn bresennol ar y maes.
Roedd yr Urdd wedi gofyn i ymwelwyr gyrraedd yn gynnar gan fod mesurau diogelwch mewn grym yn dilyn ymosodiad Manceinion.
Dywedodd llefarydd: "Bydd y mesurau yn cynnwys mwy o staff diogelwch a phresenoldeb yr heddlu ar y maes, ynghyd ag archwiliadau bagiau yn y ganolfan groeso.
"Gofynnwn yn garedig i'n hymwelwyr adael digon o amser i gyrraedd y maes, a thra ar y maes os oes gan unrhyw un gwestiwn neu gonsyrn dylid cysylltu â staff yr Urdd.
"Byddwn yn parhau i drafod a dilyn argymhellion yr awdurdodau gydag unrhyw ddatblygiadau.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu dealltwriaeth o'r sefyllfa ac yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Bencoed."

Dydd Llun oedd diwrnod cyntaf y cystadlu
Yn y cystadlu arall dydd Llun, Alex Skyrme, disgybl Lefel-A yn Ysgol Gwynllyw oedd enillydd y Fedal Gelf am ei gwaith 3D ar y thema 'Gormes Menywod'.
Enillydd yr Ysgoloriaeth Gelf oedd Tomos Sparnon, 19 oed, o Gastell-nedd.
Mae'r llwyddiant yn cwblhau'r dwbl i Tomos, gan mai ef enillodd y Fedal Gelf yn 2015 yng Nghaerffili.
Nos Sul cafodd y cyngerdd agoriadol ei gynnal yn y pafiliwn. Ymysg y sêr oedd yn perfformio roedd seren y West End, Sophie Evans, Only Boys Aloud a Dawnswyr Bro Taf.

Roedd cwpanau Cynghrair y Pencampwyr y merched a'r dynion i'w gweld ar y maes
Partneriaeth newydd
Yn ystod y dydd fe wnaeth yr Urdd gyhoeddi partneriaeth rhwng y mudiad ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Nod y bartneriaeth newydd yw cynnig cyfleoedd pêl-droed i fechgyn, merched a'r anabl.
Penllanw'r bartneriaeth fydd cystadleuaeth genedlaethol newydd yn Aberystwyth yn haf 2018.
Dywedodd pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes y bydd y bartneriaeth yn helpu'r gymdeithas i "ddatblygu a symud ymlaen".
"Bwriad yr ymddiriedolaeth ydy gweld cynnydd o 50% yn nifer y bobl ifanc a phlant - merched a bechgyn - sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed yng Nghymru."
I ddathlu'r bartneriaeth fe gafodd cwpanau Cynghrair y Pencampwyr - y dynion a'r merched - eu harddangos ar faes yr Urdd.