
Byw ar gefnfor Malaysia
Rhaglen 8: Darllediad cyntaf am 8.30 ddydd Mercher 9 Chwefror, ailddarllediad am 12.20 ddydd Iau, 17 Chwefror 2011 yn ystod Cyw ar S4C.
Yn y rhaglen hon, teithiwn i fôr Sulu yn y Cefnfor Tawel yn ne ddwyrain Asia i weld sut mae teuluoedd sipswn môr y Bajau Laut yn byw yn gyfan gwbl ar gychod ar y dŵr.
Mae'r plant yn cael eu geni ar y cychod ac yn cael eu magu gyda'r môr yn gartref ac yn faes chwarae iddyn nhw. Mae plant sipsiwn y môr yn addasu i'r bywyd morwrol mewn ffyrdd rhyfeddol.
Rydyn ni'n gweld sut mae llawer o deuluoedd yn byw gyda'i gilydd ar y cychod wrth iddyn nhw goginio a golchi dillad ac yn symud gyda'i gilydd i chwilio am y llefydd gorau i bysgota am fwyd.
Wedi treulio eu bywydau i gyd ar y cychod mae pobl y Bajau Laut yn aml yn teimlo yn 'sâl tir' ar yr ychydig droeon maen nhw'n ymweld â'r tir mawr i nôl dŵr glan, neu i fasnachu am nwyddau.
Rydyn ni hefyd yn dysgu sut maent yn rhoi masgiau traddodiadol wedi eu gwneud o wymon ar eu hwynebau i'w hamddiffyn rhag yr haul. Ac yn olaf, gwelwn sut mae bechgyn ifanc yn plymio'n hyderus i'r dyfroedd dwfn - ffordd o fyw i blant y Bajau Laut.
Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.
Mwy
- 1. Helpu ym Mali
- 2. Bywyd ar lan y Rio Negro
- 3. Casglu'r iam yn Iap
- 4. Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada
- 5. Casglu dŵr ar dir Samburu
- 6. Paratoadau cyffrous ym Mongolia
- 7. Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd
- 9. Byw ym Mongolia
- 10. Byw yn y jyngl, Papua
- 11. Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro
- 12. Byw ym Mali
- 13. Byw yn y jyngl, Brasil
- 14. Anifeiliaid o amgylch y byd
- 15. Cartrefi o amgylch y byd
- 16. Helpu a chwarae




