
Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada
Rhaglen 4: Darllediad cyntaf am 8.30 dydd Mercher 26 Ionawr, ailddarllediad 12.20 dydd Iau 3 Chwefror 2011 yn ystod Cyw ar S4C.
Yn ystod y rhaglen hon rydyn ni'n teithio i ddwy ardal wahanol iawn o'r byd. Yn gyntaf i fynyddoedd uchel Simien yn Ethiopia lle mae pobl yn byw yn uwch nag unrhyw le yn Ewrop na Gogledd America.
Yn y mynyddoedd hyn cawn gip ar fywyd rhyfeddol merch fach chwe mlwydd oed o'r enw Maza a'i theulu a gweld eu cartref, sydd wedi ei wneud o fwd a gwellt.
Yna, awn i Ogledd Canada lle mae'n rhewllyd o oer i gwrdd â merch fach arall chwe mlwydd oed o'r enw Kirima. Mae wedi ei lapio'n gynnes wrth iddi helpu ei theulu i adeiladu iglw. Mae'r rhaglen hon yn adlewyrchu bywydau gwahanol iawn dwy ferch fach chwe mlwydd oed.
Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.
Mwy
- 1. Helpu ym Mali
- 2. Bywyd ar lan y Rio Negro
- 3. Casglu iam yn Iap
- 5. Casglu dŵr ar dir Samburu
- 6. Paratoadau cyffrous ym Mongolia
- 7. Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd
- 8. Byw ar gefnfor Malaysia
- 9. Byw ym Mongolia
- 10. Byw yn y jyngl, Papua
- 11. Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro
- 12. Casglu dŵr ym Mali
- 13. Yn y jyngl ym Mrasil
- 14. Anifeiliaid o amgylch y byd
- 15. Cartrefi o amgylch y byd
- 16. Helpu a chwarae




