Urdd i gynnig cyfleoedd newydd i bêl-droedwyr ifanc
- Cyhoeddwyd

Roedd cwpanau Cynghrair y Pencampwyr - y dynion a'r merched - ar faes yr Urdd gyda'r Gymdeithas Bêl-droed
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi partneriaeth rhwng y mudiad ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar faes yr Eisteddfod ym Mhen-y-bont.
Nod y bartneriaeth newydd yw cynnig cyfleoedd pêl-droed i fechgyn, merched a'r anabl.
Yn y gorffennol mae chwaraewyr byd enwog fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey wedi cystadlu gyda'r Urdd.
Penllanw'r bartneriaeth fydd cystadleuaeth genedlaethol newydd yn Aberystwyth yn haf 2018, a dywedodd yr Urdd eu bod yn gobeithio y bydd mwy na 1,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan ar ddiwrnod y gystadleuaeth.
Hefyd fel rhan o'r bartneriaeth, mae bwriad rhedeg cynllun peilot i greu swyddi prentisiaid pêl-droed yn y gogledd-orllewin.
Dyw'r Urdd heb gynnal cystadleuaeth pêl-droed cenedlaethol ers 2011, a dywedodd prif weithredwraig yr Urdd, Sioned Hughes y bydd y bartneriaeth newydd "yn gyfle i sicrhau fod digwyddiad cenedlaethol yn rhan o bortffolio cystadlaethau chwaraeon cenedlaethol adran chwaraeon yr Urdd".
"Un peth sy'n amlwg iawn ydy bod pêl-droed wirioneddol wedi cydio yn nychymyg y genedl i gyd," meddai Ms Hughes.

Ian Gwyn Hughes
Cwpan Cynghrair y Pencampwyr
"'Da ni yn yr Urdd yn gwybod bod pêl-droed wedi bod yn boblogaidd erioed ymysg bechgyn a merched Cymru, ac mae gennym ni hanes o ddarparu cyfleoedd pêl-droed."
Dywedodd pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes y bydd y bartneriaeth yn helpu'r gymdeithas i "ddatblygu a symud ymlaen".
"Fe gawson ni lwyddiant aruthrol y llynedd, ond allan ni ddim aros yn ein hunfan a meddwl ein bod yn gallu byw oddi ar y llwyddiant yn Ffrainc ar gyfer y dyfodol," meddai.
"O ran y gwaith hynny, bwriad yr ymddiriedolaeth ydy gweld cynnydd o 50% yn nifer y bobl ifanc a phlant - merched a bechgyn - sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed yng Nghymru.
"Mae hynny'n rhan o'r bartneriaeth gyda'r Urdd. Lle gwell na mudiad sy'n rhoi cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru?"
I ddathlu'r bartneriaeth mae cwpanau Cynghrair y Pencampwyr - y dynion a'r merched - ar faes yr Urdd gyda'r gymdeithas bêl-droed.
Ychwanegodd Mr Hughes: "Mae'r Urdd yn rhan o'n hanes, ein traddodiad, ein diwylliant, ac ein bwriad ni fel cymdeithas yw - nid yn unig ein bod yn cael ein gweld fel corff sy'n bodoli pan mae gemau rhyngwladol yn cael eu chwarae - ond ein bod yn chwarae rhan mwy mewn bywyd pob dydd yng Nghymru, ar bob lefel.
"Aelodau'r Urdd ydy cefnogwyr y dyfodol ar gyfer y gêm yng Nghymru, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn creu argraff bositif a ffafriol arnyn nhw rŵan."