Cwrdd â'r plant
Dewch i adnabod rhai o'r plant o bob cwr o'r byd sy'n ymddangos yn y gyfres Plant y Byd a dysgu am eu diwylliant a lle maen nhw'n byw.
1. Helpu ym Mali

Yn y rhaglen hon rydyn ni'n teithio i ddinas brysur Djenne ym Mali sydd ar gyrion y Sahara. Yma, rydyn ni'n cwrdd â bachgen bach prysur sy'n bedair mlwydd oed o'r enw Mama Kayentan sy'n helpu ei dad i drwsio waliau eu tŷ mwd.
Mwy ...
2. Bywyd ar lan y Rio Negro

Yn y rhaglen hon, rydyn ni'n teithio i ynys ar lannau'r Rio Negro ym Mrasil, un o'r prif afonydd sy'n bwydo afon fawr yr Amazon. Mae pobl yr ynys yn byw ar dai ar bolion ac yma rydyn ni'n cwrdd â bachgen bach direidus, pedair mlwydd oed, o'r enw Carlos Eduardo.
Mwy ...
3. Casglu'r iam yn Iap

Yn y rhaglen hon, teithiwn i ynys brydferth Iap yn Micronesia yn ardal gorllewinol y Môr Tawel. Yma, fe gwrddwn â Putin, sy'n bum mlwydd oed, ei chwaer fawr a'i modryb. Mae'r dair yn mynd am dro i'r planhigfeydd a'r llwyni gerllaw i dyrchu a chasglu iam.
Mwy ...
4. Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada

Yn ystod y rhaglen hon rydyn ni'n teithio i ddwy ardal wahanol iawn o'r byd. Yn gyntaf i fynyddoedd uchel Simien yn Ethiopia lle mae pobl yn byw yn uwch nag unrhyw le yn Ewrop na Gogledd America.
Mwy ...
5. Casglu dŵr ar dir Samburu

Yn y rhaglen hon teithiwn i dir Samburu, ardal boeth iawn o Kenya yn Affrica. Dyma lle down ni ar draws bachgen bach pum mlwydd oed o'r enw Nintujigwa a'i dad wrth y ffynnon lle oobl, anifeiliaid a bywyd gwyllt yn rhannu'r un ffynhonnell o ddŵr tanddaearol yn gytûn.
Mwy ...
6. Paratoadau cyffrous ym Mongolia

Yn y rhaglen hon awn i dref ym Mongolia i gwrdd â merch fach chwe mlwydd oed o'r enw Aisana a'i ffrind unarddeg mwydd oed sy'n paratoi drwy wisgo gwisg arbennig a phrydferth ar gyfer gŵyl flynyddol yr Eryr sy'n cael ei chynnal yn y dref.
Mwy ...
7. Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd

Yn y rhaglen hon, teithiwn i Ddyffryn Tari ym Mhapua Gini Newydd i weld rhai o ddawnswyr Huli. Rydyn ni'n cwrdd yma ag Evelyn, sy'n bum mlwydd oed, wrth iddi gael ei gwisgo a'i haddurno ar gyfer gŵyl ddawnsio drawiadol a lliwgar y Sing Sing.
Mwy ...
8. Byw ar gefnfor Malaysia

Yn y rhaglen hon, teithiwn i fôr Sulu yn y Cefnfor Tawel yn ne ddwyrain Asia i weld sut mae teuluoedd sipswn môr y Bajau Laut yn byw ar y môr yn gyfan gwbl ar gychod. Mae'r plant yn cael eu geni ar y cychod ac yn cael eu magu gyda'r môr yn gartref ac yn faes chwarae iddyn nhw.
Mwy ...
9. Byw ym Mongolia

Yn y rhaglen hon rydyn ni'n teithio i wastadeddau Mongolia i gwrdd â Shoree sy'n bedair mlwydd oed, a'i theulu. Mae Shoree yn dangos eu tŷ crwn nodweddiadol inni a'u gyrr o iaciaid cyn mynd i helpu ei theulu i godi tŷ newydd.
Mwy ...
10. Byw yn y jyngl, Papua

Yn y rhaglen yma, teithiwn i jyngl yng ngorllewin Papua lle mae llwyth y Korowai yn byw - un o'r ychydig lwythi, hyd y gwyddom, sy'n byw mewn tai yn y coed. Yma y down i adnabod merch fach chwe mlwydd oed o'r enw Dua sy'n dringo i'r entrychion at ei chartref gyda hyder ac arbenigedd hynod.
Mwy ...
11. Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro

Yn y rhaglen hon, teithiwn i ddau leoliad gwahanol ar draws y byd. I ddechrau, mae'n ddiwedd haf yn Siorapaluk ar yr Ynys Las lle mae Hanna sy'n bedair mlwydd oed yn dangos ei thŷ haf inni. Yna, teithiwn i lannau'r Rio Negro a chwrdd â Carlos Edwardo - sydd hefyd yn ymddangos yn yr ail raglen.
Mwy ...
12. Casglu dŵr ym Mali

Yn y rhaglen hon awn i anialwch crasboeth ger Antogo ym Mali lle mae pobl y Dogon yn byw. Mae dŵr yn sychu'n gyflym yma oherwydd y gwres tanbaid sy'n golygu ei fod yn brin iawn am gyfnod tra mae'r bobl yn aros yn eiddgar am y glaw nesaf.
Mwy ...
13. Yn y jyngl ym Mrasil

Yn y rhaglen hon, teithiwn i bentref yng nghrombil fforest yr Amazon yng ngorllewin Brasil llae mae llwyth y Matis yn byw. Mae'n wych gweld sut mae plant y Matis yn helpu aelodau hŷn y gymuned.
Mwy ...
14. Anifeiliaid o amgylch y byd

Yn y rhaglen hon, teithiwn o amgylch y byd i weld pob math i anifeiliaid a chreaduriaid.
Mwy ...
15. Cartrefi o amgylch y byd

Yn y rhaglen hon, teithiwn o amgylch y byd i weld pobl math o gartrefi lle mae Plant y Byd yn byw. Mae'n rhyfeddol gweld sut mae'r cartrefi wedi eu haddasu i'r hinsawdd a'r amgylchedd lle maen nhw'n byw.
Mwy ...
16. Helpu a chwarae

Yn rhaglen ola'r gyfres, teithiwn o amgylch y byd i weld sut mae Plant y Byd yn helpu eu cymdeithas ac yn chwarae â'i gilydd.
Mwy ...
Ewch i'r adran Gwylio i weld y rhaglenni yma yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.




