
Casglu dŵr ar dir Samburu
Rhaglen 5: Darllediad cyntaf am 8.30 ddydd Llun 31 Ionawr, ailddarllediad am 12.20 ddydd Mawrth 8 Chwefror 2011 yn ystod Cyw ar S4C.
Yn y rhaglen hon teithiwn i dir Samburu, ardal boeth iawn o Kenya yn Affrica. Dyma gartref pobl y Samburu sy'n addurno eu hunain gyda lliwiau hardd iawn. Ond, oherwydd yr hinsawdd a'r amgylchedd, ychydig iawn o ddillad maen nhw'n ei wisgo.
Yn sychdwr y Samburu, lle mae afonydd yn diflannu, mae pobl, anifeiliaid a bywyd gwyllt yn rhannu'r un ffynhonnell o ddŵr tanddaearol yn gytûn.
Mae'r Samburu yn tyllu ffynhonnau a'r isaf mae lefel y dŵr yn syrthio y dyfnaf maen rhaid iddyn nhw dyllu. Mae pobl y Samburu yn rhoi dŵr mewn cafnau pren i'r anifeiliaid ei yfed - eu camelod, eu geifr ac unrhyw anifeiliaid eraill sydd angen dŵr.
Dyma lle down ni ar draws bachgen bach pum mlwydd oed o'r enw Nintujigwa a'i dad. Mae'n ddiwrnod nodweddiadol ym mywyd Nintujigwa ac fe'i gwelwn gyda'i deulu yn defnyddio'r dŵr prin i yfed, ymolchi a diwallu syched rhai o'r anifeiliaid.
Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.
Mwy
- 1. Helpu ym Mali
- 2. Bywyd ar lan y Rio Negro
- 3. Casglu'r iam yn Iap
- 4. Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada
- 6. Paratoadau cyffrous ym Mongolia
- 7. Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd
- 8. Byw ar gefnfor Malaysia
- 9. Byw ym Mongolia
- 10. Byw yn y jyngl, Papua
- 11. Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro
- 12. Byw ym Mali
- 13. Byw yn y jyngl, Brasil
- 14. Anifeiliaid o amgylch y byd
- 15. Cartrefi o amgylch y byd
- 16. Helpu a chwarae




