Bushe, bachgen chwe mlwydd oed o lwyth y Matis © Willow Murton

Yn y jyngl ym Mrasil

Rhaglen 13: Darllediad cyntaf am 8.30 ddydd Llun 28 Chwefror, ailddarllediad am 12.20 ddydd Mawrth 8 Mawrth 2011 yn ystod Cyw ar S4C.

Yn y rhaglen hon, teithiwn i bentref yng nghrombil fforest yr Amazon yng ngorllewin Brasil.

Yma y down i adnabod llwyth y Matis ac mae'n wych gweld sut mae plant y Matis yn helpu'r aelodau hŷn fel rhan o'u bywydau bob dydd yn ogystal â chwarae yn y gymuned glos hon.

Ac wrth gwrs, hyd yn oed yn ddwfn yn y jyngl, mae pawb yn caru pêl-droed.

Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.