
Bywyd ar lan y Rio Negro
Rhaglen 2: Darllediad cyntaf am 8.30 ddydd Mercher Ionawr 19 ac ailddarllediad am 12.20 ar ddydd Iau 27 Ionawr 2011 yn ystod Cyw ar S4C.
Yn y rhaglen hon, rydyn ni'n teithio i ynys fechan Darcoa lle mae cymunedau o bobl yn byw ar lannau'r Rio Negro ym Mrasil. Mae'r Rio Negro yn un o'r ddwy brif afon sy'n bwydo afon fawr yr Amazon (y Solimoes yw'r llall).
Rhaid mynd ar daith o 36 awr ar gwch i fyny'r afon cyn dod at yr ynys hon, sef clwstwr o dai bychain wedi eu hadeiladu ar bolion ychydig fetrau uwchlaw'r traeth. Mae tua 30 o bobl yn byw yma ac maent yn cael eu galw'n 'caboclos' - disgynyddion y llwythau cynhenid ac Ewropeaid - ac mae'r ffordd maen nhw'n byw o ddydd i ddydd yn ddibynnol ar lefel yr afon sy'n codi a gostwng.
Yma rydyn ni'n cwrdd â bachgen bach direidus, pedair mlwydd oed, o'r enw Carlos Eduardo. Mae'n gyfnod y tymor sych (rhwng Medi a Rhagfyr) pan mae bywyd yn llawn hwyl gyda phawb yn cymdeithasu, chwarae ac ymlacio. Rydyn ni'n ei weld yn adeiladu cestyll tywod gyda'i nain.
Mae sŵn y gloch yn canu yn dynodi ei bod yn amser i Carlos Eduardo a'i ffrindiau fynd i'r ysgol. Yn ystod y wers mae parot anwes yn hedfan i mewn i'r dosbarth gan roi mwynhad mawr i Carlos sy'n chwarae gyda'i ffrind pluog. Ar ddiwedd y diwrnod, mae Carlos yn ymlacio drwy chwarae ar lannau'r afon - diwrnod nodweddiadol ym mywyd Carlos Eduardo.
Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.
Mwy
- 1. Helpu ym Mali
- 3. Casglu iam yn Iap
- 4. Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada
- 5. Casglu dŵr ar dir Samburu
- 6. Paratoadau cyffrous ym Mongolia
- 7. Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd
- 8. Byw ar gefnfor Malaysia
- 9. Byw ym Mongolia
- 10. Byw yn y jyngl, Papua
- 11. Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro
- 12. Casglu dŵr ym Mali
- 13. Yn y jyngl ym Mrasil
- 14. Anifeiliaid o amgylch y byd
- 15. Cartrefi o amgylch y byd
- 16. Helpu a chwarae




