
Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro
Rhaglen 11: darllediad cyntaf am 8.30 dydd Llun 21 Chwefror, ailddarllediad am 12.20 dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011 yn ystod Cyw ar S4C.
Yn y rhaglen hon, teithiwn i ddau leoliad gwahanol ar draws y byd. I ddechrau, mae'n ddiwedd haf yn Siorapaluk ar yr Ynys Las - y man fwyaf gogleddol sy'n gartref i bobl gynhenid, a lle mae rhew'r môr wedi toddi yn llwyr.
Yma, rydyn ni'n cwrdd â Hanna sy'n bedair mlwydd oed wrth iddi ddangos ei thŷ haf inni.
Yna, teithiwn i lannau'r Rio Negro lle mae'r afon wedi gorlifo a chwrdd â Carlos Edwardo, sy'n bedair mlwydd oed. (Rydyn ni eisoes wedi cwrdd ag o - gweler rhaglen 2). Mae nawr yn ganol Mehefin ac mae bywyd Carlos Eduardo yn dra gwahanol oherwydd y newid tymhorol ar hyd yr Amazon.
Mae hyd at dair medr o law wedi syrthio ym masin yr Amazon ac mae'r llifogydd wedi troi'r ardal yn fforest ddŵr fawr. Mae'r dŵr nawr yn dod at erchwyn y drws. Mae dosbarthiadau'r ysgol wedi symud o adeilad ar bolion gan fod yr ysgol, yr unig adeilad sydd wedi ei godi ar dir sych, o dan ddŵr.
Rhaid cael canŵ i fynd i'r ysgol, neu i unrhyw le arall. Mae ceryntau'r Rio Negro yn llifo'n gyflym o dan y tai a gallai rhywun gael ei ysgubo i ffwrdd os yw'n syrthio i mewn - ac eto, gwelwn Carlos Eduardo yn cael ei gludo i'r ysgol mewn canŵ gan ei chwaer heb siaced achub.
Mae'n ffordd o fyw rhyfeddol ac yn rhan o gylch blynyddol yr Amazon - ac ymhen hir a hwyr bydd y tir yn sychu eto a'r cylch yn ailddechrau.
Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.
Mwy
- 1. Helpu ym Mali
- 2. Bywyd ar lan y Rio Negro
- 3. Casglu'r iam yn Iap
- 4. Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada
- 5. Casglu dŵr ar dir Samburu
- 6. Paratoadau cyffrous ym Mongolia
- 7. Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd
- 8. Byw ar gefnfor Malaysia
- 9. Byw ym Mongolia
- 10. Byw yn y jyngl, Papua
- 12. Byw ym Mali
- 13. Byw yn y jyngl, Brasil
- 14. Anifeiliaid o amgylch y byd
- 15. Cartrefi o amgylch y byd
- 16. Helpu a chwarae




