
Casglu dŵr ym Mali
Rhaglen 12: Darllediad cyntaf am 8.30 dydd Mercher 23 Chwefror, ailddarllediad am 12.20 ddydd Iau 3 Mawrth 2011 yn ystod Cyw ar S4C.
Yn y rhaglen hon awn i anialwch crasboeth ger Antogo ym Mali lle mae pobl y Dogon yn byw.
Mae dŵr yn sychu'n gyflym yma oherwydd y gwres tanbaid sy'n golygu ei fod yn brin iawn am gyfnod tra mae'r bobl yn aros yn eiddgar am y glaw nesaf.
Dyma lle rydyn ni'n cwrdd ag Edjongon, merch fach dair blwydd oed, a'i mam. Mae Edjongon yn helpu ei mam i gasglu dŵr o ffynnon agored ddofn. Gyda'u piseri yn llawn o ddŵr, maen nhw'n cerdded pellter maith am adref gan gario'r dŵr prin ar eu pennau. Rhan o drefn ddyddiol Edjongon a'i mam.
Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.
Mwy
- 1. Helpu ym Mali
- 2. Bywyd ar lan y Rio Negro
- 3. Casglu'r iam yn Iap
- 4. Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada
- 5. Casglu dŵr ar dir Samburu
- 6. Paratoadau cyffrous ym Mongolia
- 7. Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd
- 8. Byw ar gefnfor Malaysia
- 9. Byw ym Mongolia
- 10. Byw yn y jyngl, Papua
- 11. Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro
- 13. Byw yn y jyngl, Brasil
- 14. Anifeiliaid o amgylch y byd
- 15. Cartrefi o amgylch y byd
- 16. Helpu a chwarae




