Dua yn pwyso ar goeden yn y jyngl © Rachael Kinley

Byw yn y jyngl, Papua

Rhaglen 10: darllediad cyntaf am 8.30 ddydd Mercher 16 Chwefror, ailddarllediad am 12.20 ddydd Iau, Chwefror 24, 2011 yn ystod Cyw ar S4C.

Yn y rhaglen yma, teithiwn i jyngl yng ngorllewin Papua lle mae llwyth y Korowai yn byw. Maent yn un o'r ychydig lwythi sy'n dal i fyw heddiw drwy hela a chasglu. Dyma un o'r ychydig gymdeithasau sydd yn dal i fod yn gwybod sut i gael popeth sydd ei angen arnyn nhw o'r bywyd naturiol o'u cwmpas. Maent fwyaf adnabyddus am fynd â bywyd yn y fforest law un gam ymhellach.

Hyd y gwyddon ni, llwyth y Korowai a'u cymdogion, y Kombai, yw'r unig ddiwylliannau yn y byd sy'n byw mewn tai yn y coed. Maent wedi eu hadeiladu o amgylch coed mawr mor uchel â 35 metr (115 troedfedd) uwchlaw'r ddaear gyda sgiliau a chyfraniad y gymuned gyfan. Mae eu holl ddeunydd adeiladu a'u dillad yn dod o'r goedwig.

Mae'r tai yn y coed yn gampweithiau o gynllunio peirianyddol naturiol, ac yn fwy trawiadol byth am eu bod wedi eu hadeiladu mor uchel. Rhesymau ymarferol sydd dros y tai uchel yma: gall llawr y fforest oddi tanynt fod yn gorsiog ac yn llawn dŵr ar ôl glaw trwm. Hefyd mae'r uchder yn golygu eu bod ymhell uwchlaw'r mosgitos a'r pryfaid eraill sy'n brathu, ac mae byw yn y coed yn eu hamddiffyn rhag ymosodiadau gan lwythi eraill. Fel adeiladau uchel mewn dinasoedd, mae tai pen coed yn symbol o reolaeth y llwyth dros eu hamgylchedd, a pho fwyaf ac uchaf yw'r tŷ, po fwyaf o sgil sydd eu hangen ar yr adeiladwyr.

Mae'n cymryd rhwng pythefnos a mis i gwblhau tŷ pen coed. Mae'r adeiladwyr yn creu'r ffrâm, yn gosod to o ddail palmwydd ac yn codi waliau o roliau o risgl coeden wedi ei hollti oddi ar fonion coed mawr. Yn un pen o'r tŷ, maent yn adeiladu balconi lle gall y preswylwyr fwynhau'r olygfa a gweld eu tiriogaeth. Pan mae teulu estynedig yn symud i mewn, felly hefyd ei hanifeiliaid, fel y cŵn sy'n cael eu cario i fyny. Dydyn nhw fawr o dro yn dod i arfer â byw 30 metr uwchlaw'r ddaear.

Mwy rhyfeddol fyth yw hyder y plant wrth iddyn nhw redeg o amgylch eu tai uchel. Gadweir i blant bach hyd yn oed chwarae heb oruchwyliaeth, yn beryglus o agos at ymyl y balconi, ond pan fo bywyd mor ddibynnol ar deimlo'n gartrefol yn y coed, mae'n rhaid dysgu gwersi yn gynnar.

Yma y down i wybod am fywyd anhygoel merch fach chwe mlwydd oed o lwyth y Korowai o'r enw Dua. Mae'n dangos y tŷ^ yn y coed lle mae hi'n byw ac yn dringo i'r entrychion at ei chartref gyda hyder ac arbenigedd hynod heb unrhyw oruchwyliaeth nac offer diogelwch. Ar ôl cyrraedd, mae'n dangos sut mae hi a'i theulu yn coginio sego mewn twll tân clai cyn dangos y golygfeydd gwych sydd ganddi o'r balconi uwchben.

Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.