Ryan yn cipio'r Fedal Gyfansoddi
- Cyhoeddwyd

Ryan Howells 24 oed o Hwlffordd enillodd cystadleuaeth Y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd 2017.
Roedd yn rhaid i'r enillydd gyfansoddi naill ai Cylch o ganeuon, Rhangan neu gytgan, Cyfansoddiad i un neu ddau offeryn neu Gyfansoddiad i ensemble offerynnol.
Mae'r darn buddugol yn gwneud defnydd unigryw o emynau Cymreig mewn sgôr sy'n cyfuno prysurdeb gydag adrannau hamddenol.
Yn wreiddiol o Gamros yn Sir Benfro, ac yn gyn ddisgybl yn Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd mae e newydd gwblhau gradd mewn deintyddiaeth ym Mhrifysgol Meddygaeth a Deintyddiaeth Frenhinol Llundain.

Disgrifiodd Ryan Howells yr Urdd fel mudiad gwych
Dywedodd fod ennill yn binacl ar ei yrfa gerddorol hyn yn hyn.
"Bues i'n ysgrifennu'r darn dros gyfnod o ddeufis o fis Ionawr nes mis Mawrth, ond mae'n rhaid dweud ei bod wedi bod yn anodd cydbwyso hynny gyda'n harholiadau!
"Mae'r Urdd yn fudiad gwych, ac mae ennill y gystadleuaeth yn anrhydedd enfawr.
"Dyma'n bendant yw pinacl yr hyn rydw i wedi'i gyflawni hyd yn hyn fel cyfansoddwr."
Mae o wedi chwarae y corn tenor i Fand Pres Wdig a bu'n unawdydd corn gyda Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr a Chymru.
13 yn cystadlu am Y Fedal
Dechreuodd gyfansoddi pan oedd yn 15 oed, a chyfansoddodd ei ddarn llawn cyntaf ar gyfer band pres yn 19 oed.
"Rydwi wastad wedi caru alawon Cymreig, ac fe ges i dipyn o brofiad gyda nhw trwy'r ysgol ac wrth chwarae mewn bandiau pres.
"Roeddwn yn meddwl y byddai'n neis rhoi blas Cymreig i'r darn, ac roeddwn yn meddwl mai'r ffordd orau o wneud hynny oedd cyflwyno'r tiwniau yma a'u plethu trwy'r gerddoriaeth.
"Fy ngherddoriaeth i yw e, ond wedi'i ysbrydoli gan alawon Cymreig."
Ffug enw Ryan oedd 'Gwahoddiad' a chyflwynwyd 13 darn o waith yn y gystadleuaeth eleni.
Bydd Ryan yn derbyn Medal Goffa Grace Williams sy'n cael ei rhoi eleni gan Ysgol Gyfun Garth Olwg.
Beirniad y gystadleuaeth oedd Einion Dafydd.
Yn ail roedd Elan Richards o Gylch Caerfyrddin ac yn drydydd roedd Gwydion Rhys o Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen