
Paratoadau cyffrous ym Mongolia
Rhaglen 6: darllediad cyntaf am 8.30 ddydd Mercher 2 Chwefror, ailddarllediad am 12.20 ddydd Iau 10 Chwefror 2011 yn ystod Cyw ar S4C.
Yn y rhaglen hon awn i dref ym mynyddoedd Mongolia i gwrdd â merch fach chwe mlwydd oed o'r enw Aisana a'i ffrind un-ar-ddeg mlwydd oed.
Mae Aisana yn un o bobl y Kazakh ac mae'n paratoi drwy wisgo gwisg arbennig a phrydferth ar gyfer gŵyl flynyddol yr Eryr sy'n cael ei chynnal yn y dref.
Mae'r mamau yn gwneud y gwisgoedd â llaw yn arbennig i'w plant.
Dyma ŵyl gyntaf Aisana ac mae hi'n llawn cynnwrf wrth baratoi gyda'i ffrind.
Bydd yn ymuno â channoedd o blant eraill i gerdded drwy'r dref i ddangos eu gwisgoedd prydferth. Dyma ŵyl draddodiadol a lliwgar pobl y Kasakh, helwyr eryrod y mynyddoedd.
Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.
Mwy
- 1. Helpu ym Mali
- 2. Bywyd ar lan y Rio Negro
- 3. Casglu'r iam yn Iap
- 4. Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada
- 5. Casglu dŵr ar dir Samburu
- 7. Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd
- 8. Byw ar gefnfor Malaysia
- 9. Byw ym Mongolia
- 10. Byw yn y jyngl, Papua
- 11. Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro
- 12. Byw ym Mali
- 13. Byw yn y jyngl, Brasil
- 14. Anifeiliaid o amgylch y byd
- 15. Cartrefi o amgylch y byd
- 16. Helpu a chwarae




